Buddsoddiad cymdeithasol yw ecwitilled-ecwiti neu fuddsoddiad dyled mewn busnes cymdeithasol lle mae’r buddsoddwr yn disgwyl enillion cymdeithasol yn ogystal ag ariannol. 

Efallai bydd rhai buddsoddwyr cymdeithasol yn cymryd rôl lywodraethu yn y busnes cymdeithasol y byddant yn buddsoddi ynddo, ond mae’r rhan fwyaf o fuddsoddiad cymdeithasol hyd yma wedi’i gyllido gan ddyled gan amlaf. Mae buddsoddiad cymdeithasol yn gweithio'r un fath ag unrhyw gyllid ecwiti neu ddyled, gydag adenillion cymdeithasol yn ofyniad ychwanegol. Datblygir cynhyrchion buddsoddi fel Bondiau Effaith Gymdeithasol yn fodd newydd o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. 

Mathau o fuddsoddwyr cymdeithasol

Mae buddsoddwyr cymdeithasol yn amrywio o fuddsoddwyr angel dyngarol i fanciau moesegol, nawdd llywodraeth a chronfeydd elusennol. Maent oll yn fodlon buddsoddi eu cyllid cyfalaf mewn busnes cymdeithasol yn erbyn addewid o adenillion cymdeithasol. Mae buddsoddwyr cymdeithasol mor ddiwyd â rhai traddodiadol wrth asesu’r busnes y maent yn ei gefnogi’n ariannol. Yn wir, bydd ymddiriedolaethau elusennol sy’n ystyried buddsoddi yn aml yn fwy pwyllog wrth ystyried risg. 


Adnoddau busnes buddsoddiad cymdeithasol 

Mae Big Society Capital yn sbarduno llawer o’r twf mewn buddsoddiad cymdeithasol. Sefydliad ariannol annibynnol gyda chenhadaeth gymdeithasol ydyw, sy’n helpu i dyfu’r farchnad buddsoddiad cymdeithasol yn y DU. Mae gan BSC lawer o adnoddau defnyddiol i’r rheini sy’n ystyried buddsoddiad cymdeithasol, gan gynnwys rhestr gynhwysfawr o gronfeydd. 

Mae canllaw’r Loteri Fawr  i fuddsoddiad cymdeithasol ar gael ar ei gwefan.     

Mae Social Investment Business  yn cynnig adnoddau defnyddiol a rhestr o’i gronfeydd ei hun. 

Mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn rhan o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Ers 10 mlynedd bellach, mae’n cefnogi mentrau cymdeithasol yng Nghymru ag amrywiaeth o gynhyrchion ariannol. 

Mae Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru  yn helpu busnesau cymdeithasol a grwpiau cymunedol i godi cyfalaf cyfranddaliadau. 


Archwiliwch ragor o ffynonellau cyllid i’ch busnes cymdeithasol.