Eich rhanddeiliaid yw’r bobl a’r sefydliadau sydd â budd ariannol, cymdeithasol neu amgylcheddol yn eich busnes cymdeithasol.

Y rhanddeiliaid allweddol yw cyflogeion, cwsmeriaid, cyflenwyr, buddsoddwyr, cymuned, banc, benthycwyr, sefydliadau partner a llywodraeth.

Gallai’r rhanddeiliaid hyn fod yn rhan o aelodaeth y busnes cymdeithasol a chael rheolaeth aelod democratig ar y sefydliad. Efallai bydd aelodau a rhanddeiliaid eraill am helpu’r busnes cymdeithasol i gyrraedd ei nodau drwy fuddsoddi ynddo.    


Mathau o fuddsoddiad rhanddeiliaid 

Mae buddsoddiad aelodau neu randdeiliaid yn dda i’r busnes cymdeithasol. Dengys ffydd ac ymroddiad, sy’n bwysig yn asesiad buddsoddwyr eraill. Mae nifer o fathau o fuddsoddiad y gall eich rhanddeiliaid ddewis o’u plith:

Ecwiti

Ecwiti yw’r peth gorau nesaf i elw argadwedig. Mae’n lleihau’r ddibyniaeth ar fuddsoddwyr allanol ac yn gwneud gwyrthiau i’ch statws credyd (gwerthusiad o allu unigolyn neu fusnes i ad-dalu mewn pryd) gyda chyflenwyr.

Os bydd eich rhanddeiliaid yn gwneud eu buddsoddiad fel cyfranddaliadau, mae’n ymddangos i lawr ar waelod y dudalen ar y fantolen. Yn hytrach nag ymddangos fel atebolrwydd fel y byddai benthyciad yn ymddangos, mae buddsoddiad ecwiti’n ymddangos ochr yn ochr ag elw argadwedig fel arian parod sy’n perthyn i’r busnes heb unrhyw ofyniad agos i gael ei ad-dalu. Mae hefyd yn gwneud y cymarebau geriad (y gyfran o’r busnes sy’n ‘eiddo’ i bobl fewnol yn hytrach nag allanol) yn fwy diogel.   

Ecwiti slafio

Os yw’ch rhanddeiliaid eisoes yn buddsoddi llawer iawn o amser gweithio gwirfoddol neu ddi-dâl, efallai na fyddant yn barod i fuddsoddi arian parod. Efallai hefyd y bydd yr aelodau’n canolbwyntio ar eu cymuned, codi arian at eu diben elusennol neu’r hyn y dylai’r fenter ei wneud iddynt, yn hytrach na chanolbwyntio ar ba fuddsoddiad sy’n ofynnol.

Fodd bynnag, os yw’r rhanddeiliaid am sicrhau cyflogaeth, cyflawni eu diben cymdeithasol a ffrydiau refeniw’r dyfodol, mae angen iddynt ystyried beth sydd angen iddynt ei gyfrannu i wneud iddo ddigwydd. 


Sut mae creu strategaeth fuddsoddi gytbwys

Yn enwedig yn ystod y dyddiau cynnar wrth ddatblygu menter, gall buddsoddiad rhanddeiliaid fod yn rhan allweddol o  strategaeth fuddsoddi gytbwys. Ar sail buddsoddiadau eich aelodau neu elw argadwedig y busnes, gallwch edrych i ddenu buddsoddiad allanol. Wrth ddenu buddsoddiad, mae angen ichi gael rhywbeth i ofyn i’r un allanol cyntaf gyfateb iddo cyn troi at yr ail un i gyfateb eto.

Cafodd un fenter newydd ei dechrau’n ddiweddar gan 4 o bobl ddi-waith, a phob un yn meddwl nad oedd yr un geiniog ar gael iddo. Ar ôl cynnal tri arwerthiant cist car o drugareddau bywyd a gasglwyd, gwerthu un garafán, israddio un car a gwerthu un freichled aur, roedd £6,000 yn y gronfa. 

Cafwyd cyllid i ddechrau ac ehangu mentrau eraill hefyd drwy:    

  • dri mis o lanhau ffenestri 
  • partïon cinio lle’r oedd y gwesteion yn talu prisiau bwyty 
  • morgeisi ar bolisïau yswiriant bywyd 
  • benthyciadau personol o’r banc 
  • palu ffos 
  • gwneud gwaith i fentrau eraill a gadwodd y tâl yn ôl nes ei fod yn ofynnol 

Cymorth gyda dosbarthu cyfranddaliadau 

Ariennir Cyfrdanddaliadau Cymunedol Cymru gan y Gronfa Loteri Fawr ac fe’i cyflenwir gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru. Mae’n rhoi cymorth ledled Cymru ac yn gweithio’n agos gydag Uned Cyfranddaliadau Cymunedol y DU. Nod y prosiect yw hybu ymwybyddiaeth am gyfranddaliadau cymunedol ledled Cymru a chefnogi cymunedau drwy’r broses o roi cyfranddaliadau, gan eu galluogi i ddatblygu gwasanaethau a chyfleusterau lleol wrth wraidd eu cymunedau.    


Llwythwch i lawr ein canllawiau i reoli cyfranddaliadau cwmni sy’n eiddo i gyflogeion: