Mae cynlluniau busnes da yn rhoi trosolwg o’ch amcanion busnes a’r rhagolygon ariannol ar gyfer eich menter.

Mae cynllunio busnes yn eich helpu i osod nodau eglur, diffinio’ch syniadau busnes ac amlinellu’r ffyrdd y byddwch yn mesur cynnydd wrth symud ymlaen. Mae hefyd yn ffordd rwydd o sylwi ar broblemau posibl.

Bydd pwyslais cynllun busnes ar gyfer busnes cymdeithasol ychydig yn wahanol i fusnes mwy confensiynol, ond bydd yr agweddau allweddol yr un fath.  


Sut i ysgrifennu cynllun busnes ar gyfer menter gymdeithasol  

Bydd mwy o wybodaeth sy’n ymwneud â diben cymdeithasol y fenter o gymharu â chynllun busnes masnachol. Nid yw hyn yn golygu y gall materion ariannol a’r elw ar fuddsoddiad gael eu trin yn llai trwyadl. Defnyddiwch eich cynllun busnes i ddangos y diben cymdeithasol neu’r elw cymdeithasol ar y buddsoddiad fel nodweddion ychwanegol busnes sy’n broffidiol ac yn effeithiol fel arall.

Mae ffurf gyfreithiol a threfniadau llywodraethu busnesau cymdeithasol yn aml yn gweddu i gynnwys rhanddeiliaid fel gweithwyr, cwsmeriaid a’r gymuned, yn ogystal â rhanddeiliaid mwy cyffredin (e.e. perchnogion a chyfranddalwyr). Mae angen i’r cynllun busnes adlewyrchu hyn, gan esbonio’r strwythur a’r trefniadau llywodraethu mewn ffordd eglur a chryno. 


Rhestr wirio cynllun busnes – cychwyn arni

Bydd nodweddion tebyg a gwahanol rhwng y canllawiau a’r templedi niferus sydd ar gael ar y rhyngrwyd. Defnyddiwch y syniadau sy’n gweithio orau i chi a defnyddiwch arddull ysgrifennu rydych yn gyfforddus â hi.

Er nad oes rheolau pendant ar gyfer strwythuro cynllun busnes, mae pob canllaw a thempled yn cynnwys rhai elfennau, fel amcanestyniadau ariannol a disgrifiadau o’r cynnyrch/gwasanaeth. Dechreuwch gyda’r rhain a datblygwch y cynllun gydag elfennau sy’n benodol i’ch busnes. 

Defnyddiwch ein hadnoddau cynllunio busnes fel man cychwyn:    

PDF icon
XLS icon
DOCX icon

Cymorth busnes cymdeithasol gan Fusnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchnogion busnes. Rydym wedi rhestru isod rai adnoddau defnyddiol ar gyfer cynllunio’ch busnes cymdeithasol.