Covid-19: Cymorth i'ch busnes cymdeithasol

Mae'r byd yn lle llawn pryder ar hyn o bryd. Mae pobl yn wynebu cyfnod o ansicrwydd na welwyd ei debyg o'r blaen. Yn ogystal ag ystyried iechyd eu teuluoedd a'u cydweithwyr, maent hefyd yn ystyried y ffordd orau o gefnogi eu grwpiau defnyddwyr a'u cymunedau lleol (y mae llawer ohonynt yn agored i niwed), ac yn ystyried sut y gallai eu menter gymdeithasol ymdopi pe bai diffyg incwm neu'r staff yn mynd yn sâl. 

Mae'n adeg pan y gall mentrau cymdeithasol gamu i'r adwy a dod i fri. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld y ffordd anhygoel y mae mentrau cymdeithasol wedi cefnogi cymunedau lleol yn wyneb llifogydd, ac rydym nawr yn gweld sefydliadau'n cynnig pob math o help a chymorth yn ystod yn pandemig hwn. 

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru a'i dîm o gynghorwyr arbenigol wrth law i ateb ymholiadau am lif arian parod, adnoddau dynol, llwyfannau digidol, marchnata a chyfathrebu ac amrywiaeth o feysydd eraill y gallai fod angen eu hailystyried yng ngoleuni'r sefyllfa sydd ohoni. Gallwn roi cyngor dros y ffôn neu drwy fideo-gynadledda - ffoniwch ni ar 0300 111 5050 neu e-bostiwch sbwenquiries@wales.coop os oes angen cymorth arnoch. Mae pethau'n newid yn gyflym iawn, ac rydym yn gweithio fel tîm i ddatblygu adnoddau penodol a fydd ar gael ar y wefan hon yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
 


Cymorth a chefnogaeth busnes cymdeithasol yn ystod yr achosion Coronafeirws

Mae llawer o sefydliadau yn cynnig toreth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchnogion busnes. Isod, rydym wedi rhestru rhai adnoddau defnyddiol ar gyfer busnesau cymdeithasol.