Ystyriwch y posibilrwydd fod eich busnes cymdeithasol presennol yn cynnwys mwy nag un fenter.

A yw’n bosibl datblygu’r rhain i greu dau fusnes cymdeithasol unigol (neu fwy)?

Gallai datblygu’r rhain i fod yn fentrau cymdeithasol ar wahân ei gwneud yn haws i endidau unigol reoli eu hunain, codi buddsoddiad a chynyddu capasiti. Gallai hefyd greu cyfle i ganolbwyntio adnoddau ar ddarparu ‘cynnig’ sy’n symlach i’w esbonio yn y farchnad. 


Mentrau cymdeithasol a chwmnïau deillio yn y sector cyhoeddus 

Mae mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus, fel awdurdodau lleol a’r GIG, yn gallu dewis creu is-ganghennau ac is-gwmnïau.  Gall y corfforaethau hyn fod yn newydd sbon neu gynnwys trosglwyddo gweithwyr ac asedau (e.e. adeiladau, offer). Gall newidiadau o’r fath gael eu dechrau gan y rhiant gwmni, cyllidwr neu gan sylfaenwyr y cwmni newydd, a allai fod yn rhanddeiliaid annibynnol neu’r gweithwyr. 

Bydd y busnesau cymdeithasol newydd dilynol yn elwa ar elfen o annibyniaeth. Bydd cymryd rheolaeth o reolaeth fewnol, codi eu buddsoddiad eu hunain a chynyddu capasiti yn helpu canolbwyntio ar gynnig un cynnyrch neu wasanaeth annibynnol i’r farchnad. 

Mae’r dull datblygu hwn yn galluogi cwmnïau deillio’r fenter gymdeithasol wreiddiol i ddefnyddio treftadaeth ranedig polisïau, gweithdrefnau, systemau ac offer. Yn y cyfamser, byddai pob un ohonynt yn cyfrannu at dwf trwy ganolbwyntio eu hymdrech ar wella’r arbenigedd y maent yn ei gynnig.


Cynllunio cwmni deillio menter gymdeithasol 

Wrth gynllunio cwmni deillio, gwnewch yn siŵr fod gan bob un o’r busnesau cymdeithasol newydd fynediad at yr holl asedau/eiddo/prydlesau hanfodol a’r swyddogaethau canolog, fel cyfrifyddiaeth ac adnoddau dynol. Gallwch gyflawni hyn trwy sefydlu cytundebau contract gwasanaeth rhwng y busnesau datganoledig a’r rhiant.  

Bydd angen i chi fynd i’r afael â materion trosglwyddo staff hefyd, yn ogystal â throsglwyddo contractau a grantiau. Bydd angen cynllun busnes hyfyw sy’n dderbyniol i’r rhiant fenter, cyllidwyr, buddsoddwyr a rhanddeiliaid i ategu’r weithred.  

Cyn lansio eich cwmnïau deillio, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y strwythur cyfreithiol a’r system lywodraethu gorau posibl o ran diogelu ar gyfer y dyfodol – gall fod yn allweddol i lwyddiant y fenter.