Mae cyfalafwyr menter ac angylion busnes yn darparu cyllid i fusnesau sy’n cychwyn ac yn tyfu.
Angylion busnes yn erbyn cyfalaf menter
Unigolion yw buddsoddwyr angel fusnes sy’n buddsoddi eu cyllid personol mewn cyfle busnes a allai ddwyn budd iddynt.
Ar y llaw arall, cwmnïau yw cyfalafwyr menter sy’n defnyddio arian pobl eraill i brynu cyfranddaliadau mewn cwmni preifat sydd heb ei restru ar y gyfnewidfa stoc. Mae cwmnïau felly’n codi cyfalaf menter drwy gynnig y cyfle i fuddsoddwyr gymryd rhan mewn cronfa
Nid angylion mo’r buddsoddwyr hyn bob amser, ond efallai y byddant yn chwarae rhan weithgar yn eich busnes ac yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth, mentora a chysylltiadau. Byddai cyfalafwr menter sy’n chwilio am elw uchel fel arfer yn buddsoddi mewn sefydlu neu ehangu menter fechan sydd â chynnyrch a marchnad sicr.
Mae’r elw uchel yn cyfiawnhau’r risg y mae buddsoddwyr mewn mentrau bach yn ei gymryd. Mae’r ychydig sy’n llwyddiannus iawn yn cynhyrchu twf ecwiti anferth, felly mae’r cyfalafwyr menter yn ceisio dewis enillwyr mewn amgylchedd risg uchel.
Cael gwybod mwy am gyfalaf menter ac angylion busnes.
Menter gymdeithasol, cyfalaf menter ac angylion busnes
I bob pwrpas, bydd gan angylion busnes a chyfalafwyr menter yr hawl i gymryd rheolaeth ar y cwmni os na fydd y rheolwyr presennol yn cyrraedd y targedau perfformiad a nodwyd yn y cynllun datblygu menter.
Fel arfer, bydd cyfalafwyr menter ac angylion busnes yn mynnu sedd ar y bwrdd, yr hawl i gyfnewid eu buddsoddiad am arian ar ôl ychydig flynyddoedd, a gweithredu terfyn uchaf ar godiadau cyflog. Un peth arall a fynnir yn aml yw tîm rheoli cytbwys a chymwysedig, sy’n brofiadol yn ei fasnach, os oes modd.
Bydd y ddau fath o fuddsoddwr hefyd yn dal cyfran fawr yn yr ecwiti cynyddol sydd wedi’i greu o ychwanegu eu harian at y fantolen (yn aml cymaint â 50%). Bydd angen arnynt system o brisio’r gyfran ecwiti honno yn erbyn perfformiad y cwmni.
Gall yr uchod oll gyda’i gilydd olygu colli rheolaeth, ildio elw ariannol am y dyfodol agos a phroblem o ran codi arian ‘prynu allan’ ymhen ychydig flynyddoedd. Mae’r math hwn o gyllid yn annerbyniol gan mwyaf i fusnesau cymdeithasol. Mae’n anelu at uchelgais perchenogion mentrau bach sy’n ystyried posibilrwydd rhyddhau i farchnad OFEX (cyfnewidfa stoc y DU ar gyfer cyfranddaliadau mewn cwmnïau bach) ymhen ychydig flynyddoedd.
Cyn ichi ddiystyru syniad partneriaid cyfalaf yn gyfan gwbl, gallech geisio llunio eich cyfres eich hun o feini prawf ar gyfer partneriaid cyfalaf. Dyma’r meini prawf a osodwyd yn ddiweddar gan gwmni cydweithredol:
- Ni all mwy na 25% o’r aelodau fod yn gyfranogwyr cyfalaf
- Un aelod, un bleidlais
- Mae angen bod o leiaf 75% o’r aelodau yn aelodau sy’n weithwyr
- Y buddsoddiad lleiaf i fod yn gymwys am aelodaeth fel aelod buddsoddwr yw £10,000
- Y cyfnod buddsoddi lleiaf yw pum mlynedd
- Rhaid i’r aelod ymddiswyddo os bydd yn tynnu ei fuddsoddiad yn ôl
- Buddsoddwyr i gael treuliau am fynychu cyfarfodydd y Cwmni Cydweithredol
- Buddsoddwyr i gael eu talu am waith a wneir ar ran y fenter yn ôl cyfradd gyflog y cytunwyd arni
- Buddsoddwyr i gael cyfradd adennill leiaf y cytunwyd arni
- Buddsoddwyr i rannu’n ychwanegol mewn dosbarthiad elw ar y raddfa gyfartalog i aelodau sy’n weithwyr am bob £10,000 a fuddsoddwyd
A do, fe ddaeth buddsoddwyr yn eu blaenau.
Cwmni Buddiannau Cymunedol Cyfyngedig trwy Gyfranddaliadau
Mae strwythur corfforaethol penodol y fenter gymdeithasol newydd 'Cwmni Buddiannau Cymunedol Cyfyngedig trwy Gyfranddaliadau' yn darparu ar gyfer model o fenter gymdeithasol a arweinir gan fuddsoddwr. Mae’r elw net y gellir ei neilltuo i wobrwyo buddsoddwyr wedi’i derfynu ar lefel o 35%. Gelwir hwn y 'cap difidend cyfanredol mwyaf'.
Yn y gorffennol, dim ond 20% ychwanegol o adenillion ar fuddsoddiad y gallai unigolion ei hawlio. Nid yw’r 'cap difidend fesul cyfran' mewn grym rhagor (ers 1/10/2014).
Nid yw’n hawdd cydbwyso rheolaeth, defnyddio adnoddau allanol, rhyddfreinio a difreinio. Penderfynwch beth sydd orau i’ch menter chithau ac yna cynigiwch hynny i weld a oes diddordeb gan rywun. Wyddoch chi byth nes ichi ofyn.