Cyhoeddi enillwyr ar gyfer gwobrau busnes cymdeithasol cymru 2016

Three men smiling with awards

Mae enwau enillwyr ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni wedi cael eu cyhoeddi.  Datgelwyd pwy oedd yr enillwyr mewn seremoni a gynhaliwyd yn Stadiwm Liberty yn Abertawe ar 28 Medi 2016 o flaen cynulleidfa o wahoddedigion pwysig o’r sector busnes cymdeithasol.

Cafodd menter gydweithredol amgylcheddol Dulas ei henwi fel Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yn 2016.  Mae Dulas yn dod o hyd i atebion ynni adnewyddadwy, sydd ar flaen y gad ar gyfer busnesau, tirfeddianwyr ac elusennau.  O’i leoliad ym Machynlleth, mae’n darparu ymgynghoriad ac arloesedd mecanyddol y mae’i gleientiaid eu hangen er mwyn troi’n wyrdd.  Mae Dulas yn arweinydd rhyngwladol yn ei faes ac mae ganddo bortffolio o brosiectau amrywiol dros ben sy’n integreiddio gwyddoniaeth, technoleg a chynaliadwyedd amgylcheddol.  Roedd y wobr, a noddwyd gan BIC Innovation, yn cydnabod Dulas fel sefydliad a oedd yn dangos gweledigaeth ardderchog; cyfradd uchel o fodlonrwydd cwsmeriaid; effaith gymdeithasol, amgylcheddol a chymunedol; creadigedd ac arloesedd yn ogystal â gweledigaeth ar gyfer twf yn y dyfodol.

Yn ogystal, derbyniodd Dulas y Wobr am Fentrau Cymdeithasol yn y Sector Amgylcheddol, a noddwyd gan gwmni cyfreithiol Acuity.

Enillwyd y categori Un i’w Wylio, a noddwyd gan Landsker Business Solutions, gan CBC Creu Menter, menter gymdeithasol sy’n darparu amrediad o wasanaethau cynnal a chadw i landlordiaid cymdeithasol a phreifat. Daeth y fenter hon, sy’n torri tir newydd, i fodolaeth o angen y gymdeithas dai Cartrefi Conwy i gynnal a chadw ei eiddo at safon ardderchog, wrth ddarparu’r sgiliau, yr hyfforddiant a’r cyfleoedd gwaith i’w thenantiaid di-waith a’r gymuned ehangach.  Mae elfen gyffrous ac arloesol o’r cwmni yn cynnig academi gyflogaeth sy’n cynnig 12 mis o waith cyflogedig, hyfforddiant a chefnogaeth i mewn i gyflogaeth arall ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol.

Roedd nifer o wobrau eraill yn cydnabod enghreifftiau o fusnesau cymdeithasol o fewn y sectorau penodol.

Enillwyd y Wobr Diwylliant a Hamdden, a noddwyd gan Charity Bank, gan Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.  Mae’r Ymddiriedolaeth yn rheoli pump o gyfleusterau hamdden a ffitrwydd drwy Dorfaen, yn cynnwys pyllau nofio, neuaddau chwaraeon, canolfannau dringo a llethrau sgïo.  Mae’r gwasanaeth hwn yn eithriadol o hanfodol yn Nhorfaen, lle mae 60% o’r boblogaeth dros bwysau neu’n ordew o’i gymharu â 55% drwy Gymru gyfan.  Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflogi staff cyfwerth â 100 llawn amser, sy’n codi i 400 gyda staff tymhorol, ac ers iddi gymryd y gwasanaeth drosodd, mae’i incwm yn sylweddol uwch na’i thargedau.  Yn bwysicach, gwelodd gynnydd o 27% mewn ymweliadau gweithgaredd corfforol at ychydig dros filiwn y flwyddyn.

Enillwyd y Wobr ar gyfer Mentrau Cymdeithasol yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a noddwyd gan Legal & General, gan Fentrau Cymdeithasol CAIS Cyfyngedig, sefydliad sy’n darparu cefnogaeth, hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl sy’n ymdopi â phroblemau iechyd meddwl neu hanes o broblemau cam-drin sylweddau.  Mae tair o’i mentrau cymdeithasol sy’n ffynnu yn cynnwys siop goffi a bistro; caffi wedi’i anelu at gyn-filwyr; a chanolfan fusnes gydag ystafelloedd cyfarfod.  Drwy’r busnesau hyn, mae CAIS wedi darparu hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith hanfodol yn y sector arlwyo a lletygarwch i fwy na 45 o bobl y llynedd.

Enillwyd y Wobr ar gyfer Mentrau Cymdeithasol yn y Sector Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth, a noddwyd gan NatWest, gan Hyfforddiant Beicio Cymru, prif ddarparwr gwasanaethau hyfforddi beiciau yng Nghymru.  Wedi’i sefydlu yn 2008 gan Andrew Burns a Nicholas Grant-Canham, y mae’n hyrwyddo lles a buddion amgylcheddol beicio.  Mae’i effaith gymdeithasol wedi bod yn anferthol - rhoi sgiliau i filoedd o blant ac oedolion i wneud beicio yn rhan o’u teithio beunyddiol; cyflwyno sesiynau cynnal a chadw beiciau mewn ardaloedd incwm isel; cynnig beiciau wedi’u hadnewyddu am bris fforddiadwy; a galluogi pobl (yn aml, y  rhai di-waith hirdymor) i ddysgu sgiliau newydd ac ennill profiad gwaith.

Mae Sinema Neuadd y Farchnad ym Mrynmawr - y sinema hynaf yng Nghymru a’r unig sinema ym Mlaenau Gwent - wedi ennill y Wobr ar gyfer Menter Gymdeithasol sy’n Wynebu’r Defnyddwyr, a noddwyd gan Hugh James.  Daeth y sinema yn lleoliad a oedd yn eiddo i’r gymuned yn 2013, ac o’r cychwyn roedd yn benderfynol o fod yn hunangynhaliol, gyda ffocws clir ar werthu ‘seddi a losin’.  Gwelodd y cynnig syml hwn, ynghyd ag egni ac uchelgais, gynnydd o fwy na 600% ers dod yn eiddo i’r gymuned, ac mae’r sinema yn awr yn darparu gwasanaeth gwerthfawr, hygyrch ac amrywiol i’w gymuned.

Wedi’u trefnu gan brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru, sy’n cael ei gyflawni gan Canolfan Cydweithredol Cymru, mae’r Gwobrau’n cael eu cyllido’n bennaf gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Eleni, mae categorïau’r Wobr wedi cael eu noddi gan Acuity, BIC Innovation, Charity Bank, Hugh James, Landsker Business Solutions, Legal & General a NatWest, gyda chefnogaeth ychwanegol gan CGGC.

Bydd pob un o’r chwe enillwr yn mynd ymlaen i gystadlu gyda’u cyfatebwyr o’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn seremoni Gwobrau’r DU a gynhelir yng nghanol Llundain ym mis Tachwedd.

PDF icon