Mae cyllid cadwyn gyflenwi’n canolbwyntio ar leihau’r arian parod sy’n cael ei ddal gan eich cyflenwyr, sydd yn glwm mewn stoc neu’n disgwyl cael ei ryddhau gan gwsmeriaid.  

Mae hyn felly’n mwyhau’r swm o arian parod yr ydych chi’n ei ddal. 

Hwyrach mai cyllid cadwyn gyflenwi yw’r math mwyaf cyffredin o gyllido a ddefnyddir gan fusnesau cymdeithasol. Os byddwch yn mwyhau’r swm o arian yn eich busnes, efallai na fydd angen ichi ystyried ffynonellau allanol o gyllid.

Gan edrych ar gylch arian i arian  menter nodweddiadol, gallwn weld bod costau staff a chostau deunydd yn cael eu talu allan cyn cael arian i mewn gan gwsmeriaid. Mae’r gofyniad cyfalaf gweithio i fenter yn cynnwys yr arian sydd yn glwm mewn stoc a gwaith ar ei hanner yn ogystal â’r hyn sy’n ddyledus gan gwsmeriaid am ddosbarthiadau cynharach.

Po fwyaf y bydd menter yn ehangu, mwyaf y bydd ei throsiant a’i gofyniad cyfalaf gweithio. Mae llawer o fentrau wedi methu drwy ddiystyru’r pwynt syml hwn. Er iddynt weithredu’n broffidiol a marchnata’n llwyddiannus, ni fuont yn gallu codi’r arian i dalu am fewnbynnau, gan arwain at afleoliad, cynhyrchaeth isel, a cholled.

Gellir cadw cyfalaf gweithio mor isel â phosibl drwy reoli’n dda. Gweithiwch tuag yn ôl o gwmpas y cylch arian i arian i weld ymhle allwch chi gael effaith. Isod, edrychwn ar y gwahanol agweddau ar y gadwyn gyflenwi a nodwn ffyrdd y gallwch wneud yr elw mwyaf posibl ym mhob cam: 

Llwythwch i lawr ein canllaw i lif arian busnes am arddangosiad o gyllid cadwyn gyflenwi: