Cymhelliant

Woman on exercise machine at gym

Gofynnwch i chi eich hun, “Pam ydw i eisiau dechrau’r busnes cymdeithasol hwn?” Os yw er budd ariannol personol, yna dylech ystyried sefydlu busnes masnachwr unigol, lle byddwch yn berchen arno ac yn derbyn yr elw ohono.  

Yn ddieithriad, sefydlir busnesau cymdeithasol i fodloni angen – i gynnig rhywbeth sydd ar goll o wead y gymuned. Gofynnwch i chi’ch hun:

  • beth yw’r angen, yn union?
  • pa dystiolaeth sydd ar gael?
  • oes unrhyw un arall yn cydnabod yr angen?
  • a oes modd ei fesur?
  • pa wahaniaeth bydd bodloni’r angen hwn yn ei wneud?
  • ydw i eisiau parhau â’r fenter o hyd?
  • oes gen i’r egni, yr ymrwymiad a’r gallu i lwyddo?