Cymorth wyneb-yn-wyneb oddi Fusnes Cymdeithasol Cymru

Group photo of people

Cynyddu trosiant. Cynyddu elw. Arallgyfeirio. Ehangu. Cydweithredu. Cydweithio. Trawsnewid eich busnes cymdeithasol. Pa dwf bynnag yr hoffech ei weld, gall Busnes Cymdeithasol Cymru roi cymorth arbenigol ichi.

Rydym yn gweithredu ledled Cymru ar ran busnesau cymdeithasol – mentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, is-gwmnïau elusennol, busnesau sy’n eiddo i’w staff a chyrff cydfuddiannol.

Rydym wedi bod yn helpu mentrau cydweithredol a busnesau cymdeithasol ers 1982. Mae ein tîm o Gynghorwyr Busnes arbenigol yn cael eu cefnogi gan ymgynghorwyr arbenigol mewn meysydd megis Adnoddau Dynol, y gyfraith, cyllid a marchnata. Ac oherwydd bod Busnes Cymdeithasol Cymru yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru yn rhan o Busnes Cymru, mae’n wasanaeth sy’n rhad ac am ddim.

Rydym yn cynnig pecyn o gefnogaeth sydd wedi’i theilwra’n llawn i gyd-fynd ag anghenion eich sefydliad. Byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs gyda chi am helpu eich busnes cymdeithasol i dyfu. Cysylltwch â ni trwy alw 03000 6 03000 a gallwn drefnu sgwrs anffurfiol gydag un o arbenigwyr Busnes Cymdeithasol Cymru.