Cymuned

Group of people taking part in activity

Ar ôl nodi’r angen sydd yn y gymuned y bydd eich busnes cymdeithasol chi’n mynd i’r afael ag ef, allwch chi nawr ddisgrifio neu ddiffinio’r gymuned honno? 

Disgrifiwch ym mha ffordd mae’r angen penodol yn effeithio ar y gymuned. A yw’n effeithio ar unigolion, teuluoedd, ysgolion, yr economi leol ac ati?

Amcangyfrifwch faint y gymuned yn ôl poblogaeth, ardal ddaearyddol ac ati. Beth yw maint y broblem yn y gymuned? Os ydych chi wedi defnyddio unrhyw waith ymchwil i wneud yr ymarfer hwn, nodwch eich ffynonellau isod.

DOC icon

Dadansoddi rhanddeiliaid 

Dyma ymarfer defnyddiol i’w wneud. Bydd yn eich helpu chi i egluro sut mae’r fenter yn cysylltu ag elfennau amrywiol y gymuned y mae’n rhan ohoni ac, yn y pen draw, bydd yn eich helpu i benderfynu ar y ffurf gyfreithiol fwyaf addas. 

Yn gyntaf, rhestrwch yr holl grwpiau neu gyrff sydd â buddiant yn llwyddiant y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol, a mwy:

  • y rheiny sy’n cael eu heffeithio gan yr allbwn cymdeithasol
  • partneriaid strategol
  • buddsoddwyr
  • gweithwyr
  • awdurdodau lleol ac asiantaethau llywodraethol

Y cam nesaf yw nodi’r canlynol ar gyfer pob un o’r grwpiau hyn:

  • Beth yw eu buddiant?
  • A yw eu bodloni yn hanfodol i lwyddiant y fenter? Er enghraifft, ni fyddwch yn llwyddo os na fyddwch yn talu eich trethi.
  • A fyddant yn cael dylanwad ar ddatblygiad y fenter? A ddylent fod yn rhan o reoli’r fenter? Os felly, sut?

Yna, gallwch flaenoriaethu’r rhanddeiliaid yn ôl a) pa mor bwysig yw hi i’w bodloni, a b) faint o ddylanwad sydd ganddynt. Yr un ar frig eich rhestr yw eich rhanddeiliad allweddol. Dyma’r bobl rydych chi’n gweithio ar eu rhan go iawn. 

Mae mwy o wybodaeth am ddadansoddi rhanddeiliaid a sut y gallwch ei ddefnyddio er budd eich menter ar gael.

Lawrlwythwch offeryn i’ch cynorthwyo chi i gynnal dadansoddiad o randdeiliaid.