Business planning for a social business

Er mwyn cynnal busnes cymdeithasol a reolir yn dda, mae’n bwysig bod â chynllun busnes cyfredol.

Gwnewch yn siŵr ei fod yn gytbwys ac ar gael yn rhwydd i bawb yn eich sefydliad, fel bod gweithwyr yn gallu dehongli gweithredoedd rheoli beunyddiol ohono. Gallai cynllun busnes o ansawdd gwael arwain at gamreoli’ch busnes a’i wneud yn wrthgymdeithasol. Gallai hyd yn oed achosi methdaliad!

Porwch drwy ein hadran cynllunio busnes i gael arweiniad ar ysgrifennu eich cynllun busnes. 


Pam mae cynllun busnes yn bwysig i’ch menter gymdeithasol

Mae’n debygol y bydd eich cynllun busnes yn fwy ymarferol mewn busnes cymdeithasol na busnes preifat, lle y gall fod yn sgwrs rhwng perchnogion busnes a chefnogwyr ariannol.

Mewn busnes cymdeithasol, defnyddir y cynllun busnes i gychwyn sgwrs rhwng yr holl randdeiliaid (mewnol ac allanol) ac maen nhw i gyd yn gyfrifol amdano. Bydd perchnogaeth ehangach a rennir o’r ddogfen yn adlewyrchu gwir ddyfodol y busnes yn well. Mae hyn yn gwneud y cynllun yn ganllaw gweithredu defnyddiol ar gyfer rheoli ac yn ffordd rymus o gael cefnogaeth wybodus a gweithredol gan randdeiliaid presennol yn ogystal â chefnogwyr newydd.


Beth yw manteision cynllunio busnes?

Mae cynllun busnes yn darparu modd o gymharu dyfodol a ddychmygwyd yn flaenorol â’r presennol fel y mae mewn gwirionedd. Mae’n canolbwyntio ar reoli adnoddau presennol yn well a gwneud amcanestyniadau pellach mwy cywir. Felly, mae’n newid yn ddynamig ac yn aml. Er mwyn sicrhau bod pawb yn edrych ar yr un cynllun ac yn gweithio tuag ato, ceisiwch weithredu system rheoli fersiynau.

I gyflawni’r manteision hyn, mae angen i’r cynllun busnes fod yn ddogfen ‘ymarferol’, weithredol, ac mae angen i berfformiad go iawn gael ei gysylltu a’i gymharu ag ef. Yn ogystal â pherfformiad ariannol, mae hyn yn golygu sicrhau bod datblygiadau o ran cynhyrchion a gwasanaethau, adnoddau dynol a chynhyrchedd yn cael eu gwireddu.  
Ceisiwch wneud eich cynllun busnes yn fyr ac yn gryno, gyda thargedau eglur a mesuradwy, cynlluniau gweithredu eglur, proffiliau amser a siartiau Gantt. Dylech fonitro a phrofi’r elfennau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn gallu cael eu darparu.  


Defnyddio’ch cynllun busnes fel offeryn rheoli

Mae busnesau cymdeithasol yn elwa o benodi rhywun i fonitro dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) a phwyntiau gweithredu yn y cynllun busnes, dehongli canlyniadau ac adrodd ar gynnydd i’r tîm. Gallai hefyd gymryd cyfrifoldeb am ragfynegi i’r dyfodol yn barhaus a diwygio’r cynllun yn seiliedig ar brofiad a gwybodaeth newydd.

Mae angen i amcanestyniadau fod yn gydlynol. Er enghraifft, gallai cynhyrchu canlyniadau cymdeithasol newydd olygu bod angen capasiti newydd a staff newydd, ac felly cynllun recriwtio a sefydlu adnoddau dynol newydd. Bydd proses cynllunio busnes wedi’i hwyluso’n briodol yn caniatáu i chi amlygu materion o’r fath a’u hatal rhag datblygu i fod yn broblemau. Bydd hefyd yn eich helpu i sicrhau bod amcanestyniad llawn o’r buddsoddiad sy’n ofynnol. 

Dechreuwch eich proses cynllunio busnes trwy ddatblygu systemau ansawdd ar gyfer eich busnes cymdeithasol

PDF icon
DOCX icon

Cymorth i fusnesau cymdeithasol gan Fusnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchnogion busnes. Rydym wedi rhestru isod rai adnoddau defnyddiol ar gyfer cynllunio busnes cymdeithasol.