Datblygu Strategaeth Farchnata

Y Cymysgedd Marchnata

Er mwyn cyflawni ei amcanion marchnata, mae Busnes Cymdeithasol angen strategaeth sy’n cynnwys elfennau gwahanol – y gwahanol rannau o’r cymysgedd marchnata.  Mae galw hyn yn gymysgedd yn ein hatgoffa y dylem geisio cael y cydbwysedd cywir rhwng yr elfennau gwahanol.  Mae’n hawdd tybio bod un rhan o’r gymysgedd yn anghywir, ond mewn gwirionedd rhan arall sydd ar fai.  Er enghraifft, os yw’r galw’n wael am wasanaeth sydd newydd ei brisio, mae’n bosibl mai’r ateb fyddai newid y gwasanaeth, neu ei ddarparu mewn ffordd sy’n fwy cyfleus i’r defnyddiwr, neu wella ansawdd yr hyrwyddo (yn hytrach na gostwng y pris).

Dyma wyth ffactor hanfodol y cymysgedd marchnata:

1.    Cynnyrch

Diffinio nodweddion y cynnyrch neu’r gwasanaeth i fodloni anghenion y cwsmeriaid.  Mae hyn yn cynnwys cynnyrch cymdeithasol a’i brynwyr mewn sefydliadau statudol neu gyrff cyllido.  Mae rhagor o drafodaeth ynghylch allbynnau cymdeithasol, incwm ac effeithiau ar gael yn yr adran cyfrifo cymdeithasol mewn busnes cymdeithaso.

2.     Pris

Penderfynu ar strategaeth brisio trwy ystyried:

Prisio ar sail cost, sy’n seiliedig ar gyfanswm yr holl gostau sy’n gysylltiedig â darparu cynnyrch neu wasanaeth i gwsmer.  Enghraifft o brisio ar sail cost fyddai pan mae sefydliad yn nodi’r holl gostau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu cynnyrch neu ddarparu gwasanaeth, gan gyfrifo’r cyfanswm, ychwanegu swm ar gyfer elw, a chyrraedd y “pris” i’w godi ar y cwsmer.  Y math hwn o brisio yw’r “llawr” ar gyfer penderfyniadau prisio gan ei fod mor isel ag y gall y pris fod ond mae’n parhau i gynnwys yr holl gostau sy’n gysylltiedig â darparu’r cynnyrch neu wasanaeth.  Rhaid cofio cyfrifo pob elfen o’r strwythur gost heb anghofio costau dibrisiant ac amnewid, datblygu adnoddau dynol a’r elw derbyniol lleiaf.  Fel arall, mae perygl o werthu ar golled a gwneud y Busnes Cymdeithasol yn fenter anghynaliadwy. 

Prisio ar sail gwerth, sy’n seiliedig ar ganfyddiad o’r gwerth y gallai’r cwsmer posibl ei roi ar y cynnyrch neu’r gwasanaeth.  Enghraifft o brisio ar sail gwerth fyddai pan mae sefydliad o’r farn y byddai pobl yn talu £20 am wasanaeth ac mae’n penderfynu gosod £20 fel y pris er y gallai’r pris fod yn £10 yn seiliedig ar fodel ar sail cost.  Y math hwn o brisio yw’r “nenfwd” ar gyfer penderfyniadau prisio gan ei fod mor uchel ag y gall y pris fod ond mae’n parhau i ddenu cwsmeriaid parod.  Nid oes ganddo unrhyw gysylltiad â’r gost o gynhyrchu, yn hytrach mae wedi’i ddylanwadu gan ganfyddiad o ddewisiadau eraill sydd gan gwsmeriaid.

Prisio Cystadleuol, sy’n defnyddio prisiau cystadleuwyr fel mannau cychwyn – os yw eich cynnyrch yn well, weithiau gallwch ei brisio’n uwch na’ch cystadleuwyr, ar yr amod eich bod yn cyfleu i’ch cwsmeriaid y rhesymau dros y pris uwch (megis gwasanaeth neuddewis gwell).  Mae prisio’n is na’ch cystadleuwyr yn gallu arwain at “ryfel prisiau”, a allai fod yn beryglus os oes gan eich cystadleuwyr fwy o adnoddau ariannol ar gyfer y “rhyfel prisiau” nag sydd gennych chi.

3.        Man – dosbarthu – lleoliad

Mae angen i unrhyw Fusnes Cymdeithasol ystyried sut mae ei wasanaethau’n cael eu gwneud ar gael i’r farchnad darged.  Gallai hyn ymwneud â nifer yr ymwelwyr ar gyfer manwerthwr, mynediad i ffyrdd a rheilffyrdd ar gyfer cyfanwerthwr neu rwyddineb gwefan ar gyfer darparwr gwasanaeth ar-lein.  Fel arfer, bydd y dewis gorau’n fwy economaidd na’r dewis rhad.  Mae clystyru’n gallu bod yn ddefnyddiol – sef grŵp o fentrau mewn meysydd cysylltiedig yn creu màs critigol sy’n denu cwsmeriaid.

Os oes dulliau sy’n bodoli ar gyfer dosbarthu a gwerthu yn eich maes masnach, mae’n bosibl y bydd yn fwy economaidd i’w defnyddio yn hytrach na chreu dull gwahanol wrth i chi ganolbwyntio ar greu nwyddau neu wasanaethau.  Hefyd, mae’n bosibl y bydd yn briodol i ymuno â Busnesau Cymdeithasol eraill i rannu’r gost o greu sianeli marchnata a’u hyrwyddo i gwsmeriaid.

4.      Hyrwyddo

Mae hyn yn cynnwys hysbysebu, gwerthu personol (e.e. mynychu arddangosfeydd), hyrwyddiadau gwerthiant (e.e. cynigion arbennig) a chysylltiadau cyhoeddus.  Yn achos Busnes Cymdeithasol, mae holl faes Gwerthoedd Brand yn bwysig hefyd.  Mae gwerthoedd yn gryfder arbennig i Fusnesau Cymdeithasol ac mae’r mecanweithiau ar gyfer cysylltu’r gwerthoedd hyn â’r cynnyrch a’u defnyddio i greu enw da ymhlith cwsmeriaid yn bwysig, yn ogystal â’r ffordd y maent yn creu argraff yn y cyfryngau ac ymhlith y cyhoedd a’r ffordd y maent yn cael eu diogelu gan gysylltiadau cyhoeddus da.

Mae hyrwyddo llwyddiannus yn dibynnu ar ddiffiniad da a dealltwriaeth o’r farchnad darged, (sef y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau prynu), pwy sy’n dylanwadu arnynt, pa gyfryngau y maent yn eu darllen, eu gwylio, yn gwrando arnynt, beth yw eu pryderon a pha negeseuon y maent yn ymateb iddynt.  Wedyn, gellir llunio strategaeth hyrwyddo: pa negeseuon, wedi’u cyflwyno drwy ba gyfryngau, a sut y gellir cyflawni hyn gyda’r lleiafswm o adnoddau prin o ran amser ac arian.

Mae’r un neges yn cyrraedd o gyfeiriadau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol at y farchnad darged yn arbennig o bwerus – dyma sut mae’r meddwl dynol yn cydnabod bod rhywbeth yn eu hamgylchedd sy’n ddigon sylweddol iddynt gymryd sylw ohono a cheisio gwybodaeth yn ei gylch.  Os yw’r wybodaeth ar gael ar wefan, mae’n bwysig bod y wybodaeth sydd wedi’i thargedu at y cwsmer posibl yn hawdd dod o hyd iddi a bod y camau y mae angen iddynt eu cymryd i ddod yn gwsmer gweithredol yn amlwg, yn gyflym ac yn hawdd.  Pan fyddwch yn sicr ynghylch hyn, mae’n werth anfon negeseuon hyrwyddo a sicrhau eu bod yn cynnwys y ddolen i’r wybodaeth.  Ond mae trafod ar lafar a chyswllt dynol yn parhau i fod y ffordd fwyaf pwerus o gyflwyno neges hyrwyddo. 

Dyma’r pedwar ffactor craidd.  Fodd bynnag, mae dadansoddi pellach yn helpu datblygu strategaeth farchnata fwy cadarn – ychwanegwn bedwar ffactor arall.

5.    Pobl

Mae dewis, recriwtio, penodi a chadw pobl a fydd yn gwneud y gwaith sydd angen ei wneud ymhlith elfennau pwysicaf busnes.

6.    Pecynnu a labelu

Boed yn gynnyrch neu’n wasanaeth, mae darparu gwybodaeth eglur amdano gan gynnwys tarddiad yn dod yn bwysicach bob diwrnod wrth i farchnadoedd ddod yn fwy gwybodus a chraff.  Unwaith eto, mae’n bwysig amlygu Gwerthoedd Brand Busnes Cymdeithasol. 

7.    Cylch bywyd cynnyrch

Fel pobl, mae gan gynhyrchion eu cylch bywyd.  Maent yn symud o enedigaeth, drwy gyfnod o dwf, i aeddfedrwydd, ac yna’n aros ar un lefel am gyfnod cyn dirywio tuag at eu tranc.  Dylai’r penderfyniad ynghylch cynhyrchu neu ddarparu cynnyrch neu wasanaeth penodol neu beidio ddibynnu’n rhannol ar ba gam yn y cylch bywyd y mae’r cynnyrch.  Mae gan rai cynhyrchion gylch bywyd byr tra bod eraill â bywydau mwy estynedig.  Mae’r cysyniad o gylch bywyd yn llywio’r dull hysbysebu a hyrwyddo a ddefnyddir.  Gellir ail-ddylunio cynhyrchion os oes angen, a gellir gollwng cynhyrchion os oes angen.Mae pum cam mewn cylch bywyd cynnyrch:

i) Cyflwyniad:  Yn y cam hwn, caiff y cynnyrch ei lansio, a’r rhwystr cyntaf i’w oresgyn yw diffyg ymwybyddiaeth pobl o’r cynnyrch a’i nodweddion.  Bydd gwerthiant yn cynyddu’n araf iawn a bydd costau hyrwyddo’n uchel.  Mae pwyslais yr hyrwyddo ar gyflwyno’r cynnyrch i’r cyhoedd a cheisio annog pobl i roi cynnig ar y cynnyrch am y tro cyntaf.

ii) Twf:  Yn y cam hwn, mae gwerthiant yn cynyddu’n araf ac mae’n bosibl y bydd llif o gystadleuwyr tebyg yn ymuno â’r farchnad.  Yn ôl pob tebyg, bydd prisiau’n gostwng o ganlyniad, a gallai hyn arwain at hyd yn oed mwy o werthiant.

iii) Aeddfedrwydd:  Yn y cam hwn, mae’r twf yn y galw yn dechrau arafu.  Mae cystadleuwyr yn addasu eu cynnyrch, gan bwysleisio dyluniad a steil, ac yn gwneud newidiadau blynyddol i’r model.  Mae cwmnïau llai o faint yn syrthio wrth ymyl y ffordd yn y cam hwn, wedi’u goresgyn gan werthwyr mwy o faint â gwerthiant cyfaint uchel sy’n gallu fforddio cynnig prisiau is a gwasanaeth gwell.

iv) Dirlenwad:  Daw’r cynnydd yn y galw am werthiant i ben ac mae’n aros yn yr unfan.  Mae costau gwerthu’n cynyddu oherwydd bod y rhan fwyaf o bobl, neu bawb, sydd eisiau’r cynnyrch yn berchen arno erbyn hyn.

v) Darfodiad:  Mae’r galw am werthiant yn gostwng ac ni fydd yn adennill ei lefel flaenorol.  Caiff prisiau eu gostwng ac mae hysbysebu’n cael ei leihau’n sylweddol.  Mae llawer o gwmnïau’n cael gwared ar y cynnyrch ar y pwynt hwn.  Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i Fusnes Cymdeithasol addasu ei gymysgedd marchnata ym mhob cam o’r cylch bywyd, er mwyn cystadlu’n effeithiol a gwneud yr elw mwyaf posibl.

8.    Cyhoeddusrwydd/Cysylltiadau Cyhoeddus

Cyhoeddusrwydd yw cael sylw am ddim yn y cyfryngau, ar ffurf adroddiadau newyddion.  Mae cael sylw mewn papurau newydd neu ar y radio neu’r teledu yn parhau i ymwneud â storïau a ffotograffau o ddiddordeb dynol.  Mae cael sylw ar Twitter ac mewn blogiau yn ymwneud â bod yn gyfoes ynghylch yr hyn sy’n boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol a hiwmor.  Mae hwn yn faes arbenigol sy’n gofyn am dalent, hyfforddiant, neu’r ddau.