Math o fond yw dyledeb sy’n cael ei sicrhau yn erbyn enw da’r busnes a’i deilyngdod credyd cyffredinol, yn hytrach nag ernes neu asedau ffisegol.

Mae bondiau llywodraeth yn enghraifft o ddyledeb lle mae’r risg i’r sawl sy’n cael benthyg yn fach iawn.

Mae dyledebau, sef y math mwyaf cyffredin o gyllid dyled tymor hir, yn fath o fenthyciad sy’n cael ei ffafrio gan lawer o gwmnïau. O’u cymharu â dewisiadau eraill, cynigiant fuddion ar ffurf cyfradd llog is a dyddiad ad-dalu diweddarach.                       

Yn debyg i  ecwiti, gallwch drosglwyddo dyledebau o’r naill fuddsoddwr i’r llall ac maent yn israddol i gredydwyr eraill (ar wahân i gyfranddalwyr). Fel 'gwarantau ariannol' bydd angen iddynt gydffurfio â Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, sy’n gallu gofyn cyngor cyfreithiol drud.

Am eu bod yn cael eu trin yn debyg i ecwiti ond nad ecwiti gwirioneddol mohonynt, maent yn ddefnyddiol i gwmnïau cyfyngedig trwy warant nad allant gael ecwiti cyfranddalwyr.  


Beth yw’r mathau o ddyledebau? 

Dosbarthir dyledebau ar sail eu sicrhad, eu natur drosglwyddadwy a’u natur drawsnewidiadwy. Gallent hefyd fod yn adbrynadwy neu’n barhaol, gan ddibynnu a oes ganddynt ddyddiad ad-dalu penodol.  Ar sail cyfradd llog, gellir eu rhannu’n ddyledebau cyfradd arnawf neu gyfradd sefydlog, yn ddyledebau cyfradd cwpon sero neu’n ddyledebau premiwm sicr.  

Beth yw risgiau dyledeb? 

Un o’r risgiau posibl wrth ddewis dyledeb yn ffynhonnell o gyllid dyled tymor hir yw’r diffyg hyblygrwydd o ran talu llog. Gallai hyn eich rhwystro rhag tyfu eich busnes cymdeithasol, a gallai hefyd o bosibl achosi diddymiad.                     
Wrth gael benthyg, byddech hefyd yn ildio rheolaeth ar unrhyw asedau sydd ynghlwm wrth y ddyledeb, yn ogystal â’r bleidlais a’r elw sy’n gysylltiedig â’ch cyfran yn y busnes.

 

Archwiliwch ragor o fathau o gyllid dyled sy’n addas i’ch busnes cymdeithasol