Mae cyllid ecwiti yn fodd o godi arian gan fuddsoddwyr allanol yn gyfnewid am werthu cyfran o’ch busnes.

Mae busnesau cymdeithasol yn masnachu eu cyfranddaliadau ar lawn werth, gan olygu nad ydynt yn cynyddu mewn gwerth ac y byddent yn cael eu cyfnewid yn y pen draw am eu swm prynu.       


Beth yw buddsoddiad ecwiti? 

Ecwiti mewn busnes yw’r cyfalaf sy’n berchen ar y busnes. Gall y prif randdeiliaid sydd am gael rheolaeth ddemocratig ar y busnes fod yn berchen ar yr ecwiti. Gall perchenogaeth ecwiti y tu allan i’r prif grŵp o randdeiliaid (sef buddsoddwyr yn nodweddiadol) achosi ansicrwydd ynghylch pwy sy’n rheoli’r busnes. Creu cyfranddaliadau dibleidlais yw un ffordd o ddatrys y broblem hon.


Manteision ac anfanteision cyllid ecwiti

Yn wahanol i ddarparwyr dyled, nid oes gan fuddsoddwyr ecwiti hawliau i log nac i gael eu cyfalaf wedi’i ddychwelyd erbyn dyddiad penodol. Mae buddsoddwyr ecwiti mewn busnes cymdeithasol yn fuddsoddwyr tymor hir sy’n cael adenillion ar eu buddsoddiad drwy ddifidendau. 

Mae mwy o risg ynghlwm wrth fuddsoddiad eciwti nag sydd wrth gyllid dyled. Os bydd busnes yn cael ei ddiddymu, caiff yr holl arian arall sy’n ddyledus ei ad-dalu cyn talu’r buddsoddwyr ecwiti. Efallai byddant yn disgwyl adenillion uwch na buddsoddwyr dyled oherwydd bod mwy o risg. Efallai na fydd buddsoddwyr busnes cymdeithasol yn disgwyl adenillion uchel pan fyddant yn rhoi arian i gefnogi’r fenter.


Cyllid ecwiti ar gyfer mentrau cymdeithasol 

Os oes angen i’ch busnes brynu cyfarpar cyfalaf neu os oes ganddo’r potensial i dyfu’n gyflym, gallai cyllid ecwiti fod yn ateb addas. Mae hefyd yn ffynhonnell wych o gyllid os oes angen ichi fuddsoddi’n sylweddol mewn datblygu marchnad a chynnyrch.


Ffynonellau cyllid ecwiti

Mae nifer o ffynonellau sy’n cynnig cyllid ecwiti i fusnesau cymdeithasol, gan gynnwys:


Y gwahaniaeth rhwng cyfranddaliadau ecwiti a chyfranddaliadau braint 

Cynigir dau fath o gyfranddaliadau – rhai preifat a rhai cyhoeddus. Ystyr cyfranddaliad preifat yw bod rhaid ichi baratoi rhestr o gysylltiadau uniongyrchol a chyfyngu’r gwahoddiad i brynu cyfranddaliadau iddynt hwy. Caiff y cynnig i brynu cyfranddaliadau cyhoeddus ei ddosbarthu’n ehangach. Mae’n cynnwys prosbectws neu gynnig cyfranddaliadau gyda statws y cyfranddaliadau, beth fyddwch chi’n ei wneud â’r arian, yr adenillion a ragamcanir a’r buddion.

Bydd prosbectws yn ddrud i’w lunio, am fod angen arno gyngor cyfreithiol sylweddol. Mae dogfen cynnig cyfranddaliadau yn ateb llawer rhatach i gymdeithasau cofrestredig a chymdeithasau buddiannau cymunedol.

Mae dau fath o gyfranddaliadau mewn cwmni - sef cyffredin (pleidleisio) a braint (dibleidlais). Mae’r ail yn fwy tebygol o sylweddoli rhywfaint o’r buddsoddiad os bydd y cwmni’n rhoi’r gorau i fasnachu ac yn cael ei ddiddymu.

Mae cyfalaf cyfranddaliadau y gellir eu tynnu allan yn fath unigryw o ecwiti ar gyfer Cymdeithasau Cofrestredig a Chymdeithasau Buddiannau Cymunedol. Cyfranddaliadau cymunedol  yw’r term a ddefnyddir am y math hwn o ecwiti.  


Beth yw’r gwahaniaeth rhwng benthyciadau a chyllid ecwiti?

Mae llawer o fathau o fenthyca, fel stoc benthyg, bondiau a dyledebau, sy’n dynwared rhai o nodweddion ecwiti. Ond eto, efallai na fydd y rhain yn ddewis arall digon da, oherwydd: 

  • Nid yw bondiau, stoc benthyg a dyledebau yn rhoi unrhyw hawliau cyfranogi yn y sefydliad. Nid ydynt felly’n magu ymdeimlad o gymuned ac aelodaeth yn yr un ffordd ag ecwiti.
  • Ystyria llawer o bobl fod dyled yn atebolrwydd. Os yw fel petai neb yn fodlon mentro ei gyllid ar y busnes, bydd yn llai deniadol i fuddsoddwyr eraill.  
  • Mae gan y rhan fwyaf o stoc benthyg, bondiau a dyledebau ddyddiad aeddfedu, felly mae angen ail-gyllido cylchol. 

Mae ecwiti ar ffurf cyfranddaliadau yn sail sicr a gwydn i sefydliad. Gofalwch nad yw’n gosod y cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau yn nwylo’r bobl anghywir. 


Dysgwch ragor am y gwahanol fathau o ecwiti: 


Cymorth Busnes Cymru i fusnesau cymdeithasol

Cynigia Busnes Cymru lond gwlad o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchenogion busnes. Rydym wedi rhestru isod rai adnoddau defnyddiol ar gyllid ecwiti i’ch busnes cymdeithasol: