Ecwiti slafio yw gwerth cynyddol busnes (uwchlaw’r arian a fuddsoddwyd) sydd wedi’i greu gan waith caled meddyliol a/neu gorfforol di-dâl y sylfaenwyr, yr aelodau dilynol a’r cefnogwyr. 

Beth yw ecwiti slafio? 

Pan gychwynnir busnes wedi’i gyfalafu’n dda, mae ganddo’r cyfalaf ariannol i dalu pawb sy’n sefydlu’r busnes yn llawn o’r cychwyn cyntaf. Nid oes gan lawer o fusnesau bychain yr un fantais o ran cyflenwadau digonol. Yn hytrach na chyfalaf cychwyn busnes, byddant yn dibynnu o leiaf yn rhannol ar gyfnewidiad pobl yn gweithio’n ddi-dâl. Gelwir hyn yn 'fuddsoddiad ecwiti slafio'. 

Cytundeb ecwiti slafio 

Er nad oes gan gytundeb ecwiti slafio unrhyw werth ariannol ynddo’i hun, mae’n gyfraniad a wna perchenogion a buddsoddwyr ar ffurf gwaith i ychwanegu at werth y busnes. Bydd partneriaid busnes cymdeithasol yn mynd i gytundeb ecwiti slafio yn fodd o sicrhau bod eu nodau cyffredin yn cael eu cyrraedd.

Yn wahanol i gytundebau busnes eraill lle byddai partïon yn gwystlo cyfalaf, yn rhan o Gytundeb Ecwiti Slafio mae pob un o’r partneriaid yn gwystlo hyn a hyn o lafur. Sylwer ei bod yn bwysig o hyd llunio cytundeb ysgrifenedig i sicrhau bod pawb yn cadw at ei delerau.

Sut mae cyfrifo ecwiti slafio 

Y ffordd hawsaf o bennu gwerth ecwiti slafio eich busnes cymdeithasol yw cyfrifo faint y byddai pawb wedi’i ennill am ei waith petai wedi’i wneud i gwmni arall. Wedi dweud hynny, mae gwerth ecwiti slafio yn dod i fwy na’r amser llafurio, am ei fod yn cynnwys y gwerth y mae wedi’i ychwanegu at y sefydliad. 


Enghreifftiau o ecwiti slafio 

Gall ecwiti slafio fod ar lawer o ffurfiau, o rywun yn cynnig gwasanaethau crefft fel gwaith plymwr neu adeiladu, i rywun yn cynnig cymorth marchnata neu wybodaeth am gyfrifyddu ariannol.

Roedd gan Le Public Space, sef tafarn sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghasnewydd, gytundebau ecwiti slafio gyda rhai o’i fuddsoddwyr. Er enghraifft, yn hytrach na buddsoddi arian, buddsoddodd un o aelodau’r gymuned ei amser a’i sgiliau, gan ddarparu ei wasanaethau fel trydanwr, yn gyfnewid am nifer o gyfranddaliadau yn y busnes. Roedd hyn o fudd i’r aelod o’r gymuned, am nad allai fforddio prynu cyfranddaliadau, ac roedd am gefnogi’r fenter o hyd, ac roedd o fudd i’r busnes, am i hwnnw gael cyfranddaliwr gwerthfawr arall, a hefyd sgiliau llafur heb orfod talu arian allan ar adeg pan oedd y llif arian yn isel.                                


Archwiliwch ragor o ffynonellau cyllid i’ch busnes cymdeithasol.