Yng nghyd-destun tyfu eich busnes cymdeithasol, mae ehangu yn golygu cynyddu cynhyrchiant a gwerthiant tra’n cynnal siâp y busnes, yn ogystal â’r amrywiaeth o ran cynnyrch, a diffiniad cwsmeriaid.

Hwn yw’r model symlaf o bell ffordd ar gyfer twf gan ei fod yn gofyn am yr arloesedd lleiaf neu daith at yr hyn sy’n anghyfarwydd. 


Ehangu busnesau cymdeithasol 

Cyn i chi fynd ati i ehangu eich busnes cymdeithasol, mae angen i chi ystyried nifer o agweddau i sicrhau mai dyma’r llwybr gorau ar gyfer twf. Gallai ehangu ‘organig’ ymddangos fel rhywbeth da, ond heb gynllunio priodol, diwydrwydd priodol a/neu ddadansoddi risg, bydd ond yn arwain at drafferthion. 

Gweithiwch drwy bob un o’r camau a restrir isod i bennu ai ehangu yw’r dewis cywir ar gyfer eich busnes: 

Gwerthuswch gyfalaf eich busnes cymdeithasol 

Gall ehangu heb ddarparu ar gyfer cyfalaf gweithio cynyddol arwain at ‘orfasnachu’, sy’n gallu arwain at brinder arian, a hyd yn oed fethdalu. Pan fyddwch chi’n gorfasnachu, mae’r gofyniad arian ar gyfer masnachu parhaus yn uwch, a daw llif arian yn fwy agored i amrywiadau bach, fel taliadau hwyr gan gwsmer. 

Cyn ehangu, aseswch gapasiti eich sylfaen cyfalaf i wneud yn siŵr fod eich busnes yn gallu delio â’r model twf hwn. 

Diwygiwch eich cynllun busnes 

Mae cynllunio ehangu yn cynnwys diwygio eich amcanestyniadau ariannol llawn i wneud yn siŵr eich bod wedi nodi a phennu cost pob agwedd sy’n gofyn am gynyddu capasiti (e.e. adnoddau dynol, cyfleusterau, systemau, cyflenwadau), yn hytrach na dim ond y rheiny sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chynhyrchu.  

Edrychwch eto ar eich cynllun busnes ac ymgynghori â’r rhanddeiliaid yn eich busnes cymdeithasol sy’n ‘berchen’ ar y cynllun hwnnw.  

Ar ôl canfod yr amcanestyniadau ariannol, gallwch wirio costau a phroffidioldeb unedau. Mae’n ymddangos bod ehangu yn arwain at arbedion maint, ond nid yw hyn yn wir bob amser. Gallai’r ehangu olygu bod angen cyfalafu costau unigol fel recriwtio a darparu offer newydd, yn ogystal â chyfalaf gweithio. 

Mae anhrefn yn anodd a drud i’w reoli, ac yn arwain at ddifrodi busnes. Gan fod amser arwain ar gyflwyno pobl neu brosesau newydd yn gallu cymryd yn hwy na’r hyn a amcangyfrifir, mae’n arfer da caniatáu ar gyfer yr argyfyngau hyn, a’i gwneud yn glir pa elfennau o’r cynllun sy’n allweddol ar gyfer yr amserlen. 

Fan leiaf, bydd angen cynllun gweithredu ar gyfer ehangu ystyrlon, er mwyn sicrhau bod pob un o’r elfennau hyn yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol a chynlluniedig, yn hytrach nag yn ymatebol ac yn anhrefnus. 

Llwybr Allweddol a Dadansoddi Risg 

Mewn senarios mwy cymhleth, rydym yn argymell y dylid cynnal dadansoddiad llwybr allweddol llawn i wneud y broses rheoli newid yn haws. Mae dadansoddiad llwybr allweddol yn amlinellu pob elfen o’ch cynllun ehangu, sut maent yn cydlynu â’i gilydd, a’r amserlen ar gyfer eu rhoi ar waith.  

Bydd yr ymarfer yn dangos y ‘mannau problemus’ lle dylid rheoli sawl elfen wahanol a gweithio arnynt ar yr un pryd. Bydd hyn yn rhoi darlun gwell o’r holl rychwant amser angenrheidiol. 

Daw dadansoddi risg yn llawer haws erbyn hyn. Pa mor bosibl yw’r cynllun gweithredu hwnnw? Beth yw’r risgiau ar hyd y ffordd? Sut gellir eu lliniaru? 


Rydym yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfer perchnogion busnesau cymdeithasol. Isod, rydym wedi rhestru rhai adnoddau mwy defnyddiol ar ehangu busnesau cymdeithasol: