Bwriad ffactoreiddio – sydd hefyd yn cael ei alw’n 'ffactoreiddio dyled', ‘disgowntio anfonebau’ neu ‘ffactoreiddio anfonebau’ – yw pontio’r bwlch rhwng gorffen darn o waith a chael taliad gan gleient.

Math o gyllid dyled tymor byr ydyw sy’n eich galluogi i werthu eich anfonebau i gwmni ffactoreiddio a chael canran o’r cyllid sy’n ddyledus i’ch busnes yn gyfnewid.


Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ffactoreiddio a disgowntio anfonebau? 

Mae disgowntio anfonebau yn debyg i ffactoreiddio, am ei fod yn eich galluogi i gael benthyg arian yn erbyn anfonebau sydd heb eu talu am gyfnodau byr. Y prif wahaniaeth yw y bydd cwmni ffactoreiddio hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am eich cyfriflyfr gwerthu, ond, gyda disgowntio anfonebau, eich busnes chi sy’n cadw rheolaeth ar eich cyfriflyfr gwerthu.

Mae ffactoreiddio a disgowntio anfonebau yn ddulliau defnyddiol o wella llif arian eich cwmni a’i gyfalaf gweithio. A pheth arall, gallant eich helpu i leihau gorbenion gweinyddu.


Beth yw manteision ffactoreiddio?

Mewn masnachau lle rhoir anfonebau mawrion a lle bydd cyfnod hir yn mynd heibio’n gyffredin cyn talu, gall fod yn werth ystyried ffactoreiddio. Bydd cwmni ffactoreiddio’n talu cyfran fawr o werth yr anfoneb (fel arfer tuag 85%) yn syth ac yna’n casglu’r arian gan gwsmeriaid gan anfon unrhyw weddill ymlaen ar ôl didynnu ffioedd.


Risgiau ffactoreiddio a disgowntio anfonebau  

Ydy, mae ffactoreiddio yn cymryd rheolaeth ar gredyd oddi wrthych chi ac yn ei rhoi i arbenigwyr. Mae hefyd yn troi llawer o falans y dyledwr yn syth yn arian parod lle mae ei angen arnoch. Ond mae’n costio arian. Mae’r llif arian yn gwella ar unwaith, ond y gost yn mynd ymlaen am byth. Rydych yn colli mis o lif arian am na fentrwch chi byth gefnu ar y system. Meddyliwch yn ofalus iawn cyn mynd yn gaeth.

Cewch wybod rhagor am ffactoreiddio a disgowntio anfonebau ar wefan Busnes Cymru.


Archwiliwch fwy o fathau o gyllid dyled sy’n addas i’ch busnes cymdeithasol.