P’un a ydych chi’n dechrau busnes, neu’n bwriadu tyfu eich busnes cymdeithasol, bydd cael syniad clir ynglŷn â pha ffynonellau cyllid sydd ar gael i chi yn helpu gwneud y broses yn fwy esmwyth.

Mae nifer o lwybrau cyllid y gallwch eu dilyn ar sail eich nodau busnes, a gofynion penodol eich sefydliad.

Yn yr adran hon, rydym wedi amlinellu’r gwahanol agweddau ar ddewis y ffynhonnell gyllid gywir ar gyfer eich menter gymdeithasol.


Ffyrdd o nodi’r ffynonellau cyllid sydd ar gael i’ch busnes

Wrth nodi ffynonellau cyllid, mae angen i chi ystyried ffactorau fel cyfleustra, risg bersonol a thelerau ad-dalu. Hefyd, dylech ystyried faint y byddai’n costio i gynyddu eich cyfalaf busnes a gwasanaethu eich dyled busnes, yn ogystal â lefel y rheolaeth y bydd gan fuddsoddwyr yn y busnes cymdeithasol. Yn olaf, a ydych chi’n fodlon peryglu arian y buddsoddwr penodol? 

Yn ogystal â sicrhau bod gennych strategaeth fuddsoddi gytbwys, dylech hefyd ystyried strategaethau eraill i gyllido eich busnes cymdeithasol y gallech chi eu dilyn. 


Beth yw’r ffynonellau cyllid ar gyfer mentrau cymdeithasol?

Mae amrywiaeth o wahanol ffynonellau cyllid ar gael i fusnesau cymdeithasol. Yn yr un modd â busnes preifat, mae’r mathau o gyllid yn dod o dan gategorïau ecwiti, grantiau a dyled.  

Yn draddodiadol, mae ecwiti yn ffordd o godi cyllid gan fuddsoddwyr allanol yn gyfnewid am werthu cyfran o’ch busnes. Nid yw dyled, ar y llaw arall, yn golygu aberthu perchnogaeth – mae fel arfer yn golygu cael benthyg arian yr ydych yn cymryd cyfrifoldeb am ei ad-dalu â llog yn y dyfodol. 

Gall grantiau fod yn gyfraniad, yn rhodd neu’n gymhorthdal (mewn arian parod neu mewn nwyddau) a roddwyd gan lywodraeth neu sefydliad arall at ddibenion penodol. Yn aml, mae angen bodloni amodau penodol, megis cynnal safon benodol neu gael y derbynnydd i wneud cyfraniad cyfrannol, er mwyn rhoi grant.  

Mae opsiynau cyllid ar gael i fusnesau cymdeithasol yn unig, yn rhinwedd eu diben cymdeithasol a’u hymgysylltiad â buddsoddwyr cymunedol a chymdeithasol. Y prif fodelau cyllido eraill a ddefnyddir gan fusnesau cymdeithasol yw cyfranddaliadau cymunedol a buddsoddiadau cymdeithasol.  

Cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei dynnu allan yw cyfranddaliadau cymunedol, sef ffurf ar ecwiti sy’n unigryw i gymdeithasau cydweithredol cofrestredig a chymdeithasau budd cymunedol. Mae buddsoddiadau cymdeithasol, ar y llaw arall, yn fuddsoddiadau a wneir yn rhannol neu’n gyfan gwbl ar gyfer enillion cymdeithasol yn hytrach nag ariannol. 

Mae cyllid torfol a chyllid gan deulu a ffrindiau hefyd yn ffynonellau cyllid hyfyw ar gyfer eich menter gymdeithasol.  


Archwiliwch y gwahanol ffynonellau cyllid sydd ar gael i’ch busnes cymdeithasol: 

Cyllid dyled  

Mae benthyciadau, benthyciadau banc tymor byr, arian a godwyd trwy offerynnau dyled, prydlesi a chredyd masnach i gyd yn disgyn o dan gategori cyllid dyled.  

Ecwiti  

Cyfalaf ecwiti yw arian sy’n cael ei fuddsoddi mewn menter nad yw, o’i gyferbynnu â chyfalaf dyled, yn cael ei ad-dalu i’r buddsoddwyr yn y ffordd arferol. Mae’n cynrychioli’r cyfalaf risg sy’n cael ei roi gan y perchnogion trwy brynu neu werthu cyfranddaliadau arferol. 

Cyllid y gadwyn gyflenwi  

Mae cyllid y gadwyn gyflenwi yn uchafu’r swm o arian yn eich busnes trwy leihau swm yr arian sydd ynghlwm mewn stoc, sy’n cael ei ddal gan eich cyflenwyr neu’i ddisgwyl gan gwsmeriaid. 

Buddsoddiad cymdeithasol  

Buddsoddiad cymdeithasol yw math o ecwiti, lled-ecwiti neu fuddsoddiad dyled mewn busnes cymdeithasol lle mae’r buddsoddwr yn disgwyl enillion cymdeithasol yn ogystal ag ariannol.  

Cyfalaf menter ac angylion busnes  

Caiff y cyllid i ddechrau a thyfu menter gymdeithasol ei ddarparu gan unigolion sy’n buddsoddi eu cyllid personol, neu gan gwmnïau sy’n buddsoddi arian pobl eraill mewn cyfranddaliadau o’ch busnes.  

Ail-fuddsoddi elw argadwedig  

Os yw eich menter gymdeithasol yn gwneud elw digonol, gallwch eu hail-fuddsoddi yn y busnes i gynyddu gwerth y busnes heb orfod aberthu perchnogaeth neu ymrwymo i gyflawni amodau allanol. 

Buddsoddiad gan aelodau/rhanddeiliaid  

Gallai pobl a sefydliadau sydd â buddiant ariannol, cymdeithasol neu amgylcheddol breintiedig yn eich busnes fuddsoddi yn y fenter i’w helpu i gyflawni ei diben cymdeithasol.   

Strategaeth fuddsoddi gytbwys  

Mae strategaeth fuddsoddi gref yn cynnwys defnydd cytbwys o gyfalaf, yn ogystal â chyflwyno cyfalaf yn gytbwys a chael hyd i gyfalaf yn gytbwys. Mae sicrhau cydbwysedd o ran ffynonellau buddsoddi yr un mor bwysig â sicrhau cydbwysedd wrth ei ddefnyddio ar draws y fenter a thros gyfnod. 

Strategaethau eraill i ariannu busnes cymdeithasol  

Ar ôl penderfynu’r hyn sydd ei angen arnoch i ddechrau neu ddatblygu menter gymdeithasol, ystyriwch a oes angen derbyn buddsoddiad ychwanegol ar hyn o bryd. Gallai fod yna strategaethau eraill ar gael i chi sy’n llai peryglus ac yn llai drud.  


Dewch o hyd i roddwyr benthyciadau sy’n berthnasol i fusnesau cymdeithasol. 


Cymorth a chefnogaeth i fusnesau cymdeithasol gan Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchnogion busnes. Rydym wedi rhestru isod rai adnoddau defnyddiol ar gyfer cyllido’ch busnes cymdeithasol.