Ffynonellau cymorth eraill i fusnesau cymdeithasol

Teacher explaining to student

Mae'r darparwyr cymorth canlynol yn arbenigo mewn darparu cymorth am ddim i fusnesau cymdeithasol sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru 
Mae Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru) yn sefydliad aelodaeth annibynnol i ymarferwyr sy'n hyrwyddo gwaith a chynnal y rhwydwaith cynyddol o ymddiriedolaethau datblygu yng Nghymru. 

Cwmnïau Cymdeithasol Cymru 
Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yw'r asiantaeth gymorth genedlaethol ar gyfer datblygu cwmnïau cymdeithasol. Mae'n gweithio ochr yn ochr â Social Firms UK. Mae wedi ymrwymo i greu cyfleoedd cyflogaeth i bobl dan anfantais trwy ddatblygu a chynorthwyo Cwmnïau Cymdeithasol yng Nghymru. 

Canolfan Cydweithredol Cymru
Canolfan Cydweithredol Cymru yw corff cenedlaethol Cymru ar gyfer mentrau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol, mentrau cymdeithasol a busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr. Mae'n ymroi ei gwerthoedd cydweithredol i gryfhau cymunedau a gwasanaethau yn ogystal â chefnogi'r busnesau hyn. 

Mae darparwyr eraill sydd hefyd yn darparu cymorth arbenigol i fusnesau cymdeithasol yng Nghymru. 

Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo
Mae'r Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo wedi bod yn gweithio yng Nghymru er 1999, gan fuddsoddi dros £16 miliwn mewn adfywio cymunedol dros y 14 mlynedd diwethaf. Mae'n darparu buddsoddiad ariannol a chymorth ymarferol ar ddatblygu capasiti i gyflawni effaith gatalytig. Mae ei swyddogion datblygu yn gweithio gyda'r gymuned ac oddi mewn iddi i daclo'r materion sy'n effeithio fwyaf ar ffyniant, cydnerthedd a'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn. 

Cynghorau Gwirfoddol Sirol 
Mae llawer o Gynghorau Gwirfoddol Sirol yn rhoi cymorth i grwpiau cymunedol a gwirfoddol i'w helpu i ddod yn fwy cynaliadwy, cynhyrchu ffrydiau incwm newydd ac ymgeisio'n llwyddiannus i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae modd cael rhestr o'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghymru yma http://www.wcva.org.uk/members-partners/county-voluntary-councils?seq.lang=cy-GB.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) 
Ar lefel genedlaethol, mae CGGC yn gweithio gydag elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol, ymddiriedolaethau a gwirfoddolwyr unigol. 

UnLtd 
UnLtd yw darparwyr mwyaf blaenllaw cymorth i entrepreneuriaid cymdeithasol yn y DU ac mae'n cynnig y rhwydwaith mwyaf o'i fath yn y byd. Mae UnLtd yn buddsoddi mewn cannoedd o unigolion y flwyddyn trwy ei raglen Wobrau graidd. 

Mae llawer o sefydliadau cymorth busnes prif ffrwd eraill yng Nghymru sy'n gallu gweithio gyda busnesau cymdeithasol. Mae sefydliadau eraill hefyd ar gael lle mae modd eu talu'n breifat i gefnogi busnesau cymdeithasol. 

I gael rhestr o fenthycwyr ariannol sy'n gyfarwydd â delio â Busnesau Cymdeithasol, ewch i https://businesswales.gov.wales/socialbusinesswales/cy/benthycwyr