Pam?

Mae gan Neil gefndir ym maes peirianneg yn wreiddiol, ond trodd at ffitrwydd ym 1993 er mwyn colli pwysau a rhoi’r gorau i smygu. Gwelodd nad oedd llawer o help ar gael ac felly, fel rhywun oedd yn gwbl newydd i ffitrwydd, penderfynodd fynd ar gwrs hyfforddwyr er mwyn parhau â’i awch newydd. Yn 2005, sefydlodd LyonsDen Fitness, y mae’n ei reoli gyda’i wraig, Faye.

Mae LyonsDen Fitness wedi’i leoli ym Magillt, Sir y Fflint. Roedd yn ardal ddiwydiannol yn y gorffennol ond, erbyn heddiw, mae Bagillt yn dref lle mae diweithdra, amddifadedd cymdeithasol, cyfraddau trosedd uchel a thlodi plant yn faterion allweddol. Roedd Neil a Faye eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y dref trwy eu campfa. Roedden nhw eisiau sicrhau y gallai pawb fforddio defnyddio eu cyfleusterau ffitrwydd a gwella eu hiechyd a lles. Penderfynon nhw drawsnewid y busnes yn fenter gymdeithasol, sef Flintshire Wellbeing Ltd, er mwyn sicrhau bod ei elfennau moesegol yn rhan greiddiol o’i weithgareddau.

Sut?

Gweithiodd Neil gydag ymgynghorydd Busnes Cymdeithasol Cymru, Jacqui Cross, yn ystod y broses drawsnewid. Helpodd Jacqui i roi Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu priodol ynghyd ar gyfer menter gymdeithasol, a gweithiodd gyda Neil ar gynllun busnes. Hefyd, gwnaeth yn siŵr bod polisïau yn ymwneud â phrif ffrydio rhywedd, cyfle cyfartal a chynaliadwyedd amgylcheddol ar waith o’r dechrau.

Effaith

Pan gwblhawyd y trawsnewidiad, gostyngodd Neil a Faye y prisiau ymaelodi er mwyn sicrhau bod pobl yn yr ardal leol yn gallu eu fforddio. Fodd bynnag, creon nhw glwb aelodau o’r enw’r ‘250 Club’ hefyd. Mae aelodau’r clwb yn dewis talu £2.50 ychwanegol ar ben eu ffi fisol i gefnogi achosion lleol.

Aeth y rhodd cyntaf i glwb gymnasteg nid er elw Delyn Gymnastics, a dderbyniodd gwerth £500 o gyfarpar ffitrwydd gwrthiant positif. Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn cefnogi teuluoedd a phrosiectau lleol, e.e. banc bwyd, ysgolion, teithiau ar gyfer pobl leol ddifreintiedig, teuluoedd lleol sydd efallai’n cael trafferth ag ymweliadau ysbyty tymor hir, cinio Nadolig i deuluoedd ag anghenion ariannol a’r henoed.

Agorwyd caffi cymunedol er mwyn gwneud y ganolfan yn fwy deniadol i bobl leol fynd yno. Hefyd, mae cynlluniau ar y gweill i gynnig mwy o weithgareddau teuluol ac yn ystod y gwyliau yn y ganolfan.

Crëwyd 4.4 o swyddi cyfwerth ag amser llawn; un hyfforddwr yn y gampfa, dau hyfforddwr ffitrwydd, un steilydd gwallt ac un gweinyddwr.

“Mae ein hymgynghorydd Busnes Cymdeithasol Cymru, Jacqui, wedi bod yn amhrisiadwy yn y broses o drosi i fenter gymdeithasol. Roedd hwn yn gam gofidus i ni, a llwyddodd i leddfu’r rhannau oedd yn codi ofn arnom. Mae Jacqui yn ymatebol ac yn llawn gwybodaeth, yn ogystal â bod yn berson cadarnhaol sy’n gallu tawelu’ch meddwl. Mae gwybod y gallaf roi pethau ar waith, a gwybod y bydd rhywun yno i’n helpu os bydd angen help arnom, yn fuddiol iawn.

“Mae Busnes Cymdeithasol Cymru’n parhau i roi gwybod i ni am gymorth sydd ar gael yn y sector – mae wedi bod yn adnodd gwych. Rydym yn gobeithio mynd ar drywydd rhagor o gyfleoedd wrth i ni ymgyfarwyddo â’r sector.”

Neil Lyons 

Gallwn helpu eich busnes hefyd

Llenwch y ffurflen hon a dywedwch wrthym am eich nodau busnes a byddwn yn dweud wrthych sut y gallwn helpu.