Gweithgarwch masnachol

Pa nwyddau neu wasanaethau fyddwch chi’n eu gwerthu? Dyma beth yw eich allbynnau. Mae’n bwysig eich bod mor glir ac mor fanwl ag y bo modd ynghylch hyn. Gallent fod, er enghraifft, yn nwyddau cyffyrddadwy, yn wasanaethau arbenigol, neu, yn achos mentrau sy’n seiliedig ar wybodaeth, yn addysg neu’n ymgynghoriaeth.

Beth sydd angen i chi ei brynu er mwyn cynhyrchu eich allbynnau? Dyma beth yw eich mewnbynnau. Unwaith eto, gallent fod yn nwyddau cyffyrddadwy neu’n bethau llai cyffyrddadwy megis arbenigedd neu ddata.  Gallent gynnwys hyfforddiant.

Beth yw’r prosesau ar gyfer troi mewnbynnau’n allbynnau? Dyma beth yw peirianwaith y busnes ac mae wrth wraidd y fenter, felly mae angen i chi ddisgrifio’r prosesau hyn yn eglur ac yn fanwl.

Bydd eich busnes wedi’i sefydlu i wneud elw ar gyfer ei aelodau, neu beidio. Hyd yn oed os nad yw ar gyfer gwneud elw personol, serch hynny rhaid iddo wneud gwarged neu ni fydd yn gynaliadwy. Os yw’n dibynnu ar lif cyson o amser neu arian a gyfrannir, mae’r rhain yn cyfrif fel mewnbynnau (er na ellir argymell y model hwn gan ei fod yn golygu dibyniaeth allweddol amlwg). 

Felly, rhaid i’r allbynnau gynhyrchu mwy o arian na chost y mewnbynnau. Mae hyn yn ei dro yn golygu bod yn rhaid i’r gweithgarwch busnes ychwanegu gwerth at y mewnbynnau. Dylech allu dweud sut mae eich busnes yn creu gwerth yn y modd hwn, sut mae’n cynhyrchu rhywbeth nad oedd yno o’r blaen, y bydd eich cwsmeriaid yn talu cymaint amdano fel y bydd yn werth mwy na chostau eich mewnbwn.

Hefyd, dylech allu dweud pam rydych yn credu y bydd eich menter yn gallu creu gwerth ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. Sut byddwch chi’n datblygu eich cynnyrch? Sut byddwch chi’n sicrhau ansawdd?