Marchnata ar gyfer Busnes Cymdeithasol

Mae dealltwriaeth o beth yw “Y Farchnad” yn gallu bod yn fwy cymhleth i Fusnes Cymdeithasol nag i fusnesau eraill.  Yn gyffredinol, mae busnes yn seiliedig ar y cysyniad o farchnad lle mae’r defnyddiwr yn brynwr hefyd ac mae’n gwneud ei benderfyniad prynu ar sail ystyriaethau ynghylch ansawdd, pris a hwylustod.  Caiff yr ystod o opsiynau a phrisiau ar gyfer y cynnyrch a gynigir gan y cyflenwr ei phennu gan gyfrifiad o’r cymysgedd gorau posibl o gyfaint gwerthiant tebygol ac elw am bob eitem i gyd-fynd â gallu ac uchelgais y cyflenwr.

Yn achos busnes cymdeithasol, gallai defnyddwyr/cleientiaid/buddiolwyr fod yn brynwyr, ond mae’r pris yn fwy tebygol o fod yn seiliedig ar gyfrifiad ar gyfer adennill costau.  Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd y farchnad yn cyflwyno mathau eraill o brynwyr hefyd.  Gallai’r rhain gynnwys cymysgedd o unrhyw rai neu bob un o’r canlynol:

  • Cyrff cyllido sy’n rhoi cymhorthdal neu daliad llawn am wasanaethau a ddarperir i gleientiaid a gaiff eu recriwtio a’u gwasanaethu gan y Busnes Cymdeithasol
  • Cyrff cyllido, asiantaethau statudol, elusennau sy’n prynu gwasanaethau i’w darparu i fuddiolwyr penodol “ar eu llyfrau eu hunain”
  • Defnyddwyr sy’n prynu gwasanaethau gyda chyllid neu fudd-daliadau a delir iddynt gyda chyfyngiadau ar sut y gellir eu gwario neu restr gyfyngedig o gyflenwyr cymeradwy
  • Cwsmeriaid masnachol sy’n talu’r “gyfradd lawn” ond gyda’r disgwyl y bydd rhywfaint o’r elw a ddaw o’u gwasanaethu yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau â chymhorthdal neu am ddim neu i roi cymhorthdal i fenter elusennol neu amgylcheddol arall.

Felly, y dasg gyntaf yw ymchwilio, mapio a deall y Farchnad y mae’r Busnes Cymdeithasol penodol yn gweithredu ynddi.  Mae’r cymhlethdod yn golygu bod gwaith i’w wneud yn hyn o beth, ond mae’n bosibl y bydd adran farchnata dda yn gallu gwerthu’r un cynnyrch i amrywiaeth o gwsmeriaid gyda holl fuddion sicrwydd y farchnad y mae hynny’n ei awgrymu.   

Fel arfer, caiff marchnata ei ddiffinio fel system o weithgareddau a ddyluniwyd i gynllunio, prisio, hyrwyddo a dosbarthu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n bodloni dymuniadau cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid, am elw.  Mae’r cysyniad o elw yr un mor bwysig i Fusnes Cymdeithasol ag yr ydyw i unrhyw fusnes arall.  Hyd yn oed os yw’r Busnes Cymdeithasol yn diffinio ei hun fel busnes “dielw”, mae hynny’n golygu “Nid ar gyfer dosbarthu elw i’r perchenogion” – bydd dal i fod angen gwneud elw i ad-dalu benthyciadau allanol neu i fuddsoddi mewn adnoddau gwell a chyfalaf gweithio ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae marchnata llwyddiannus yn golygu cael y cynnyrch cywir ar gael yn y man cywir ar yr adeg gywir a sicrhau bod y cwsmer yn ymwybodol ohono.

Felly, mae marchnata’n cynnwys: 

  • Ymchwil i’r farchnad (darganfod beth mae’r cwsmer yn ei eisiau neu ei angen)
  • Hysbysebu (gwneud y cwsmer yn ymwybodol o’ch cynnyrch)
  • Pecynnu (gwneud eich cynnyrch yn ddeniadol i’r cwsmer)
  • Gwerthu (darbwyllo’r cwsmer i brynu eich cynnyrch)

Rhaid i ymdrech farchnata dda gyflawni dau nod: sef canfod dymuniadau ac anghenion cwsmeriaid ac wedyn eu bodloni.  Er efallai bod y nodau hyn yn ymddangos yn syml, mae’n bosibl y byddant yn anodd eu cyflawni.

Mae marchnata llwyddiannus yn gofyn am sgiliau ymchwil cadarn, strategaethau meddwl, a chreadigrwydd.  I farchnata cynnyrch, rhaid i chi:

  • Nodi marchnad darged (pwy fydd yn prynu eich cynnyrch?)
  • Nodi dymuniadau ac anghenion y farchnad darged honno (beth yw gofynion y cynnyrch?)
  • Darbwyllo’r farchnad darged i brynu eich cynnyrch (sut dylai’r cynnyrch gael ei hyrwyddo?)

Ymchwil i’r Farchnad

Mae pob Busnes Cymdeithasol angen gwybodaeth fel sail i’w benderfyniadau marchnata.  Mae ymchwil i’r farchnad yn golygu mynd ati’n systematig i gasglu, cofnodi a dadansoddi data sy’n ymwneud â marchnata nwyddau a gwasanaethau.  Diben hyn yw hwyluso gwneud penderfyniadau gwell ac osgoi gwneud camgymeriadau costus.  Bydd yr amser a’r arian a gaiff eu gwario ar ymchwil i’r farchnad yn profi’n werthfawr, naill ai drwy dynnu sylw at gyfleoedd newydd, neu drwy ddatgelu sefyllfaoedd peryglus posibl.

Mae ymchwil i’r farchnad yn troi o gylch datblygu rhagolygon gwerthiant, penderfynu ar y farchnad a gwerthiannau posibl, dylunio cynnyrch, gwerthuso hysbysebu, a phenderfynu ar yr hyn sy’n cymell defnyddwyr i brynu.  Yn gyffredinol, mae tri maes i’w hystyried: y cwsmer, y gystadleuaeth a’r amgylchedd.

Gellir casglu data naill ai o ffynonellau sylfaenol neu o ffynonellau eilaidd.  Mae casglu gwybodaeth o ffynonellau sylfaenol yn golygu, fel y mae’r enw’n ei awgrymu, mynd yn uniongyrchol at y ffynhonnell, boed hynny’n fater o holi cystadleuwyr neu arolygu cwsmeriaid ac ati.  Fodd bynnag, y cam cyntaf fyddai casglu gwybodaeth gefndir drwy fynd at ffynonellau eilaidd, megis cyhoeddiadau’r llywodraeth a chyfnodolion masnach.  Dylai gwybodaeth benodol ar gyfer asesu’r farchnad gynnwys:

i ) Y Cwsmer

Mae nodi marchnad darged yn bwysig iawn – mae pwy fydd mewn gwirionedd yn prynu neu ag angen yn un peth, ond mae Busnes Cymdeithasol angen galw: sef dymuniad yn ogystal â gallu i dalu.  Efallai mai’r rheol unigol bwysicaf mewn marchnata yw “byddwch yn gyfarwydd â’ch cwsmer”.

ii) Y Gystadleuaeth

Rhaid nodi cystadleuwyr fel y gellir eu monitro.  Dylid eu dadansoddi i nodi eu cryfderau a’u gwendidau.  Gall Busnesau Cymdeithasol ddysgu llawer am y canlyniadau posibl ar gyfer eu dyfodol drwy astudio’r hyn y mae busnesau eraill wedi’i wneud ac yn ei wneud mewn marchnad benodol.  Dylid gwneud amcangyfrifon o gyfaint gwerthiannau cystadleuwyr a’u cyfrannau o’r farchnad.  Hefyd, dylid barnu ymatebion cystadleuwyr i newydd-ddyfodiaid fel chi.  Dylai eich dadansoddiad o’r gystadleuaeth gynnwys dadansoddiad o’r rhesymau dros eu llwyddiant.  Rydych eisiau gwybod pam y mae cwsmeriaid yn prynu eu cynnyrch neu’n galw am eu gwasanaethau.

iii) Yr Amgylchedd

Dylai swyddogaeth Marchnata Busnes Cymdeithasol geisio clustnodi ychydig o amser yn rheolaidd ar gyfer ystyried tueddiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a thechnolegol a allai newid y farchnad.

Potensial Cynnyrch

Dylai archwilio’r tri ffactor uchod roi asesiad o’r farchnad bosibl ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau.  Bydd y gyfran o’r farchnad yn y pen draw yn rhan fawr neu fach o’r cyfanswm hwn, yn dibynnu ar gryfder y gystadleuaeth a’ch ymdrechion marchnata eich hun.

Marchnata Targed

Mae marchnadoedd yn cynnwys segmentau, y gellid – yn dibynnu ar y cynnyrch neu’r gwasanaeth a ddarperir gan y Busnes Cymdeithasol – eu rhannu yn ôl daearyddiaeth, oedran, ethnigrwydd neu nifer o ffactorau eraill.  Mae Marchnata Targed yn ymwneud â chanolbwyntio’r sgwrs ar y bobl sydd fwyaf tebygol o fod â diddordeb.

Yr allwedd i hygrededd y rhagamcaniadau ariannol a chymdeithasol fydd ansawdd yr ymchwil i’r farchnad a gynhelir.


Yn yr adran hon:

Datblygu Strategaeth Farchnata