Os ydych wedi treulio blynyddoedd yn datblygu eich menter gymdeithasol ac yn meithrin eich staff, byddwch yn ymwybodol o’r sgil-effaith y bydd cau eich busnes yn ei chael ar gyflenwyr, cwsmeriaid a gweithwyr. Fe allai gael effaith ehangach ar eich cymuned leol hefyd.

Pan fydd sefydliad yn cael ei werthu i gystadleuwr allanol, mae perygl bob amser y bydd y busnes yn cael ei amddifadu o’i beirianwaith, ei ddoniau a’i eiddo deallusol. Fe allai gael ei gau a gallai’r prosesau cynhyrchu neu’r gwasanaethau gael eu trosglwyddo i safle arall, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd oddi wrth ei ganolfan bresennol, o bosibl.

Mae perchnogaeth gan weithwyr yn cynnig nifer o gyfleoedd i berchnogion busnes sy’n ymadael ymsefydlu’r fenter gymdeithasol yn ei chymuned a’i heconomi leol.

Archwiliwn isod y gwahanol fodelau perchnogaeth gan weithwyr, sydd oll wedi’u cynllunio i amddiffyn buddiannau gweithwyr a datblygu’r busnesau’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Modelau ar gyfer perchnogaeth gan weithwyr:

Y math symlaf o berchnogaeth gan weithwyr yw pan fydd gan weithwyr fuddiant uniongyrchol yn y cwmni. Mae sawl model busnes sy’n gweithio ar gyfer perchnogaeth uniongyrchol, naill ai trwy ddal cyfranddaliadau unigol neu drwy ymagwedd gydfuddiannol neu gydweithredol.

Yng ngogledd Cymru, penderfynodd gweithwyr Caffi Florence gymryd busnes caffi ac ystafell de llwyddiannus drosodd ym Mharc Gwledig Loggerheads. Dewiswyd ymagwedd gydfuddiannol a sefydlwyd y cwmni newydd fel cymdeithas ddiwydiannol a darbodus.

Mae’n bosibl sefydlu Ymddiriedolaeth i gadw perchnogaeth ar y cwmni ar ran ei weithwyr. Yna, gall gweithwyr gael eu cynrychioli ar fwrdd yr Ymddiriedolaeth. Gellir defnyddio’r model ymddiriedolaeth i helpu perchennog busnes i adael y cwmni yn raddol. Gellir rhoi elw o’r cwmni yn rhodd i’r ymddiriedolaeth, a gellir defnyddio’r elw hwn i brynu cyfranddaliadau yn y cwmni dros gyfnod hir.

Mae’n debyg mai Ymddiriedolaeth yw’r ffurf fwyaf adnabyddus o berchnogaeth gan weithwyr. Fe’i defnyddir yn enwog gan Bartneriaeth John Lewis, y mae gan ei 86,000 o weithwyr, neu ‘bartneriaid’, lais yn y ffordd y mae’r busnes yn cael ei gynnal trwy gyfres o gynghorau staff, cylchgronau staff a mathau eraill o offer cyfathrebu.

Mae’r Bartneriaeth yn talu bonws blynyddol i’w staff yn seiliedig ar elw’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn wedi bod yn gyfwerth â mis o gyflog o leiaf bob blwyddyn ers 1999. Mae busnesau eraill sy’n defnyddio’r ymagwedd hon yn cynnwys yr ymgynghorwyr dylunio a pheirianneg byd-eang ARUP, a newidiodd i berchnogaeth gan weithwyr ym 1977, a’r gwneuthurwyr jamiau a chyffeithiau Wilkins and Sons Ltd, sy’n mwynhau perchnogaeth helaeth gan weithwyr trwy ymddiriedolaeth.

Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, mae ymagwedd hybrid yn gyfuniad o berchnogaeth uniongyrchol ac ymddiriedolaeth. Er nad yw cyfrannau’r cyfranddaliadau a ddelir wedi’u pennu’n benodol, mae’n debygol y byddai’r ymddiriedolaeth weithwyr yn dal mwyafrif y cyfranddaliadau busnes ac yn rheoli’r fenter ar ran pawb.

Mantais fwyaf dewis model perchnogaeth hybrid gan weithwyr yw’r ffaith bod cyfuno’r ddau brif fath o berchnogaeth gan weithwyr yn cynyddu eu manteision ac yn lleihau eu hanfanteision.

Sefydlwyd Aber Instruments yn Aberystwyth ym 1988. Mae’n cynhyrchu offer mesur i’w defnyddio wrth eplesu a bragu. Fe’i perchnogwyd yn wreiddiol gan 4 partner, a phenderfynwyd ehangu perchnogaeth cyfranddaliadau trwy ddefnyddio cynllun perchnogaeth cyfranddaliadau sy’n fanteisiol o ran treth. Caffaelodd gweithwyr unigol gyfran uniongyrchol yn y busnes.

Esboniodd y Cyn-Reolwr Gyfarwyddwr, Barry Wise, “Roedd y rhan fwyaf [o’n llwybrau ymadael posibl] yn ymwneud â buddiant ecwiti y tu allan i’r cwmni. Doedden ni ddim eisiau hynny. Roedden ni wastad wedi bod yn gwmni annibynnol a berchnogwyd gan aelodau’r cwmni, ac roedden ni eisiau gwarantu swyddi yn Aberystwyth. Roedden ni eisiau gwarantu ymgysylltiad gan y staff”.

O 2004 ymlaen, talwyd cyfran o’r elw i Ymddiriedolaeth Buddiant Gweithwyr, ac fe’i defnyddiwyd i brynu cyfranddaliadau’r sylfaenwyr yn raddol. Erbyn heddiw, mae’r gweithwyr yn berchen ar y cwmni 100% ac mae’n parhau i fod wedi’i wreiddio’n gadarn yn Aberystwyth. Ni ellir ei werthu i brynwr allanol oni bai bod y perchnogion-weithwyr a’r ymddiriedolwyr yn cytuno.

A hoffech chi siarad â rhywun am berchnogaeth gan weithwyr? 

Cysylltwch â Busnes Cymru trwy ffonio 03000 603000 a dyfynnu ‘EO2019’. Byddwn yn falch o drefnu trafodaeth anffurfiol ag un o arbenigwyr Busnes Cymdeithasol Cymru ar berchnogaeth gan weithwyr.

Gan eich bod chi bellach yn gwybod sut mae perchnogaeth gan weithwyr o fudd i’r busnes a’r gymuned, mae’n bryd ystyried sut i werthu eich busnes i’ch gweithwyr.