Get your social business ready for employee ownership

Mae gadael sefydliad rydych wedi’i ddatblygu a chyfrannu blynyddoedd o waith caled ac ymroddiad ato yn benderfyniad anodd, yn enwedig pan allwch weld yr effaith gadarnhaol y mae eich busnes cymdeithasol wedi’i chael ar ei weithwyr a’r gymuned ehangach, a byddwch eisiau i’r effaith gymdeithasol honno barhau ar ôl i chi adael.

Mae Perchnogaeth gan Weithwyr yn ffordd wych o warchod eich gwaddol a’i adael yn nwylo pobl sydd eisoes wedi ymroi i’r busnes ac yn gwybod sut mae’n gweithio. Ond, fel sy’n wir am unrhyw broses trosglwyddo busnes, mae angen iddi gael ei chynllunio’n ofalus.

Os ydych wedi penderfynu gadael eich busnes cymdeithasol ac wedi dewis perchnogaeth gan weithwyr fel eich strategaeth ymadael, mae angen i chi ystyried nifer o agweddau allweddol cyn trosglwyddo’r awenau, er mwyn sicrhau bod popeth yn parhau i weithredu’n effeithiol.

Nodir isod ein 5 awgrym da ar gyfer paratoi eich busnes ar gyfer perchnogaeth gan weithwyr:


Lluniwch strategaeth werthu. Meddyliwch am yr hyn rydych eisiau ei gyflawni o’r gwerthiant 

  • Beth ydych chi’n ceisio ei werthu? Eich asedau, eich llyfr archebion, eich eiddo deallusol, neu gyfuniad o bob un?
  • A ydych chi eisiau cyflawni gwerth penodol?
  • A ydych chi eisiau gadael y cwmni’n raddol? Am ba mor hir ydych chi’n fodlon aros gyda’r busnes?
  • A ydych chi eisiau sicrhau bod y cwmni’n parhau i fod wedi’i wreiddio yn y gymuned? ​​​​​​

Paratowch am werthu eich busnes cymdeithasol. Gallech ystyried:

  • Ymagwedd ‘llyfr agored’ at gyllid, gwerthiannau ac archebion yn y dyfodol.
  • Cyfathrebu â gweithwyr. I ba raddau mae’r gweithwyr yn ymwneud â chynnal y busnes o ddydd i ddydd? Pa wybodaeth allai eu helpu i gyfrannu mwy at y busnes?
  • Pa sgiliau sydd eisoes yn y busnes a pha sgiliau y mae angen iddynt fod ar waith pan fyddwch yn gadael y busnes? 

Datblygwch gynllun olyniaeth

  • Pwy sydd yn eich tîm rheoli? A fyddant yn arweinwyr da? A allent ymgymryd ag elfennau o’ch rôl yn awr? 
  • Pa sgiliau y mae eu hangen ar y gweithlu? A allwch chi amlygu unigolion i’w hyfforddi i ymgymryd â chyfrifoldebau rheoli yn y dyfodol? 
  • Sut gallwch chi gyfathrebu’n well â’ch gweithlu? 

Pennwch werth eich busnes

  • Beth yw gwerth y busnes ei hun?
  • Pa eiddo deallusol y mae’r busnes yn berchen arno? Ystyriwch y wybodaeth sydd gan eich gweithwyr yn ogystal â nodau masnach, patentau a phrosesau.
  • Pa stoc ac asedau sydd gan y busnes?
  • Beth yw gwerth y llyfr archebion i ddod? 

Dewiswch y cynghorwyr busnes iawn

Mae angen gwybodaeth arbenigol, amser ac ymdrech i weithredu datrysiadau perchnogaeth gan weithwyr a datblygu ac ymgysylltu â staff. Dylech roi ystyriaeth ofalus i ddewis pwy i’ch cynghori o’r cychwyn cyntaf ac ar hyd y daith.

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu cymorth un i un i fusnesau sydd â diddordeb mewn cynllunio ar gyfer olyniaeth, a hwn yw’r prif sefydliad sy’n cynorthwyo â pherchnogaeth gan weithwyr yng Nghymru. Gall y tîm mewnol o arbenigwyr roi cyngor ar ystod eang o agweddau sy’n berthnasol i drosglwyddo perchnogaeth busnes bach a chanolig i weithwyr. Gallant eich helpu i ystyried goblygiadau’r broses drosglwyddo o ran cyllid corfforaethol, treth a llywodraethu.

Mae’r tîm hefyd yn darparu’r sgiliau a’r arbenigedd sy’n angenrheidiol i gyflawni’r ymgysylltiad eang â staff sy’n ofynnol i ddatblygu dealltwriaeth o ofynion prynu gan weithwyr, ac ystyried yn ofalus lwybrau posibl tuag at drosglwyddo perchnogaeth yn llawn ochr yn ochr â’r strwythur llywodraethu gofynnol.


Darganfyddwch fuddion treth perchnogaeth gan weithwyr. 


A hoffech chi siarad â rhywun am berchnogaeth gan weithwyr?

Cysylltwch â Busnes Cymru trwy ffonio 03000 603000 a dyfynnu ‘EO2019’. Byddwn yn falch o drefnu trafodaeth anffurfiol ag un o arbenigwyr Busnes Cymdeithasol Cymru ar berchnogaeth gan weithwyr.