Defnyddir y term ‘strategaeth fuddsoddi gytbwys’ i ddisgrifio ffordd o sicrhau cydbwysedd rhwng risg ac adenillion trwy ddyrannu a rheoli portffolio.

Mae’r dull dyrannu portffolio hwn wedi’i rannu rhwng gwarannau ac ecwitïau incwm sefydlog. 

Gallai strategaeth fuddsoddi gytbwys gynhyrchu incwm, cyfleoedd ar gyfer twf, a photensial am arallgyfeirio hefyd. Yn yr adran hon, rydym yn edrych ar y tair prif agwedd ar y dull dyrannu portffolio hwn.

Buddsoddiad cyfalaf sefydlog cytbwys  

Y buddsoddiad cyfalaf sefydlog (arian a fuddsoddir mewn asedau o natur barhaol i’w defnyddio droeon dros gyfnod hir) yw’r rhan o strategaeth fuddsoddi sy’n fwyaf amlwg a rhwydd ei mesur fel arfer. Hon hefyd yw’r rhan rwyddaf i godi cyllid ar ei chyfer oherwydd y gellir sicrhau buddsoddiad i ryw raddau yn erbyn y nwyddau cyfalaf hyn.  

Am y rheswm hwn, mae buddsoddiadau cyfalaf sefydlog yn tueddu i gael gormod o sylw wrth godi cyllid. Gall hyn arwain at strategaeth fuddsoddi anghytbwys lle na wneir digon o ddefnydd o fuddsoddi mewn capasiti cynhyrchiol.  

Mae tanfuddsoddi mewn elfennau anweladwy (er enghraifft, buddsoddi mewn sgiliau, datblygu’r farchnad neu ddatblygu cynnyrch) yn golygu nad oes digon o sgiliau i wneud defnydd llawn o’r buddsoddiad, neu nid oes digon o ddatblygiad marchnad i’w gadw’n gwbl brysur. Mae tanfuddsoddi mewn cyfalaf gweithio (yr arian parod sydd ar gael ar gyfer gweithrediadau sefydliad o ddydd i ddydd) yn golygu nad oes arian i brynu’r mewnbynnau sydd eu hangen i’w fwydo.   

Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o agweddau ar reoli menter, mae strategaeth fuddsoddi dda yn ymwneud â chydbwysedd, cytgord, a synergedd. Mae’n well gwneud ychydig yn dda ac yn drylwyr yn hytrach na gwneud llawer mewn modd costus ac anghytbwys.

Cyllido tymor hir 

Yn yr un modd, dylech gyflwyno’r strategaeth fuddsoddi mewn ffordd sy’n hawdd ei rheoli gan y sefydliad, ac sy’n gweddu i’w batrwm twf. Mae hyn yn golygu bod angen strategaeth gytbwys dros gyfnod o flynyddoedd.

Mae cynllunio tymor hir yn helpu lleihau camgymeriadau sy’n aml yn digwydd pan fydd mentrau yn caniatáu i’w strategaethau buddsoddi gael eu gosod yn ôl ymateb i ofynion buddsoddi unigol. Yn aml, mae buddsoddiadau o’r fath yn dangos gwendid pellach yn rhywle arall yn hytrach na chynyddu cynhyrchiant, sy’n golygu mai ychydig iawn o adenillion ar y cyfalaf a ddefnyddiwyd, os o gwbl, a gyflawnir gan y busnes. 

Ffynonellau cyfalaf amrywiol 

Mae angen i fenter wasgaru ei ffynonellau cyllid ar draws ystod o opsiynau er mwyn sicrhau nad yw’n disgyn dan reolaeth sefydliad allanol. Mae sicrhau cydbwysedd o ran y ffynonellau buddsoddi yr un mor bwysig â sicrhau cydbwysedd yn y defnydd a wneir ohoni ar draws y fenter a thros gyfnod. 

Archwiliwch fwy o ffynonellau cyllid ar gyfer eich busnes cymdeithasol