Strategaethau eraill i ariannu busnes cymdeithasol

Ar ôl penderfynu beth sydd ei angen i sefydlu neu ddatblygu’r fenter, dylech ystyried a yw’n angenrheidiol ei gael yn fewnol gyda’r holl fuddsoddiad cysylltiedig gofynnol, neu gontractio gwaith i ffynonellau allanol. 

Ai’ch chyfrifoldeb chi yw buddsoddi bryd hyn? A oes angen gwirioneddol i chi wneud buddsoddiad ychwanegol? Neu, a fyddai’n rhatach, yn llai peryglus neu’n ffordd o brofi pa mor effeithiol y bydd buddsoddiad yn y dyfodol trwy gontractio gwaith i fusnes arall sydd naill ai’n gallu cyflenwi neu sy’n barod i fuddsoddi yn eu hunain i gyflenwi i chi? Hefyd, efallai nad ydych chi mewn sefyllfa ddigon cryf i sicrhau buddsoddiad a bydd angen i chi chwilio am strategaethau eraill.

Dylech archwilio nodau eich busnes eto. Efallai ei bod hi’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn achub ar bob cyfle i ehangu maint y gweithrediad, naill ai i gyflawni màs critigol, caniatáu ar gyfer arbenigo, neu i greu swyddi, ond yn yr un modd, nid yw’n angenrheidiol. Er enghraifft, yn aml, mae’n werth contractio gwaith i ffynonellau allanol hyd nes y gellir profi y tu hwnt i bob amheuaeth y bydd symud y swyddogaeth honno’n fewnol yn arbed arian. Mae hyn yn lleihau risg y buddsoddiad ac yn amlygu’r achos i fuddsoddwyr allanol. Mae’n debyg mai lleihau costau trwy amnewid gwasanaeth a ddarperir yn allanol ar hyn o bryd am un a ddarperir yn fewnol yw’r achos hawsaf i’w brofi dros fuddsoddiad.

Dewis arall yw chwilio am fenter fach arall mewn maes cysylltiedig i weithio gyda hi, gan adael rhan o’r buddsoddiad iddyn nhw. Yr egwyddor arweiniol yma yw bod rhaid cyflawni’r gorchwyl, y gorchwyl cyfan, ac mae’n rhaid i ni gyflawni beth rydym ni’n ei wneud orau a beth y gallwn ni wneud cyfraniad hanfodol o ansawdd ato. Nid yw’n angenrheidiol ein bod ni’n gwneud popeth nac yn cadw rheolaeth lawn dros bopeth. Argymhellir yn fawr yr egwyddor o   fod yn barod i fentro a chydweithredu yn hytrach nag atebion paranoiaidd a chystadleuol. Nid oes rhaid i chi dyfu’r gwenith, melino’r blawd a phobi’r bara os gwneud y frechdan yw eich gwerth ychwanegol gwirioneddol.

Yn yr un modd, a oes angen i ni ei brynu neu a oes dewis rhentu / prydlesu, ac a ydym ni wedi cyflawni dadansoddiad o gost / budd ar ddewisiadau gwahanol?