Vi-Ability
Menter Gymdeithasol y DU 2015
- Mae trosiant y cwmni dros £1 miliwn y flwyddyn
-
Mae 84% o ddysgwyr yn mynd ymlaen i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy
-
Y llynedd, cynyddodd incwm Vi-Ability dros 70%, gan dyfu o 3 i 16 aelod o staff amser llawn, ac ehangu i Lundain, mewn partneriaeth â Nesta a Swyddfa Cabinet y DU.
Datblygwyd Vi-Ability, a sefydlwyd yng Nghonwy, i fynd i’r afael â phroblemau clybiau pêl-droed ansefydlog ac anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc. Wrth gynnig cyrsiau hyfforddi arloesol a chymwysterau mewn rheoli chwaraeon masnachol, mae Vi-Ability wedi llwyddo i drawsffurfio clybiau chwaraeon, newid bywydau miloedd o bobl ifanc a helpu i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cynaliadwy ledled y byd.
“Roedd Busnes Cymdeithasol Cymru yno ar ddechrau taith Vi-Ability, yn ein helpu ni i sefydlu fel menter gymdeithasol. Maen nhw wedi bod yn gyfaill hanfodol ar adegau anghenus, i’n helpu ni drwy anawsterau tyfu anochel, a’n helpu ni i barhau i ddefnyddio chwaraeon fel man cychwyn i ysgogi cenhedlaeth i gyfrannu at eu cymunedau.”
Kelly Davies, Sefydlydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Vi-Ability
Cynyddu trosiant. Cynyddu elw. Arallgyfeirio. Ehangu. Cydweithredu. Cydweithio. Trawsffurfio.
Beth bynnag rydych chi eisiau ei wneud, mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu’r arbenigwyr a all helpu. Ni yw’r gweithrediad cenedlaethol ledled Cymru ar gyfer busnesau cymdeithasol a mentrau cydweithredol.
I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Busnes Cymdeithasol Cymru