Social business market

O ran busnes cymdeithasol, y farchnad yw’r grŵp o ddefnyddwyr sydd â diddordeb yn eich cynhyrchion, eich gwasanaethau a’ch allbwn.

Fe allai gynnwys nifer o grwpiau llai, neu segmentau, y bydd angen i chi ymdrin â nhw ar wahân.

Mae llwyddiant eich busnes cymdeithasol yn dibynnu ar allu’r farchnad i’w gynnal, felly mae’n hollbwysig eich bod chi’n deall eich marchnad. Os na fydd aelodau’r gymuned yn cefnogi’r hyn rydych chi’n ei gynnig ac yn cynhyrchu cwsmeriaeth reolaidd, ni fydd gennych ddigon o arian i fwrw ymlaen â’ch cenhadaeth gymdeithasol. Dyna pam y dylai eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau gael eu llywio gan eich gwybodaeth am y farchnad.

Mae’n bwysig i fusnes cymdeithasol wahaniaethu rhwng cwsmeriaid a chleientiaid:

Cwsmeriaid, neu brynwyr, yw’r unigolion sy’n talu am eich nwyddau a’ch gwasanaethau.

Cleientiaid, neu fuddiolwyr, yw’r rhai sy’n derbyn cynnyrch cymdeithasol busnes.  


Beth yw ymchwil i’r farchnad ym maes busnes?

Gweithgarwch ymchwil sy’n darparu gwybodaeth yn ymwneud â gweithrediadau marchnata.

Mae’r term yn cynnwys ymchwil gonfensiynol i’r farchnad yn ogystal ag astudiaethau cymhelliad, effeithiolrwydd hysbysebu, effeithiolrwydd pecynnu, logisteg, ymchwil i gyfryngau ac unrhyw ddadansoddiad o ystadegau mewnol ac allanol perthnasol. 
  

Cafwyd o CIM https://marketingexpert.cim.co.uk/glossary/ 


Diffinio marchnadoedd eich busnes cymdeithasol

Mae’n debygol y bydd gan eich busnes cymdeithasol nifer o farchnadoedd, gan gynnwys un neu fwy o’r canlynol: 

  • Cwsmeriaid sydd hefyd yn gleientiaid ac sy’n prynu gwasanaethau iddyn nhw eu hunain. Gallent ddefnyddio eu harian eu hunain neu arian a roddir iddynt gan sefydliadau eraill i brynu gennych. 
  • Cyllidwyr sy’n rhoi arian i chi er mwyn recriwtio a gwasanaethu buddiolwyr.
  • Cwsmeriaid sy’n eich talu chi i ddarparu gwasanaethau i’w cleientiaid nhw. 
  • Cwsmeriaid masnachol sy’n talu’r gyfradd lawn, wedi’u darbwyllo gan y ffaith y bydd rhywfaint o’r elw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith pro bono i fuddiolwyr. 

Disgrifiwch yr holl farchnadoedd y bwriadwch weithredu ynddynt a sut rydych yn bwriadu ymgysylltu â nhw. Nid oes angen i chi gael cynllun marchnata llawn ar y cam hwn, ond dylech ddarparu tystiolaeth fod eich marchnadoedd yn gallu cynnal eich menter yn y tymor hir.

Amlinellwch eich ymchwil i’r farchnad ar gyfer eich busnes cymdeithasol gan ddefnyddio ein templed:  

DOCX icon