O ddefnyddwyr rheolaidd y safle at berchnogion y safle, mae busnes gŵr a gwraig yn mwynhau dyfodol digidol cyffrous ar ôl derbyn uwchraddiad digidol ac ailwampiad marchnata yn eu maes carafanau sy’n annwyl gan lawer. 

 

Ar ôl bod yn ymwelwyr ym Mharc Carfanau Ty’n Don am fwy nag ugain mlynedd, gwnaeth Janet a Ralph ymgymryd â’r dasg o foderneiddio’r safle, gyda chynlluniau ar gyfer paneli solar, tyrbinau gwynt a hyd yn oed gwresogi carbon niwtral

Wedi’i leoli ar lwybr arfordir Cymru yn edrych dros Fae Porth Neigwl yng Ngwynedd – a adnabyddir hefyd fel Hell’s Mouth – mae’r safle yn cynnwys amrediad o lety a chyfleusterau, gan gynnwys deg o fythynnod gwyliau, ffermdy a all gysgu hyd at 18 o westeion, ac ardal bwrpasol ar gyfer carafanau statig arhosiad hir – y cwbl o fewn 17 acer o gefn gwlad. 

Fel rhan o gymryd y busnes drosodd, mae’r busnes yn derbyn diweddariad digidol llawn, gyda gwefan newydd a system archebu fodern, yn ogystal â strategaeth farchnata sy’n canolbwyntio ar gyfryngau cymdeithasol ac optimeiddio peiriannau chwilio (OPCh).   Mae’r ailwampio yn ddiolch i’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau. 

Dywedodd Janet: “Gwnaethom brynu’r safle yn 2019, ychydig cyn cyfnod COVID, a threuliasom gyfnod y cyfyngiadau symud yn adnewyddu’r bythynnod gwyliau presennol yn ogystal â throi’r ffermdy yn llety ychwanegol a all groesawu grwpiau mwy. 

“Roeddem eisiau gwybod sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn well er mwyn hyrwyddo ein busnes, ac felly aethom i chwilio am gyngor proffesiynol.  Cymeradwywyd Cyflymu Cymru i Fusnesau inni gan ffrind sy’n berchen ar lety rhentu gwyliau ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn wirioneddol ddefnyddiol. 

“Nid oedd gennym ni unrhyw ddealltwriaeth flaenorol ynglŷn â sut i redeg busnes gwyliau, ac felly, roedd y cwbl yn newydd iawn inni.  Mae derbyn gwybodaeth gan arbenigwyr wedi ein helpu ni i edrych ar bethau o bersbectif busnes a deall gwerth marchnata digidol.” 

“Nid oedd gennym ni unrhyw ddealltwriaeth flaenorol ynglŷn â sut i redeg busnes gwyliau, ac felly, roedd y cwbl yn newydd iawn inni.  Mae derbyn gwybodaeth gan arbenigwyr wedi ein helpu ni i edrych ar bethau o bersbectif busnes a deall gwerth marchnata digidol.”  

 

Gan gydnabod buddion cynllun cynnwys cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Janet: “Nid ydym ni’n ddefnyddwyr mawr o Facebook nac Instagram, ond rydym yn teimlo’n fwy cyfforddus yn postio ers inni dderbyn y cyngor a roddwyd yn yr adroddiad. Yr hyn sy’n dda yw y gallwch chi addasu’r argymhellion i gydweddu â beth fydd yn gweddu i chi, fel y nifer o weithiau yr ydych chi’n postio bob wythnos neu’r fath o gynnwys yr ydych chi’n ei rannu. 

“Yn sicr, mae’r ymgynghoriad wedi gwneud inni ymgyfarwyddo â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y busnes ac rydym yn awr yn deall eu gwerth marchnata positif. 

“Rydym am ddefnyddio mwy o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ymgysylltu â’n cwsmeriaid rheolaidd, gyda’r nod o allu cynhyrchu mwy o archebion newydd.  Rydym wedi bod yn postio ar Instagram ac rydym wedi gweld ymateb cadarnhaol gan ein dilynwyr hyd yma, ond rydym yn cynllunio i ddefnyddio mwy ar y nodwedd straeon y tymor hwn fel y gallwn ni rannu amrediad ehangach o gynnwys yn amlach.” 

Gyda thair agwedd i’r busnes – y maes carafanau, y llety gwyliau sy’n bodoli a’r tŷ sydd newydd ei adnewyddu ar gyfer archebion mwy – cydnabuwyd y byddai adnewyddu’r wefan yn helpu i gynyddu’r ymholiadau. 

Dywedodd Janet:

“Mae adolygiad gwe Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi ein helpu ni i edrych yn fwy manwl ar sut ydym yn defnyddio’r wefan a sut y gallwn ni wneud y broses archebu yn fwy effeithlon.  Yn awr, rydym yn gweithio gyda chynllunydd gwe er mwyn gweithredu system fodwlar, lle gall bobl edrych yn hawdd ar y llety sydd ar gael ar ddyddiadau drwy’r tymor. 

 

“Mae’r deunydd ar y we hefyd yn cael ei ddiweddaru er mwyn canolbwyntio ar ddolenni ac optimeiddio peiriannau chwilio (OPCh), nad oedden ni’n gwybod llawer amdanyn nhw cynt ac rydym yn edrych ymlaen at weld pa ganlyniadau y bydd hyn yn ei gynhyrchu.  Mae’r gefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi cynyddu ein hymwybyddiaeth yn ddramatig ynglŷn â sut yr ydym ni angen moderneiddio’r safle.” 

Ar ôl talu yn flaenorol i asiantaeth i ymdrin â holl archebion y wefan, roedd Janet a Ralph yn awyddus i adeiladu ymddiriedaeth gyda chwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol drwy ymwreiddio’r system archebu yn uniongyrchol i’r safle. 

Ychwanegodd Janet: “Roeddem yn gwybod bod angen gweithio ar ein system archebu ac mae’r ymgynghoriad wedi dangos ffyrdd syml inni er mwyn inni allu mireinio'r hyn yr ydym yn ei wneud.  

“Mae’r bobl sy’n archebu yn rheolaidd wedi dweud wrthym eu bod nhw’n hoffi’r fformat newydd, oherwydd y gallan nhw weld yr holl ddewisiadau ar system grid, ac felly mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn un cadarnhaol.  Mae gwneud y broses hon yn fewnol hefyd wedi arbed arian inni, gan nad ydym mwyach angen cael 100 y cant o’n harchebion drwy asiant allanol.  

“Mae hi’n rhy gynnar yn y flwyddyn inni allu dweud a fydd cynnydd mewn refeniw o’r newidiadau hyn, ond bydd yn defnyddio offer dadansoddol i fonitro canlyniadau wrth i’r tymor fynd yn ei flaen.  Y prif beth yw ein bod yn awr yn gwybod ein bod ar y llwybr cywir.” 

Mae Janet a Ralph, a gafodd fudd o’r codiad sylweddol mewn gwyliau yn y wlad hon y llynedd yn ystod y pandemig, yn ddiolchgar am y gefnogaeth gyfannol amhrisiadwy a ddarparwyd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn yr hyn a fu yn gyfnod ansicr. 

Ychwanegodd Janet: “Mae arbenigedd Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn ddefnyddiol iawn, a byddem yn cymeradwyo’r gefnogaeth i fusnesau eraill sy’n chwilio am bersbectif newydd ynglŷn â sut y gallan nhw ddatblygu.  

“Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn awr yn ein helpu ni i sôn am ein hymdrechion ‘mynd yn wyrdd’, ein mentrau cynaliadwyedd, ein gweithgareddau a’n gweledigaeth drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan. 

“Rydym yn angerddol ynglŷn â gofalu am yr amgylchedd naturiol sydd o gwmpas y safle ac mae gennym ni rywogaethau bywyd gwyllt prin yn byw yn agos.  Rydym yn gweithio gyda sefydliadau amgylcheddol lleol er mwyn sicrhau ein bod yn helpu’r anifeiliaid sydd o’n cwmpas drwy ddulliau fel creu dolydd ar gyfer pori.”