Mae cyn-athrawes wyddoniaeth o Gasnewydd wedi defnyddio technoleg ddigidol i gynyddu maint ei busnes tiwtora preifat bedair gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf, tra’n darparu gwasanaethau hanfodol i rieni lleol sydd â phlant gydag anawsterau dysgu.

Dechreuodd Jo Bold ei busnes tiwtora tra’n gweithio i awdurdod lleol fel athrawes arbenigol ar gyfer plant gydag anawsterau dysgu penodol, pan yr oedd yn ofni na allai cyllideb y Cyngor gefnogi’r gwasanaeth mwyach yr oedd hi a’i chydweithwyr yn ei ddarparu. Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain (CDP) yn amcangyfrif bod y cyflwr yn effeithio ar oddeutu 10% o boblogaeth y DU, yn cynnwys tua thri chwarter miliwn o blant, ond mae llawer o awdurdodau lleol wedi gorfod cwtogi eu darpariaeth addysgu arbenigol.

Jo Bold of 3D Learning Solutions

 


Sefydlodd Jo 3D Learning Solutions ym mis Hydref 2017, gan weithio yn rhan-amser gyda thri o ddisgyblion ar ôl oriau ysgol. Ar ôl cael ei diswyddo y mis Awst canlynol, rhoddodd ei holl ynni i mewn i’r busnes a chymryd mwy o fyfyrwyr a llunio partneriaeth gyda dau diwtor llawrydd arall. Dwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r busnes yn gweithredu gyda rhwydwaith o wyth tiwtor ac mae’n darparu asesiadau diagnostig, tiwtora arbenigol a chefnogaeth ar gyfer mwy na 70 o blant rhwng 6 oed ac 16 oed.

 

“Roedd yn her go iawn i gychwyn o ddim heb unrhyw gefndir busnes a dim ond gwybodaeth sylfaenol ynglŷn â thechnoleg ddigidol”


Datblygodd Jo ddiddordeb personol mewn addysgu disgyblion gydag anawsterau dysgu pan dderbyniodd ei merch ddiagnosis o ddyslecsia. Mae gan ei disgyblion amrediad o anawsterau dysgu, yn cynnwys dyslecsia, dyscalcwlia (anhawster gwneud cyfrifiadau mathemateg) a dysgraffia (anabledd sy’n effeithio ar lawysgrifen, sillafu a gosod geiriau allan) ac er bod y gwaith yn gallu bod yn heriol, proses sefydlu’r busnes ei hun oedd yn peri straen i Jo.

“Roedd yn her go iawn i gychwyn o ddim heb unrhyw gefndir busnes a dim ond gwybodaeth sylfaenol ynglŷn â thechnoleg ddigidol ac roeddwn yn pryderu na fyddwn i’n cael digon o fusnes i oroesi,” eglurodd Jo. “Y peth arall a oedd yn fy mhoeni oedd diogelwch data. Yn y dechrau, roeddwn yn cadw popeth mewn cypyrddau ffeilio adref neu ar yriannau USB amgryptiedig, ond roeddwn yn gwybod fy mod angen ateb digidol, nid yn unig er mwyn sicrhau bod gwybodaeth bersonol a chyfrinachol yn cael ei storio yn ddiogel ac yn saff, ond er mwyn sicrhau bod fy musnes yn cydymffurfio â’r holl reoliadau angenrheidiol.

Nid yn unig ei bod hi angen sicrhau bod ei busnes yn cydymffurfio â rheoliadau GDPR, roedd yn rhaid i Jo hefyd gwrdd â’r canllawiau caeth a osodwyd gan PATOSS – Cymdeithas Broffesiynol Athrawon Myfyrwyr ag Anawsterau Dysgu Penodol – y daeth hi yn aelod llawn ohoni.

 

“Y rhan orau o’r gefnogaeth i mi oedd y cyngor un i un”


Ymunodd 3D Learning Solutions â rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau a chofrestru yn y lle cyntaf ar gyfer gweithdy cyfryngau cymdeithasol. Cafodd hi fudd o dderbyn adolygiad proffesiynol o’i gwefan ac roedd hefyd yn gymwys ar gyfer derbyn cyngor un i un gan ymgynghorwr digidol.

“Y peth cyntaf i ganolbwyntio arno oedd ailwampio’r wefan, gan ei gwneud yn gwbl gyfeillgar i ddyfeisiadau symudol a rhoi edrychiad llawer mwy proffesiynol i’r busnes. Roedd sicrhau bod y safle wedi cael ei hoptimeiddio ar gyfer peiriannau chwilio, gan ychwanegu nodwedd cronfa ddata e-bost a’i chysylltu â rhestriad Google My Business i gyd yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o’r busnes, gan gyflawni cynnydd o 50% mewn ymwelwyr i’r wefan a chynnydd triphlyg yn y nifer o ymholiadau gan gwsmeriaid newydd.

“Y rhan orau o’r gefnogaeth i mi oedd y cyngor un i un, oherwydd ei fod yn rhoi’r hyder i mi sefydlu system seiliedig ar gwmwl ar gyfer rheoli ein data, gyda storfa wrth gefn ar-lein a lle i storio. Nid yn unig oedd y system newydd yn fy sicrhau fy mod yn cydymffurfio â GDPR a PATOSS, ond roedd hefyd yn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol i mi a’m cleientiaid fod eu gwybodaeth bersonol i gyd wedi cael ei storio yn ddiogel, yn ogystal â bod yn llawer haws i mi gael ati.”

 

Jo Bold of 3D Learning Solutions with a book



Yn ôl Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Prifysgol Caerdydd, mae 58% o BBaChau Cymru yn awr yn defnyddio gwasanaethau cyfrifiadurol sy’n seiliedig ar gwmwl ar gyfer storio, gyda 39% yn manteisio ar dechnoleg cwmwl mwy datblygedig, ar gyfer gwasanaethau fel storfa ddata wrth gefn ddiogel.

 

“Mae’r gefnogaeth o Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi rhoi hyder i mi roi cynnig ar bethau”


Ym mis Gorffennaf, arwyddodd Jo brydles ar adeilad busnes yng nghanol dinas Casnewydd, lle y bydd y busnes sy’n tyfu yn gweithredu o fis Medi ymlaen, yn ogystal â chadw ei ganolfan bresennol a chynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n derbyn sesiynau yn eu hysgolion.

“Mae’r gefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi rhoi hyder i mi roi cynnig ar bethau,” ychwanegodd Jo. “Bydd yr adeilad newydd yn darparu’r cyfle i wneud cymaint mwy gyda’r busnes, ac rydw i’n gwybod yn awr y gallaf ddefnyddio marchnata digidol i wireddu fy syniadau.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen