40% o hwb refeniw wrth i fusnes newyddiaduraeth a chyfieithu baratoi ar gyfer Brexit

 

Mae cwmni yng Nghymru sy’n rheoli rhwydwaith o dros 70 o newyddiadurwyr a chyfieithwyr proffesiynol, sy’n arbenigo mewn ieithoedd Nordig, wedi cyflogi technoleg sy’n galluogi band-eang cyflym iawn i wneud ei fusnes yn fwy effeithlon a chynyddu refeniw dros 40%.

 

Mae Nordic International Ltd wedi gweithredu o leoliad cartref yng Ngilfach Goch, Rhondda Cynon Taf, ers 2003, ond mae mynediad i fand-eang ffibr yn ddiweddarach wedi cynyddu cyflymdra lawrlwytho rhyngrwyd yn yr ardal o 2.5Mbps i 69Mbps ac wedi esgor ar ystod o bosibiliadau newydd. Mae’r busnes erbyn hyn yn gweithredu ar draws rhwydwaith cwmwl, gan lawrlwytho a rhannu pecynnau data mawr ar-lein a defnyddio cynadleddau fideo er mwyn rhoi gwybodaeth i awduron a chyfieithwyr llawrydd am brosiectau newydd. 

 

Wedi ehangu ochr gyfieithu’r busnes

 

Symudodd y cydberchennog, Andrew Draper, yn ôl i Gymru o Ddenmarc ym 1995, lle roedd y cyn newyddiadurwr llawrydd yn gyfrannwr cyson i nifer o bapurau newydd cenedlaethol, gan gynnwys y Guardian, y Telegraph, yr Independent on Sunday a’r Financial Times. Ef hefyd oedd gohebydd Denmarc ar gyfer cwmni newyddion ariannol AFX News ac ysgrifennodd erthyglau unigol am forio a busnes o’r rhanbarth Nordig ar gyfer yr Economist Intelligence Unit a chylchgronau masnach arbenigol.

 

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd Mr Draper ehangu ochr gyfieithu’r busnes ac ail-lansio fel Nordic International Ltd (yr enw blaenorol arno oedd “Andrew Draper Nordic News, PR and Scandinavian Translations). Mae’r busnes bellach hefyd yn arbenigo mewn cyfieithu o un iaith Nordig i’r llall, ond yn rheoli ieithoedd eraill hefyd.

 

Dim ond munudau mae’n gymryd erbyn hyn i anfon ffeiliau i gyfieithwyr dramor

 

“Dw i’n cofio pan ddechreuon ni gyntaf, roedd ein bil ffônn tua £500 y chwarter, sy’n wallgof o edrych yn ôl,” meddai Mr Draper. “Er enghraifft, roedd swydd oedd yn golygu cyfweliad dros y ffôn am 30 munud gyda rheolwr cronfa yn Yr Ynys Las wedi costio mwy i ni na’r ffi dderbynion ni, ond gyda galwadau dros y rhyngrwyd, rydym bellach siŵr o fod yn talu tua £20 y mis.

 

“Roedd hi hefyd yn arfer cymryd tua hanner awr i ni lawrlwytho popeth roedd ei angen arnom i brosesu a chomisiynu gwaith cyfieithu weithiau. Mae pecynnau cyfieithu ar gyfer un cleient yn benodol fel arfer yn cynnwys tair set o ffeiliau 20MB ac rydym yn prosesu tua thri neu bedwar yr wythnos, ond mae’r holl broses o anfon y gwaith at y cyfieithwyr yn Nenmarc, Sweden a Gwlad yr Iâ bellach yn cymryd rhai munudau yn unig, sydd wir wedi trawsnewid effeithlonrwydd y busnes.”

 

Mynychodd Nordic International Weithdy Ysgogi Newid a gynhaliwyd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn fuan ar ôl newid i gysylltiad band-eang ffibr.  Ffocws cychwynnol y busnes oedd archwilio sut y gellid defnyddio technoleg i symleiddio’r ffordd y maen nhw’n rheoli llif gwaith ar draws rhwydwaith o weithwyr llawrydd sy’n ehangu. Fodd bynnag, roedd y manteision ychwanegol a amlygwyd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn rhoi hwb go iawn i’r busnes.

 

“Mae’r gwahaniaeth a wnaeth band eang cyflym iawn wedi bod yn anhygoel”

 

Gwnaeth Nordic International arbedion sylweddol o ran amser a chost drwy drosglwyddo i’r system gwmwl Office 365, gan gyflwyno SharePoint er mwyn cynnal dogfennau prosiect yn y cwmwl ar gyfer mynediad gwell, a defnyddio Skype i gynnal cyfarfodydd cyson â’r rheolwr prosiect sydd yn Nenmarc. Mae arbedion effeithlonrwydd hefyd wedi galluogi Mr Draper i fuddsoddi mwy o amser mewn cynyddu ei gronfa ddata o ryddgyfranwyr, yn ogystal â chynyddu’r ffocws ar hyrwyddo’r busnes i ddarpar gwsmeriaid newydd.

 

“Rydym bellach yn gweithredu bron yn gyfan gwbl yn y cwmwl, sy’n grêt i fusnes fel hyn sy’n gorfod anfon a derbyn ffeiliau mawr gan gleientiaid tramor, a chynnal llif parhaus o gyfathrebu gyda nifer fawr o ryddgyfranwyr bob mis,” ychwanegodd Mr Draper. “Mae’r gwahaniaeth y mae band-eang cyflym iawn wedi ei wneud yn anhygoel ac rydym bellach yn cynllunio i wneud defnydd gwell o’n gwefan drwy lanlwytho mwy o adnoddau ar-lein a gweithredu strategaeth marchnata digidol wedi ei thargedu i yrru mwy o draffig i’r safle.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen