Cwmni cynhyrchu fideos ym Mae Caerdydd yw Gingenious. Mae’n creu fideos i lawer iawn o wahanol gleientiaid, o hysbysebion teledu i gynnwys brand ar lein. Ers iddo gael band eang cyflym iawn mae wedi denu cleientiaid o’r Unol Daleithiau ac yn gweithio gyda chleientiaid ledled Ewrop.

 

Mae gallu cynnal cyfarfodydd heb i’r offer fideo gynadledda ddiffodd yn arbed arian i’r cwmni ar deithio ac yn arbed amser allan o'r swyddfa, sy'n ei wneud yn fwy effeithlon. Gyda band eang cyflym iawn mae’n gallu darparu’n brydlon yn ôl disgwyliadau cleientiaid mwy soffistigedig ac yn gallu darparu prosiectau mawr i gleientiaid mawr.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen