Mae cwmni gwaith coed o dde Cymru wedi cynyddu’i gynhyrchiant, wedi ennill contractau sylweddol ac wedi symud i safle newydd, mwy, yn y 12 mis diwethaf ar ôl rhoi strategaeth ddigidol ar waith sydd wedi chwyldroi’r ffordd y mae’n rheoli ac yn cyflenwi’i wasanaethau.

 

Cwmni’n rhagweld twf o 20% flwyddyn ar ôl blwyddyn

 

Lansiodd Hazelwood Carpentry, sy’n cyflogi 29 o staff ac yn gweithio i rai o’r contractwyr adeiladu mwyaf ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr, is-adran gwaith saer newydd hefyd yn 2018 a symudodd i safle newydd yn Ffynnon Taf, sydd â chysylltiad band eang cyflym iawn.

 

 

 

“Rydym wedi cynyddu cynhyrchiant 20% ac wedi diogelu’r busnes at y dyfodol rhag gofynion cyfnewidiol y diwydiant”

 

Aeth Hazelwood i weithdy technoleg ddigidol, wedi’i drefnu gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, a oedd wedi’i deilwrio ar gyfer busnesau yn y sector adeiladu. Ysbrydolodd y profiad y cwmni i gyflwyno meddalwedd rheoli contractau newydd sydd wedi cynyddu cynhyrchiant 20% ac wedi diogelu’r busnes at y dyfodol rhag gofynion cyfnewidiol y diwydiant.

 

“Mae’r penderfyniad i fuddsoddi mewn system feddalwedd bwrpasol wedi ein galluogi i reoli prosiectau’n fwy effeithlon drwy roi tryloywder llawn i’r tîm o ran costau ac amserlenni ar draws pob prosiect byw mewn amser real,” eglurodd rheolwr cadwyn gyflenwi Hazelwood, Sharon Smith. “Erbyn hyn mae goruchwylwyr ar y safle yn mewngofnodi o bell drwy ap ar eu ffôn ac yn monitro beth yn union sy’n cael ei wneud mewn amser real yn y swyddfa. Mae’n golygu nad oes tasgau’n cael eu dyblygu ac mae wedi symleiddio ein ffordd o weithio, sydd wedi caniatáu inni ymdopi â galwadau cynyddol prosiectau newydd sy’n dod i mewn.”

 

Disodlodd y system electronig newydd tua 15 o daenlenni gwahanol a oedd yn cael eu cwblhau gan bobl mewn gwahanol rannau o’r busnes, fel rhan o system bapur. Mae’r gallu i gofnodi popeth ar un system y mae’n hawdd mynd iddi o bell wedi caniatáu i’r cwmni gyflawni gofynion cyfnewidiol ei gleientiaid.

 

“Mae ein gwefan newydd yn ymateb yn symudol ac yn llawer haws i gwsmeriaid ei defnyddio”

 

Yn ogystal â’r gweithdy digidol, roedd modd i’r cwmni hefyd fanteisio ar gymorth ymgynghorol un-i-un drwy raglen Cyflymu Cymru i Fusnesau, ac yn sgil hynny aeth y cwmni ati i adolygu ac ailddylunio’i wefan. Mae’r safle newydd, sy’n mynd yn fyw yn gynnar yn 2019, yn adlewyrchu ffordd newydd ddigidol y cwmni o weithredu.

 

“Rydym wedi symleiddio map y wefan, wedi lleihau nifer y tudalennau ac wedi bod yn llawer mwy detholus o ran y cynnwys sy’n cael ei arddangos. Mae’r wefan newydd yn ymateb yn symudol, mae’n llawer haws i gwsmeriaid ei defnyddio ac rydym wedi ymdrechu i gyfleu’r math o brosiectau yr hoffem wneud mwy ohonynt yn y dyfodol.”

 

Mae Hazelwood Carpentry yn un o nifer cynyddol o gwmnïau o Gymru yn y sector adeiladu sy’n frwd o blaid technoleg ddigidol. Mae ffigurau o’r Digital Maturity Survey diweddaraf, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn awgrymu bod 70% o fusnesau’r sector wedi mabwysiadu technoleg seiliedig yn y cwmwl erbyn hyn er mwyn symleiddio’u prosesau. Yn y cyfamser, mae Hazelwood yn llygadu’i brosiect digidol nesaf - cyflwyno system archwilio electronig, wedi’i chynllunio i yrru effeithlonrwydd ar draws ei holl brosiectau a hyrwyddo gwelliant parhaus o ran safonau ansawdd.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen