Mae ymgynghoriaeth TG gwobrwyog yn gweddnewid perfformiad busnes ar draws y DU drwy rymuso timau TG i gofleidio arferion effeithlon a hyblyg.

Gyda llu o enwau cyfarwydd yn gleientiaid, mae DevOpsGuys yn dweud bod ei benderfyniad i fanteisio ar y cyflymder cysylltiad cyflym o’i bencadlys yng Nghaerdydd wedi bod yn rhan annatod o’i lwyddiant.  

 

2 men smiling

 

Sefydlwyd y cwmni gan y Prif Weithredwr James Smith a’r Prif Swyddog Cynllunio Stephen Thair yn 2013, ac mae ganddo 87 aelod staff ac maent yn rhagfynegi twf o 500 o gyflogeion a throsiant o £100m yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae ei hyder yn seiliedig ar ddarparu datrysiadau pwrpasol a modelau gweithredu sy’n galluogi cleientiaid i gyflenwi meddalwedd ar gyflymder nad oedd yn bosibl o’r blaen.  

“Mae hyn wedi arwain at well ymgysylltu â chwsmeriaid ac wedi datgloi ffrydiau refeniw newydd drwy gyflymu galluedd meddalwedd ar draws mentrau Gweddnewid Digidol,” meddai James Smith. “Mae’n galluogi arloesedd sy’n creu mantais gystadleuol, ac mae hynny yn rhywbeth mae ein cwsmeriaid yn ei werthfawrogi.” Mae’r cwsmeriaid yma yn cynnwys Admiral, ASOS, BAE, Tŷ’r Cwmnïau, Defra, Fitness First, Gov.uk, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Nokia Systems, Travelodge, Waitrose a’r DVLA.

 

Mae pob rhan o'r busnes yn cael ei chynnal ar y rhyngrwyd

Mae DevOpsGuys yn fusnes hollol ddigidol, sy’n darpar Seilwaith fel Gwasanaeth (IaaS), sy’n fath o gyfrifiadura cwmwl sy’n darparu adnoddau cyfrifiadura rhithwir ar y rhyngrwyd. Mae’n gweithio gyda Microsoft sy’n bartneriaid blaenllaw yn y diwydiant, a’u casgliad Azure o wasanaethau cwmwl integredig a Gwasanaethau Gwe Amazon, gan ddarparu datrysiadau ar y platfformau hyn a symleiddio mabwysiadu systemau cwmwl.

Ni fyddai’r cwmni yn gallu gweithredu heb gysylltiad rhyngrwyd cyflym - mae’n cyrraedd cyflymder lawrlwytho o tua 80Mbs a lanlwytho o 90Mbs -  a’r gallu i storio data yn y cwmwl. Mae hynny hefyd yn ganolog i’r sefydliadau y mae’n rhyngweithio gyda nhw, ac mae’r symud at gyfrifiadura cwmwl wedi arwain at arbedion cost i gwsmeriaid.

“Rydym yn gweithredu’n gyfan gwbl yn y Cwmwl - ein holl e-bostion, ein holl systemau tracio gwaith, ein holl systemau AD, ein systemau cyfrifyddu; mae popeth yn y cwmwl. Ceir mynediad iddo drwy ein porwr, felly mae ein prosesau rheoli systemau, rheoli systemau o bell ar gyfer cleientiaid, yr holl seilwaith yna yn bodoli ar y rhyngrwyd,” meddai Mr Smith.

Mae cyflogeion sy’n byw yn ardal y pencadlys yng Nghaerdydd yn gweithio’n hyblyg yn y swyddfa, yn eu cartrefi, neu mewn lleoliadau eraill. Ond mae’r rhan fwyaf yn gweithio o bell mewn lleoliadau ar draws y DU, ac mae yna dîm yn Sofia, Bwlgaria. “Mae’n ein galluogi i recriwtio’r talent gorau lle bynnag y maent, ac mae’n rhoi’r hyblygrwydd i ni allu gweithio ar draws EMEA,” meddai Mr Smith.

 

Band eang cyflym iawn a thechnoleg ddigidol yn allweddol i dwf parhaus

Er mwyn rheoli’r tîm yma o bell, defnyddir nifer o becynnau meddalwedd, ac mae’r timau yn cyfarfod neu’n cysylltu’n ddigidol bob bore i drafod beth sydd angen ei gyflawni yn y gwahanol feysydd prosiect. Unwaith y mis bydd y tîm yn cyfarfod yn y swyddfa yng Nghaerdydd er mwyn sicrhau yr adeiledir ar y berthynas waith gref, er mwyn dathlu llwyddiant y mis blaenorol a chynllunio ar gyfer y mis sydd i ddod.

Mae’r cwmni yn defnyddio Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoiP), Skype a’r offeryn cydweithredu tîm Slack, ac mae hefyd yn marchnata ar-lein drwy gyfryngau cymdeithasol a’i flog gwefan. Mae’n dweud bod Band Eang Cyflym a thechnoleg ddigidol yn rhan annatod o dwf parhaus y cwmni a’r gallu i aros ar flaen y gad ym maes arloesedd a datrysiadau meddalwedd.

Er mwyn gwneud hynny, mae DevOpsGuys yn cynnal ymchwil blaenllaw yn y diwydiant gyda Phrifysgolion Cymru er mwyn datblygu prosiectau a chynhyrchion newydd. Mae’n buddsoddi tua 20% o’i amser a’i arian mewn ymchwil a datblygu (R&D), fel  y gall barhau i fod yn arloesol wrth greu datrysiadau i’w gwsmeriaid.

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael ein hystyried fel arweinwyr meddwl byd-eang yn y gofod DevOps.” meddai James Smith. “Mae’n rhaid i mi ddweud ein bod wedi cael llawer iawn o gymorth ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru, a bod hynny wedi bod yn amhrisiadwy o ran ein helpu i dyfu a symud i’r cyfeiriad cywir.”


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen