Gydag awydd i wella ei les a brwdfrydedd i fod yn entrepreneur cymdeithasol, aeth Franck Banza ati i wneud Super Bio Boost yn llwyddiant. 

Ac mae’n sicr wedi mwynhau dechrau iach i fywyd fel dyn busnes gyda Hoffi Powder, gan dderbyn 100 y cant o adolygiadau pum seren ar Amazon, ac ail gynnyrch ar y gweill. 

Give your life a boost with natural, healthy and organic wellness products gan Super Bio Boost

 

Mae’r powdwr, a ddisgrifir fel bwyd daionus llesol sy’n seiliedig ar blanhigion a dynnwyd o feddyginiaethau Affricanaidd hynafol i roi hwb i'ch system imiwnedd, yn gwbl organig ac yn addas ar gyfer feganiaid. 

Mae'n gynnyrch sydd wedi cymryd amser maith i'w wneud wrth i Franck wylio iechyd ei dad yn gwella ar ôl cael ei lywio tuag at warged o feddyginiaethau naturiol a dyfwyd yn lleol. 

Esboniodd Franck: "Yn 2015 fe wnes i deithio i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo i ymweld â fy nhad, a oedd yn sâl iawn. 

"Ar ôl cael ei gyflwyno i'r meddyginiaethau naturiol, ymatebodd fy nhad yn ffafriol i'r opsiynau triniaeth, a wnaeth i mi eisiau archwilio'r llwybr hwn."  

Cryfhawyd ei gred yn y meddyginiaethau naturiol pan aeth ef ei hun yn sâl hefyd. 

Ychwanegodd: "Cefais ddiagnosis o broblemau'r iau ychydig flynyddoedd yn ôl, ond ar ôl newid fy arferion bwyta a chyflwyno'r cynhwysion sy'n cael eu cynnwys yn ein cynnyrch i'm deiet, lleihaodd y cymhlethdodau, ac mae fy iechyd cyffredinol wedi gwella." 

Tra oedd Franck yn gweithio ar weithgynhyrchu'r cynnyrch gyda Phrifysgol Abertawe a Chanolfan Bwyd Cymru, roedd hefyd yn awyddus i gael help Cyflymu Cymru i Fusnesau i gynyddu’r potensial busnes i'r eithaf. 

Give your life a boost with natural, healthy and organic wellness products gan Super Bio Boost

 

Fe wnaeth cyfarfod un-i-un gyda'r cynghorydd Catrin Williams, a luniodd adroddiad manwl, roi cyfarwyddyd i Franck o ran gwella ei wefan bresennol a chyweirio ei farchnata digidol. 

Un syniad o'r fath oedd cynnal cystadleuaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn cynnwys cofrestru a rhannu'r neges, tra bod un arall yn canolbwyntio ar goladu manylion y rheiny a oedd yn ymweld â'r wefan a chofrestru diddordeb yn y cynnyrch. 

Dywedodd Franck:

"Roedd y cyfarfod gyda Catrin yn help mawr i ganolbwyntio fy meddwl ar sut i gynyddu'r diddordeb yn y cynnyrch. Rwy'n teimlo, fel entrepreneur, bod cael rhywun i uniaethu â nhw am yr heriau sy’n gysylltiedig â sefydlu brand yn hollbwysig.  

"Roedd y syniad o lunio rhestr o bobl a oedd o leiaf yn chwilfrydig am Hoffi Powder yn wych, a nawr bod gen i'r wybodaeth honno, gallaf deilwra fy marchnata drwy e-bost. 

"Mae gennym ni tua 100 o bobl ar ein rhestr bostio nawr ac rydyn ni'n gallu defnyddio'r wybodaeth honno wrth symud ymlaen i sicrhau bod y cynnyrch yn cael effaith mor fawr â phosib." 

Edrychodd adroddiad Catrin ar wefan Super Bio Boost hefyd, gan ganolbwyntio ar wella cyflymder ac effeithlonrwydd yn ogystal â rhoi hwb i optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) i'w gwneud yn fwy gweladwy ar Google, er enghraifft. 

Aeth Franck ymlaen i ddweud: "Roedd canfyddiadau Catrin yn awgrymu y gellid – ac y dylid – gwella cyflymder y wefan, felly gwnaethom hynny drwy symleiddio tudalennau penodol a rhoi trefn ar feintiau'r ffeiliau lluniau. 

"Roedd angen gwneud rhywfaint o waith hefyd ar ochr SEO pethau, ac mae hyn wedi cael ei wella drwy gynyddu amlder negeseuon blog ar y safle. 

"Pan wnes i lansio'r wefan, roedd gen i bum blog i'w lanlwytho ar unwaith, ond daeth yn amlwg i mi ar ôl siarad gyda Catrin bod angen iddo fod yn beth rheolaidd. 

"Mae gen i darged mewn golwg nawr i geisio postio cynnwys newydd o leiaf unwaith y mis, oherwydd bod hyn nid yn unig yn gwella SEO ond hefyd yn helpu i feithrin ymddiriedaeth yn y brand. 

"Y peth positif yw, pan fydd neges flog yn cael ei lanlwytho, gellir ei hanfon at fy rhestr bostio, fel bod mwy o bobl yn gallu ei gweld. 

"Mae gen i gynllun i ddechrau podlediad hefyd, a fydd yn cynyddu hyder yn y brand wrth i ni dyfu." 

Mae Franck yn bwriadu pwyso ar Catrin a Cyflymu Cymru i Fusnesau yn y dyfodol wrth iddo geisio lledaenu'r gair am Super Bio Boost. 

Dywedodd: "Mae hi wedi bod yn wych ac wedi fy ngwthio i ymchwilio i roi cynnig ar wahanol bethau. 

"Un agwedd o'r fath fydd y ffordd fwyaf effeithiol o hysbysebu'r brand. Rydw i wedi rhoi cynnig ar Amazon a Google Ads, ond mae cymaint yn fwy i'w archwilio. 

"Rydw i wedi bod yn ystyried defnyddio Facebook Ads, neu a fyddai cynyddu fy ymgysylltiad â'r cyfryngau cymdeithasol drwy Instagram yn cael mwy o effaith. 

"Rydw i hefyd wedi edrych ar TikTok gan fod pob busnes yn wahanol ac mae'n bwysig dod o hyd i'r gynulleidfa darged." 

Llun o Hoffi powder gan Super Bio Boost

 

Er bod Franck eisiau gwella iechyd a lles pawb sy'n prynu Hoffi Powder, mae wedi ymrwymo i roi 50 y cant o’i elw i achos elusennol, sef y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (CAE), a sefydlwyd ganddo ac y mae'n brif swyddog gweithredol arni. 

Eglurodd: "Nod y CAE yw ysbrydoli a chefnogi cymunedau ethnig amrywiol i lwyddo drwy fenter. 

"Mae ein cynhyrchion yn dod o ffynonellau moesegol, wedi'u tyfu’n fyd-eang a'u creu'n lleol, gan gynhyrchu swyddi a chyfoeth mewn cymunedau tlawd. 

"Rydym yn gweithio'n uniongyrchol gyda chymunedau yn Uganda a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo i rymuso tyddynwyr a ffermwyr i gael mynediad at lwybr tryloyw i'r farchnad sy'n cynnig prisiau uwch am eu nwyddau." 


Gweld rhagor o hanesion llwyddiant busnes


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen