Mae perchennog siop anrhegion boblogaidd yng nghalon cymoedd de Cymru wedi trawsnewid ei busnes, ar ôl gwneud y penderfyniad i fuddsoddi mewn system rheoli stoc electronig (EPoS), a alluogir gan gyswllt rhyngrwyd band eang.

 

Mae Alison Chapman, sy’n cynnal Wonder Stuff yn Nhreorci, wedi gweld ei henillion yn cynyddu mwy na thraean ers iddi fewnosod y system, sydd hefyd wedi caniatáu iddi dreulio mwy o amser yn gwneud mentrau eraill sydd wedi ei helpu i gynyddu’r busnes.

 

Picture of a living room

 

“Am y 12 mlynedd gyntaf yn y siop, system til â llaw yn unig yr oeddem yn ei defnyddio, gan ysgrifennu’r gwerthiannau i gyd ar bapur a rheoli’r stoc â llaw,” eglurodd Ms Chapman. “Roeddwn yn gosod archebion am stoc newydd drwy ddilyn fy ngreddf, ac roedd hyn yn llwyddiant y rhan fwyaf o’r amser ond nid oedd wir yn fy nghaniatáu i ddadansoddi tueddiadau neu olrhain y mathau o bethau oedd fwyaf poblogaidd, ac yn aml roedd gen i gynnyrch dros ben nad oedden ni’n gallu eu gwerthu.”

 

Mae Ms Chapman yn cofio treialu nifer o wahanol systemau EPoS, cyn gwneud penderfyniad i ymrwymo i gynnyrch o Epos Now, a oedd yn un o’r buddsoddiadau unigol mwyaf yr oedd wedi eu gwneud ers dechrau’r busnes. Mae’r effaith wedi bod yn drawsnewidiol, gan ganiatáu i’r busnes wneud 20% o ostyngiad o ran amser rheoli stoc a lleihau’r swm cyffredinol o stoc sydd ar y safle tua chwarter. Drwy ddadansoddi tueddiadau mewn gwerthiannau gwahanol gynnyrch, mae Wonder Stuff hefyd wedi amrywio’r cynnyrch y mae’n ei werthu - gan gynyddu rhai mathau o emwaith a chardiau cyfarch wedi eu personoli, a lleihau’r eitemau oedd yn anoddach eu gwerthu.

 

“Am ein bod erbyn hyn yn gallu dweud yn union pa stoc sydd ei angen, rydym yn prynu’n fwy cyson ond mewn llai o niferoedd, gyda’r system yn rhoi gwybod i ni pan fydd angen i ni archebu mwy o’n heitemau poblogaidd,” ychwanegodd Ms Chapman. “Mae’r system wedi caniatáu i ni hefyd wneud defnydd o ddatrysiadau technolegol eraill, fel ap gwerthu symudol Amazon. Treialon ni’r ap fel ffordd o symud stoc nad oedd wedi ei werthu, gan sganio detholiad o eitemau a gwneud ein harchebion ein hunain. Yn fwy diweddar, mae’r ap wedi dod yn rhan fwy canolig o’n strategaeth gwerthu ac rydym yn gwneud archebion ychwanegol am nwyddau sy’n gwerthu’n arbennig o dda ar-lein ac yn defnyddio Amazon i’w cyflenwi. Mae’r ap bellach yn gyfrifol am tua 3% o’r holl werthiant ac mae hwnnw’n cynyddu.”

Mae ychydig o’r ysbrydoliaeth ar gyfer y buddsoddiad mewn technoleg wedi dod o gymorth a chyngor a ddarparwyd trwy gynllun Cyflymu Cymru i Fusnesau Llywodraeth Cymru, ac mae Ms Chapman wedi mynychu Gweithdy Ysgogi Newid, yn ogystal â chael mynediad i gyngor un i un gan ymgynghorydd busnes arbenigol. Er bod cwsmeriaid nodweddiadol Wonder Stuff yn dal i syrthio o fewn y categori oed hŷn, mae’r busnes wedi elwa o ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio llwyfannau fel Instagram, Facebook a Twitter i ddenu traffig i’r wefan, pobl i’r siop a chynnal digwyddiadau a chystadlaethau hyrwyddo arbennig sydd wedi profi’n effeithiol.

 

“Bob blwyddyn, rwy’n hoffi cyflwyno o leiaf un fenter a fydd o les i’r busnes ac, yn gynyddol, mae’r syniadau’n fwy tebygol o gael eu gyrru gan dechnoleg,” meddai Ms Chapman. “Saith mlynedd yn ôl, fe benderfynon ni ail-ddefnyddio rhan o’r siop i agor caffi bach, fel ffordd o ddenu mwy o bobl i’r siop. Eleni fe ddiweddaron ni ein system EPoS er mwyn cynnwys swyddogaeth Rheoli Perthnasoedd â Chwsmeriaid, sy’n ein caniatáu i gyfathrebu’n well gyda’n cwsmeriaid ffyddlon, gan anfon cynigion arbennig allan, fel gostyngiadau arbennig ar benblwyddi ac ar adegau arbennig fel y Nadolig a’r Pasg.

 

“Mae cefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi rhoi hyder i mi drio pethau newydd a gwneud y gorau o’r cyfleoedd a ddarperir gan y rhyngrwyd a thechnoleg newydd. Dw i hefyd wedi dod o hyd i ffordd o gyflwyno syniadau newydd sy’n gweithio ar gyfer fy musnes - nid yw defnyddio technoleg ynddo’i hun yn bwysig ond, os yw’n gwneud fy mywyd i’n haws ac yn fy helpu i ddarparu gwasanaeth gwell i fy nghwsmeriaid, yna dw i o’i blaid yn fawr.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen