Mae Celtest yn fusnes blaenllaw yn y DU sy’n darparu gwasanaethau sy’n achrededig ag UKAS ar gyfer profi cydymffurfiaeth deunyddiau a ddefnyddir mewn prosiectau mawr adeiladu a pheirianneg. Mae’r cwmni yn gweithredu rhaglen barhaus o fuddsoddiad digidol er mwyn iddo allu gwella pa mor gystadleuol ydyw.  

 

Mewn blwyddyn, mae’r cwmni wedi gwneud arbedion sylweddol o ran costau telegyfathrebu drwy ddefnyddio system ffonau VoIP, wedi gwella effeithlonrwydd yn wythnosol drwy wneud arbedion gan ddefnyddio system adrodd electronig yn uniongyrchol o safleoedd profi, ac mae’n cael mwy o ymholiadau busnes drwy ei wefan ers ei diweddaru. Mae’r cwmni hefyd wedi gwella llawer ar ei seiberddiogelwch, ac mae’n cydymffurfio â GDPR.

A Celtest employee in a workshop.

“Mae’n anodd cofio sut roedden ni’n ymdopi cyn i ni benderfynu newid i’r systemau digidol”

“Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn drawsnewidiol i’r busnes. Mae’n anodd cofio sut roedden ni’n ymdopi cyn i ni benderfynu newid i’r systemau digidol,” meddai Iwan Morgan, rheolwr datblygu busnes Celtest. “Mae’r newid wedi golygu bod patrwm gweithio sawl aelod o staff wedi newid hefyd. Fe gymrodd hynny dipyn o amser i ddod i arfer â hynny, ond nawr mae pawb yn cefnogi’r newid erbyn hyn, ac mae’r busnes yn elwa o ganlyniad i hynny.”

 

Mae Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU), Ysgol Fusnes Caerdydd, wedi cyhoeddi Arolwg Aeddfedrwydd Digidol ar gyfer Cymru 2018. Nodwyd yn yr arolwg bod 72% o BBaChau yng Nghymru bellach yn defnyddio o leiaf un math o dechnoleg ddigidol er mwyn eu helpu i reoli amrywiaeth o dasgau busnes, gan gynnwys VoIP i leihau costau telegyfathrebu, neu feddalwedd ar y cwmwl i arbed amser ac i wella cydweithio rhwng timau

Mae’r arbedion amser wedi bod yn drawsnewidiol i’r busnes

Mae Celtest yn enghraifft wych o sut gall technoleg ddigidol fod yn fuddiol ar gyfer busnes.
Mae'r cwmni yn cynhyrchu adroddiadau ar gyfer cwmnïau adeiladu, peirianwyr sifil, cwmnïau chwarel a chwmnïau agregu i sicrhau bod deunyddiau fel pridd, concrid, asffalt ac agregu yn bodloni’r safonau gofynnol. Ar ddechrau’r flwyddyn y llynedd, penderfynodd cyfarwyddwyr y cwmni roi’r gorau i ddefnyddio system bapur o fewnbynnu data a chreu a rheoli adroddiadau, a dechrau defnyddio system ddigidol.

 

“Un o’r pethau pwysicaf yn ein diwydiant ni yw’r gallu i gyflwyno adroddiadau yn sydyn ac yn gywir, ac mae rhan helaeth o hynny’n dibynnu ar effeithlonrwydd y systemau rydych yn eu defnyddio”, meddai Mr Morgan.

 

Mae Celtest yn cynhyrchu miloedd o adroddiadau bob blwyddyn, gan gynnwys cyfuniad o gannoedd o wahanol fathau o brofion, yn dibynnu ar anghenion penodol y cleient. Mae'r amser mae’r cwmni wedi ei arbed ers iddo ddechrau defnyddio’r system newydd wedi bod yn drawsnewidiol ar gyfer y busnes, ac mae wedi galluogi iddo wella pa mor gystadleuol ydyw.

 

A Celtest employee working.

 

“Mae’r buddsoddiad rydym wedi ei wneud mewn technoleg ddigidol wedi talu am ei hun yn barod”

Dan yr hen drefn, gallai technegwyr Celtest dreulio tri neu bedwar diwrnod ar un safle heb i ddata’r profion gael ei gyflwyno i'r swyddfa, a heb i adroddiadau gael eu creu ar gyfer y cleient. Yn dibynnu ar y prosiect, mae’r broses adrodd bellach yn cymryd llai na 24 awr, ac mae rhai’n cael eu cwblhau’n syth bron. Mae’r cwmni wedi gwneud arbedion costau eraill hefyd, ym meysydd fel creu anfonebau. Mae’r system awtomatig newydd yn arbed tua dwy awr iddo mewn wythnos, ac mae system ffonau VoIP newydd y cwmni wedi gwella ansawdd ac effeithlonrwydd galwadau, yn ogystal â bod o fudd ariannol.

 

Gyda phrosesau effeithlon newydd a mwy o amser rhydd i gwblhau contractau, mae Celtest wedi canolbwyntio ar ddenu mwy o waith drwy ddefnyddio strategaeth farchnata ddigidol. Roedd y cwmni’n sylweddoli bod angen iddo ailwampio’r ffordd roedd yn marchnata ar-lein, ac y byddai angen iddo gomisiynu gwefan newydd fel rhan o hwb fawr i ehangu ei bresenoldeb a’i amlygrwydd ar-lein. Cysylltodd y cwmni â Cyflymu Cymru i Fusnesau Llywodraeth Cymru er mwyn cael cymorth gyda'i wefan. O ganlyniad, mynychodd y cwmni weithdy ar sut i optimeiddio peiriannau chwilio, a derbyniodd gyngor un i un gan gynghorydd busnes digidol, gan arwain at 'gynllun gweithredu digidol' a oedd wedi'i deilwra i’r cwmni.

 

 

A Celtest employee working.

“Mae cefnogaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn ffactor allweddol”

Mae ffigurau o'r Arolwg Aeddfedrwydd Digidol ar gyfer Cymru 2018 yn awgrymu bod gan 9 ym mhob 10 o’r BBaChau wefan, a bod 75% ohonynt hefyd yn defnyddio llwyfannau cymdeithasol i ymgysylltu â darpar gwsmeriaid. Lansiodd Celtest ei wefan newydd ym mis Ionawr 2019, ac mae wedi gweld cynnydd yn y bobl sy’n chwilio am y wefan ar Google yn barod. Mae eu blog rheolaidd ynghyd â mwy o gynnwys cyfryngau cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd hwn. Mae traffig ar y wefan wedi cynyddu, ac mae dyluniad gwell y wefan wedi arwain at fwy o ymholiadau busnes. 

 

“Mae’r buddsoddiad rydym wedi ei wneud mewn technoleg ddigidol wedi talu am ei hun yn barod, ac rydym yn dechrau gweld budd yr amser y treuliom yn ailddatblygu’r wefan. Mae'r gefnogaeth rydym wedi ei gael gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn allweddol, a byddem yn argymell i fusnesau eraill sy’n ystyried platfformau digidol newydd i gofrestru ar gyfer y cynllun.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen