Dysgwch sut wnaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau helpu Clwb Ifor Bach i fynd i’r afael ag Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) i dargedu twf o 20% a chyflawni trosiant gwerth £1.2 filiwn.

 

 

Steffan Dafydd

 

Wnaeth Clwb Ifor Bach ddechrau ym 1983 fel clwb i siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd. Gwnaeth hi wedyn ddatblygu i fod yn live music venue a thrwy gydol wedyn y 90au, a rydyn ni nawr yn croesawu cerddoriaeth o bob math o bobman ac rydyn ni’n croesawu pawb.

 

Elan Evans

 

Mae marchnata digidol yn really bwysig i ni er mwyn marchnata’r bandiau a’r artistiaid sy’n dod trwy’n drysau ni. Mae marchnata digidol wedi really ein helpu ni er mwyn cael ein henw ni allan yna, ti’n gwybod, y tu allan i Gymru a bod pobl yn cymryd ni’n serious fel hyrwyddwyr ac fel brand ein hun.

 

Steffan Dafydd

 

Wnes i gysylltu â Cyflymu Cymru i Fusnesau achos wnes i weld bod ganddyn nhw weithdy ar SEO, sef Search Engine Optimisation.

 

Roedden nhw just yn mynd trwy’r pethau gorau i’w wneud a beth i ddim eu gwneud, ac wedyn ar ôl honno cawsom one to one session i wneud â SEO a wnaeth hi really helpu ni i allu cael atebion ar gyfer cwestiynau really specific ar gyfer ein busnes ni. Roedd hi’n lot fawr o help a lot o gymorth i ni.

 

Elan Evans

 

Mae’r content rydyn ni’n ei greu, mae e’n dda, mae e’n onest ac mae e o’r safon uchaf ac felly mae pobl wedyn yn dueddol o rannu hynny gyda’u ffrindiau nhw a chyda’u teuluoedd nhw, a wedyn mae ein gair ni wedyn yn lledaenu wedyn mewn ffordd organig, a fi ddim yn meddwl buasech chi’n gallu gwneud hynny heb farchnata digidol.

 

Steffan Dafydd

 

Rydyn ni’n defnyddio’r apps TweetDeck a ScheduGram i greu schedule ar gyfer tweets a phethau ar Instagram a wneith e wneud e’n automatically. Mae’n safio cymaint o amser.

 

Elan Evans

 

Does dim lot o gost gyda marchnata digidol ac felly mae hynny’n grêt i independent venue fel ni.

 

Steffan Dafydd

 

Mae’r cymorth a gafon ni wedi bod yn wych ac mae hynny wedyn wedi ein helpu ni i allu marchnata pethau lot yn haws ac wedi agor ein meddyliau ni i bethau newydd.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen