Mae cyfuniad o enillydd medalau aur Olympaidd ac ailwampio strategaeth y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan wedi helpu clwb taekwondo i ddenu 8 gwaith yn fwy o archebion.

 

Mae archebion Taekwon-Do Wales wedi cynyddu o 8 i 65 y mis, ac mae’r cwmni hefyd wedi gweld 75 y cant yn fwy o ymwelwyr â’r wefan, tra bo ymholiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol wedi codi o 0 i rhwng 6 a 10 y mis.

 

Sports hall

 

Ymweliad gan y Bencampwraig Olympaidd Jade Jones

 

Ac mae Peter Marrast-Kent, a sefydlodd y clwb crefftau ymladd yn 2001, yn falch ei fod wedi gofyn am gyngor ynglŷn â’i weithgarwch ar-lein cyn ymweliad Jade Jones MBE, sydd wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd.

 

Dywedodd: “Roeddwn yn gwybod y byddai ymweliad Jade ym mis Medi yn ennyn llawer iawn o ddiddordeb yn y clwb ac roeddwn yn benderfynol o fanteisio ar hynny. Cefais gyfle i fynd i weithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau, a chael adroddiad diagnostig ac adolygiad o’r wefan, ynghyd â sesiwn un ag un gyda chynghorydd. Dadansoddeg oedd un o’r pynciau trafod, ac mae hynny wedi gweddnewid pethau.

 

Mae archebion ar y we wedi cynyddu

 

“Doedd y wefan ddim yn gwneud yn dda ond gan fy mod bellach yn gwybod sut i ddehongli’r ddadansoddeg, gallaf wneud newidiadau i wella’r canlyniadau. Er enghraifft, fe wnes i rai newidiadau i gyfeirio pobl o amgylch y wefan i weld mwy am y clwb, y dosbarthiadau, a sut i gysylltu â ni. Mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol, ac mae 40 y cant o’n harchebion nawr yn dod drwy’r wefan.

 

“Mae’r un peth yn wir am y cyfryngau cymdeithasol. Rwy’n edrych ar y ddadansoddeg i weld pa gynnwys sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio. Yn ogystal, rwy’n sicrhau bod mwy o gyswllt rhwng y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan er mwyn cyfeirio traffig i’r safle i gael gwybod mwy amdanom.

 

“Rwy’n canolbwyntio mwy hefyd ar gynulleidfaoedd a theilwra’r cynnwys. Mae’r rhan fwyaf o’n dechreuwyr rhwng pedair a naw mlwydd oed, sy’n golygu y gallaf greu hysbysiadau ar gyfer y rhieni. Rwy’n gweithio hefyd gyda 13 o ysgolion cynradd ledled de Cymru felly mae Twitter yn ffordd bwysig iawn o gysylltu â’r ysgolion hynny ac ag ysgolion a allai fod â diddordeb.

 

“Mae 50 y cant o draffig y wefan yn ymwelwyr newydd”

 

“Roedd y cymorth yn amrywiol iawn ac mae wedi fy helpu i ddeall mwy am optimeiddio peiriannau chwilio. Rydw i wedi gwneud llawer o fân newidiadau nad oeddwn hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn gwneud gwahaniaeth gan gynnwys ailenwi delweddau a meta deitlau. Rwy’n gwybod ei fod yn gweithio oherwydd mae 50 y cant o draffig y wefan yn ymwelwyr newydd.”

 

Mae Taekwon-Do Wales, sy’n cynnal dosbarthiadau yng Ngwent ac ym Morgannwg, wedi tyfu o 200 o fyfyrwyr yn 2012 i 600. Mae Peter, sydd â gwregys du lefel chwech ac sydd ag ond pedair blynedd i fynd cyn dod yn feistr, yn edrych o hyd ar sut y gall dulliau digidol wneud yr Ysgol Taekwondo yn fwy effeithlon ac mae cynlluniau ar y gweill i ehangu ymhellach.

 

“Fe hoffwn gynyddu nifer y disgyblion i 1,000, ond rwy’n awyddus i gadw cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith,” meddai.

 

Mae technoleg ar-lein wedi ennyn diddordeb

 

“Drwy ddefnyddio technoleg ar-lein gallaf siarad yn rheolaidd â chydweithwyr yn Ne Corea ac rydym yn defnyddio gwasanaeth negeseuon Facebook i gyfathrebu. Mae’n well nag ebost am ei fod yn digwydd yn y fan a’r lle a gallwn gael sgwrs mewn amser go iawn. Hefyd, rwy’n defnyddio technoleg fel oriorau clyfar. Mae hyn yn golygu y gallaf fod allan yn dysgu dosbarthiadau ac os bydd myfyriwr yn cysylltu â mi fydda i ddim yn colli dim.

 

“Rwy’n bwriadu cyflwyno adran i aelodau ar y wefan hefyd. Bydd hynny’n golygu bod llai o ymholiadau o ddydd i ddydd oherwydd bydd pobl yn gallu gweld eu gwybodaeth i gyd drwy fewngofnodi.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen