Wedi cychwyn mewn sied gydag ychydig iawn o arian i’w wario ar farchnata, mae Crafty Devil Brewing wedi manteisio ar y cyfryngau cymdeithasol i dyfu busnes gwerth miliynau yng Nghaerdydd.

 

Dysgwch sut mae’r tîm yn defnyddio systemau ar y cwmwl, y cyfryngau cymdeithasol, marchnata e-bost a chymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau i ehangu’r brand Cymreig arbennig.

 

 

 

Fe sefydlwyd Crafty Devil Brewing i ddechrau mewn sied fel busnes bach iawn. Nawr mae’r busnes yn gwneud dwy fil a hanner i dair mil o litrau yr wythnos a bron yn rhy fawr i’w eiddo presennol. Felly mae’n chwilio am Fragdy newydd er mwyn gallu dal ati i dyfu.

 

Mae cael lleoliadau i farchnata a gwerthu eu cynnyrch eu hunain yn bwysig i fragwyr bychain ac mae gan Crafty Devil Brewing ddau leoliad o’r fath, gyda’r diweddaraf yng nghanol dinas Caerdydd.

 

O’r dechrau un, mae technoleg wedi bod yn bwysig iawn i Crafty Devil, yn enwedig o ran derbyn taliadau cerdyn gan gwsmeriaid. Erbyn hyn mae’r busnes yn gweithredu ar sail 70 y cant cerdyn a 30 y cant arian parod - ac mae’r cydsylfaenydd, Rhys, yn meddwl mai dyma sut fydd y duedd yn parhau.

 

Roedd dechrau mewn sied yn golygu nad oedd y busnes angen systemau TG, felly roedd llawer o’r busnes yn seiliedig ar systemau papur a thaenlenni Excel. Ond wrth i’r busnes dyfu’n gyflym, daeth hynny’n anghynaliadwy.

 

Ryw 3 blynedd yn ôl, fe drodd Crafty Devil Brewing at y cwmwl. Mae rheoli eu hanfonebau drwy’r cwmwl wedi bod o help mawr iddynt reoli eu llif arian.

 

Er bod ganddynt gynlluniau i weithio ar y wefan a gwerthiant ar-lein, mae cyfryngau cymdeithasol wastad wedi bod yn adnodd allweddol i Crafty Devil. Roedden nhw wedi dechrau trydar cyn dechrau bragu’r cwrw hyd yn oed!

 

Cafodd Crafty Devil Brewing gefnogaeth am ddim gan Cyflymu Cymru i Fusnesau i roi hwb i’w bresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol ac mae Rhys yn argymell y gwasanaeth i fusnesau Cymru sydd eisiau datblygu eu busnes ar-lein.

 

Mae’r tîm yn rhy fach i fod â rheolwr cyfryngau cymdeithasol penodol, ond mae adnodd defnyddiol o’r enw Later yn helpu’r busnes i barhau’n weithredol ar gyfryngau cymdeithasol a chreu rhestr o negeseuon i’w rhannu’n gysylltiedig â digwyddiadau allweddol.

 

Yn y cylchoedd cwrw a seidr, ceir llwyfan cyfryngau cymdeithasol arbenigol o’r enw Untappd sy’n galluogi cwsmeriaid a phobl sy’n hoff o gwrw i gofnodi a barnu’r cwrw maent yn ei yfed. Mae hyn yn helpu Crafty Devil Brewing i ddangos ei amrywiaeth o gwrw i’w gwsmeriaid a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am beth sy’n digwydd yn y farchnad, fel bragwyr newydd a mathau poblogaidd o gwrw.

 

Mae Crafty Devil yn defnyddio marchnata ar e-bost i gyrraedd ei gwsmeriaid masnach, i roi gwybod iddynt beth sydd mewn stoc yr wythnos honno neu beth sy’n dod yn fuan. Mae gweld pwy sydd wedi darllen yr e-bost yn grêt oherwydd mae’r tîm yn gallu cysylltu wedyn â rhywun sydd â diddordeb.

 

Cyllideb farchnata fach fu gan Crafty Devil Brewing erioed felly mae wedi adeiladu ei frand ar gyfryngau cymdeithasol - a dyna’n union o ble mae’r twf wedi dod. Heb gyfryngau cymdeithasol, nid yw Rhys yn meddwl y byddai’r busnes wedi gallu tyfu fel mae wedi gwneud heddiw.

 

Y flwyddyn nesaf, mae’r busnes yn disgwyl trosiant sydd rhwng pedwar cant chwe deg o filoedd a phum can mil o bunnoedd, a gyda’i gynlluniau i ehangu, mae’n disgwyl bod â busnes gwerth un pwynt tri miliwn o fewn 5 mlynedd yn y ddinas.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen