Mae busnes dylunio graffig o Gymru sy’n arbenigo mewn cardiau Cymraeg ac anghenion priodas dwyieithog yn dathlu cynnydd yn eu gwerthiant ac wedi derbyn archebion o dramor ar ôl bwrw ati i ddigiteiddio’r busnes.
Gwelodd Dylunio Draenog, o Lanharan, ger Pen-y-bont ar Ogwr gynnydd o 35% yn eu gwerthiant, a 40% yn eu hymweliadau gwefan, ers i’r busnes gynnal ymgyrch farchnata digidol.
Aeth sefydlydd y cwmni, Anwen Roberts, i ddosbarth meistr di-dâl ar farchnata drwy e-byst a chyfryngau cymdeithasol a drefnwyd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau. Yna derbyniodd gyngor un-i-un gan ymgynghorydd busnes digidol.
Wedi iddi ddysgu sut i drefnu ymgyrch farchnata ddigidol lwyddiannus, roedd Anwen yn llawn canmoliaeth i wasanaeth cefnogi busnes Llywodraeth Cymru.
Meddai: “Gadewais fy swydd i redeg Dylunio Draenog yn llawn amser a gwyddwn fod raid imi gael fy ymgyrch farchnata yn iawn mewn diwydiant mor gystadleuol.
“Mae Dylunio Draenog yn cynnig gwasanaeth unigryw. Nid yw’r rhan fwyaf o gardiau cyfarch ac anghenion priodas yn cael eu llunio’n ddwyieithog ac roedd presenoldeb ar-lein yn hanfodol i dwf y busnes.
“Roedd fy sesiynau gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau yn gymorth gwerthfawr, gan roi imi’r hyder i barhau i adeiladu’r busnes.”
Yn sgil y cynnydd yng ngwerthiant y cwmni mae Draenog yn gyrru ei gynnyrch i bob cwr o Gymru, a thramor, yn cynnwys Efrog Newydd.