Twf yn sgîl arbedion effeithlonrwydd o 300% mewn prosesau allweddol

 

Mae busnes ymgynghori o ganolbarth Cymru, sy'n defnyddio technoleg lloeren i hysbysu cwmnïau byd-eang ar benderfyniadau ynglŷn â lleoli prosiectau seilwaith mawr, wedi cael mwy o gleientiaid, wedi buddsoddi mewn meddalwedd newydd ac yn paratoi i gynyddu'r gweithlu, ar ôl gosod ffibr uniongyrchol band eang.

 

Dechreuodd Crona Hodges Geo Smart Decisions yn 2011 o'i chartref yn Abergynolwyn, pentref bach yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Gwta chwe blynedd wedi hynny ac mae'r cwmni'n defnyddio'r dechnoleg Arsylwi Daear ddiweddaraf i ddadansoddi data daearyddol a chyflwyno gwasanaethau i gleientiaid yn lleol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â chwmnïau ar draws y byd.

 

Picture of woman in yellow jumper

 

Mae technoleg ar-lein yn allweddol

 

Mae Geo Smart Decisions yn dibynnu ar dechnolegau sydd wedi eu gosod ar y rhyngrwyd i ddarparu gwasanaethau mapio, rheoli data a dadansoddi arbenigol i gwmnïau ymgynghori amgylcheddol, datblygwyr, cwmnïau olew a nwy a chynllunwyr morol. Mae'n gweithio gydag arbenigwyr mewn meysydd fel llygredd sŵn, ecoleg, tirlun ac ansawdd aer, i gwblhau astudiaethau ymchwiliol pwysig sy'n galluogi prosiectau seilwaith mawr i ddwyn ffrwyth. Mae gwybodaeth a mewnwelediad gan Geo Smart Decisions wedi helpu cleientiaid i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch lleoli a dylunio technegol ystod eang o osodiadau. Mae hyn yn cynnwys pibellau nwy, ffermydd solar ac amlosgfeydd, yn ogystal â diogelu cynefinoedd naturiol pwysig ac asesiadau effaith amgylchedd ehangach.

 

Lle gwaith cydweithrediadol

 

Wrth i'r busnes dyfu, penderfynodd Hodges symud i swyddfeydd allanol, ac yn ddiweddar daeth yn denant yn y 'Ganolfan Goedwigaeth' a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sef cyfleuster gweithle a rennir ym Mharc Eco Dyfi, ger Machynlleth. Mae'r ganolfan yn dwyn ynghyd sefydliadau sydd â diddordeb tebyg mewn cynaliadwyedd amgylcheddol, ond hefyd yn darparu man gwaith cydweithredol modern ar gyfer busnesau uchelgeisiol newydd ac ifanc.

 

"Roedd symud i'r Ganolfan Goedwigaeth yn gam mawr o ran creu amgylchedd proffesiynol i'r busnes, ond nid oedd y cysylltiad band eang ar y pryd yn ddigonol i ddiwallu ein hanghenion," meddai Hodges. "Rydym yn lawrlwytho setiau data mawr ar ddechrau bron pob prosiect ac mae maint y delweddau lloeren digidol a ddefnyddir yn y diwydiant yn mynd yn fwy ac yn fwy. Mae cyflymder uwchlwytho hefyd yn dod yn bwysicach, gyda mwy o ddefnydd o dechnoleg cwmwl a'r angen i anfon ffeiliau mawr i gleientiaid lluosog ar draws y byd."

 

Roedd dibynadwyedd hefyd yn broblem, gyda chynnal cyfarfodydd cleientiaid rheolaidd ar-lein trwy Skype yn broblem wrth i'r cysylltiad dorri. Roedd defnyddio'r rhyngrwyd i ymchwilio a datblygu technegau newydd hefyd yn mynd ag amser gwerthfawr y gellid ei ddefnyddio i ddatblygu prosiectau byw. Cafwyd sawl achlysur pan roedd rhaid i Hodges wneud y daith gron 50 munud i'w hen swyddfa gartref, er mwyn cwblhau rhai tasgau.

 

Chwe wythnos ar ôl symud i'r Ganolfan Goedwigaeth, gosodwyd a phrofwyd cysylltiad ffibr uniongyrchol, gan arwain at gynnydd mewn cyflymder lawrlwytho o 8 i fwy na 70 Mbps a chyflymder uwchlwytho yn mynd o lai na 0.5 i dros 20 Mbps ar gyfer y tenantiaid sy'n defnyddio'r adeilad.

 

Bellach, caiff gwaith ei gwblhau tair gwaith yn gyflymach

 

Yn achos Geo Smart Decisions, mae'r cysylltiad newydd wedi golygu cwblhau prosiectau mewn dim o dro. Yn ddiweddar, cwblhaodd y cwmni fapio o geo-ddata ar hyd llwybr nwy arfaethedig yn nwyrain Affrica, a oedd yn cynnwys lawrlwytho a dadansoddi cyfres o 30 delwedd lloeren eglurder uchel, o leiaf deirgwaith yn gynt nag o’r blaen.

 

"Mae'r cysylltiad newydd yn golygu ein bod bellach yn gwmni llawer mwy effeithlon ac yn buddsoddi'r amser a arferai fynd i lawrlwytho delweddau a data i brosesu a dadansoddi gwybodaeth i gleientiaid," meddai Hodges. "Mae ein cyfleuster storio cwmwl hefyd yn llawer mwy effeithlon, gan y gallwn lwytho ac adfer ffeiliau mawr mewn chwinciad o’i gymharu ag o’r blaen. Mae galwadau fideo yn ddibynadwy ac yn gweithio ar ansawdd llawer gwell, a gallwn ni gael mynediad uniongyrchol at Rwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) cleient, rhywbeth nad oedd yn opsiwn i ni o'r blaen. Yn bwysicach oll, gallwn wneud ein holl waith bellach yn ein swyddfeydd newydd."

 

Adeiladu ar gyfer y dyfodol

 

Gan ddeall pwysigrwydd cysylltedd rhyngrwyd â'r busnes, cysylltodd Geo Smart Decisions â gwasanaeth cefnogi busnes sy'n canolbwyntio ar dechnoleg, Cyflymu Cymru i Fusnesau gan fynychu gweithdy 'Ysbrydoli'. Roedd Hodges hefyd yn cael cymorth un-i-un gan ymgynghorydd arbenigol ac, ers sefydlu’r cysylltiad ffibr newydd, mae’r cwmni wedi gallu rhoi rhai o'r syniadau sy'n deillio o hynny ar waith.

 

Mae'r cwmni nawr yn ystyried datblygu ei allu cwmwl cyfrifiadurol i hwyluso tasgau oedd dipyn mwy na’i bŵer prosesu arferol. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â delweddau lloeren o ansawdd uwch sydd newydd gael eu darparu gan Asiantaeth Gofod Ewrop, trwy brosiect Copernicus. Cyn gwella’r cysylltedd, roedd lawrlwytho'r ffeiliau yn helynt.

 

Mae arbedion amser a gallu ychwanegol hefyd yn golygu y gall Geo Smart Decisions gynnal ymchwil i feddalwedd newydd a fydd yn golygu y gall y busnes brosesu a dadansoddi data daearyddol o ddronau mewn amgylchedd cwmwl. Bydd dau aelod newydd o staff yn ymuno â’r cwmni, gan gynnwys un gyda phrofiad datblygu gwe, a fydd yn mynd ati i ailwampio gwefan y cwmni cyn bo hir.

 

"Mae'r cyfuniad o gyngor gan Gyflymu Cymru i Fusnesau, y swyddfeydd newydd a'r cysylltiad rhyngrwyd uwchraddedig wedi rhoi'r hyder i ni benodi pobl a dilyn syniadau newydd. Bydd hyn yn help i ni i fwrw ymlaen â'r busnes. Mae'n amser cyffrous i'r busnes a’r gorwel yn ddi-ben-draw.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen