Mae cwmni o Abertawe sy’n gwerthu dyfeisiadau meddygol anfewnwthiol yn bwriadu ehangu i’r sector milfeddygol ar ôl defnyddio technoleg ddigidol i helpu i gynyddu ei gyfleoedd gwerthu ar-lein.

 

Mae cynhyrchion gorchudd buddy®cover QOL - gorchuddion gwarchodol sy’n dal dŵr ac y mae posib eu hailddefnyddio ar gyfer dresinau ar friwiau ar goesau - ar gael ar bresgripsiwn gan y GIG. Ond mae’r cwmni hefyd wedi gallu sicrhau bod yr ystod lawn ar gael i’w prynu ar-lein, gan gynnwys ar Amazon ac eBay.

 

Mae’r cwmni, a sylfaenwyd gan y rheolwr gyfarwyddwr Joanna Winslade yn 2011 ac a ddechreuodd fasnachu yn 2014, yn dibynnu ar dechnoleg ddigidol i ddarparu ei ystod sy’n ehangu o gynhyrchion i gwsmeriaid yn y DU, Ewrop a hyd yn oed Awstralia.

 

Woman using laptop

 

Dull digidol yn gyntaf o weithredu wedi profi’n allweddol

 

Nawr mae Ms Winslade, a sefydlodd y cwmni yn 55 oed ar ôl gweld bwlch yn y farchnad wrth nyrsio perthnasau hŷn, yn datblygu cynnyrch ar gyfer anifeiliaid. Hefyd mae’n datblygu cynnyrch newydd ar gyfer theatrau llawdriniaethau, o'r enw ‘Prep Shield’, sydd wedi’i gynllunio’n benodol i warchod y llindag a’r claf rhag paratoadau croen.

 

Mae’n credu bod agwedd digidol yn gyntaf y cwmni wedi profi’n allweddol o ran cynyddu'r sylw i’w gynnyrch ac ehangu ei gyrhaeddiad yn fyd-eang. Mis Mehefin 2018 yw ei mis mwyaf llwyddiannus eto yn ôl Ms Winslade.

 

“Roeddwn i wedi bod mewn sawl swydd weinyddol cyn dod yn ofalwr uniongyrchol i fy ewythr mewn oed a fy mam,” dywedodd.

 

“Wrth helpu i ofalu am fodryb mewn oed wnes i sylweddoli i ddechrau bod angen y cynnyrch yma. Roedd sefydlu’r busnes yn siwrnai anodd. Rydw i wedi gorfod dysgu llawer iawn mewn cyfnod byr o amser, gan gynnwys am dechnoleg ddigidol sy’n helpu fy musnes i i redeg yn fwy esmwyth.”

 

Roedd Cyflymu Cymru i Fusnesau yn fy helpu i i ganolbwyntio ar yr hyn roedd rhaid i’r busnes ei wneud er mwyn llwyddo

 

Prif lwyfan gwerthiant buddy®cover, a’i lwyfan mwyaf proffidiol, yw ei wefan, sydd â siop ar-lein sy’n darparu iddo’r elw gorau ar gynhyrchion. Mae'r cwmni’n derbyn archebion ar-lein yn ddyddiol bron, felly mae cael gwefan effeithiol wedi bod yn allweddol.

 

Ar ôl cynllunio’r safle’n annibynnol gan ddefnyddio grant gan Lywodraeth Cymru, gofynnodd Ms Winslade am gefnogaeth allanol gan Cyflymu Cymru i Fusnesau i roi hwb i draffig gwefan y cwmni a sicrhau bod y wefan mor effeithlon â phosib. Bu Ms Winslade mewn gweithdy a chafodd archwiliad ar y wefan, a oedd yn cynnwys cyngor i roi hwb i’w pherfformiad a pha mor hawdd yw ei darllen. Mae’r cwmni wedi gwella ei safle SEO drwy ddilyn arweiniad arbenigol ar Google Analytics a Google AdWords. Mae hefyd yn adolygu cynnwys ei wefan yn wythnosol i sicrhau ei bod yn cyrraedd cymaint o bobl â phosib.

 

Mae ein cleientiaid ni’n elwa o well diogelwch drwy storio data ar y cwmwl

 

Mae cyswllt rhyngrwyd dibynadwy a chyflym wedi bod yn hanfodol i fusnes Ms Winslade, yn enwedig gan ei bod yn defnyddio Skype ac e-bost i gyfathrebu â chleientiaid a dosbarthwyr rownd y cloc.

 

Hefyd mae’r cwmni wedi arbed oriau ar dasgau gweinyddol drwy fabwysiadu'r digidol. Mae’n defnyddio meddalwedd cyfrifo Xero a phortholau talu ar-lein fel PayPal a Global Iris. Hefyd mae ei gleientiaid yn elwa o well diogelwch wrth i’r cwmni ddefnyddio system storio data ar y cwmwl o’r enw Synology, sy’n helpu i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

 

Dywedodd Ms Winslade: “Mae’r gefnogaeth ddigidol rydyn ni wedi’i chael gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi rhoi hyder i mi, ac adnoddau addas, i wneud fy ngwaith. Mae wedi helpu fy nghwmni i i fod yn fwy proffesiynol yn gynt.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen