Pan sefydlodd Michael Feakes ei gwmni ei hun ym mis Chwefror, roedd eisiau cynnig profiad gwahanol i’w gleientiaid i’r hyn yr oedd wedi’i weld gyda chwmnïau corfforaethol mawr yr oedd wedi gweithio ynddynt ers 20 o flynyddoedd. Am gyfnod hir roedd wedi gweld sut y gallai anghydfodau cyfreithiol flino ei gleientiaid, ac fe wyddai am ffordd i ysgafnhau’r baich.

Dywed Michael, “Yn aml mae pobl mewn sefyllfaoedd o straen yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth dderbyn cyfarwyddyd y tu hwnt i’r anghydfod; boed hynny yn eu cartref neu yn y gweithle. Ond yn aml maen nhw’n teimlo wedi’u digalonni mewn swyddfa gorfforaethol, ac yn poeni am ffitio cyfarfodydd o amgylch gofal plant neu eu hanghenion dyddiol eraill.”

 

Man sat next to computer

 

Felly fe benderfynodd mynd i ymweld â chleientiaid ble bynnag yr oeddynt yn teimlo’n fwyaf cyfforddus ac ar amser oedd yn fwyaf addas iddyn nhw. Gan wybod y byddai digidol yn caniatáu iddo fod yn gwbl symudol, gostwng ar gyfaint y papur yr oedd yn cludo o gwmpas gydag ef, ac yn arbed ar gostau, gwyddai Michael y byddai’r cyfan o fudd iddo ef a’i gleientiaid.

Ac fe brofodd hi felly hefyd. Mae Feakes and Co yn arbenigo mewn datrys anghydfodau, gan gynnwys anghydfodau profiant ac ewyllys, materion cyflogaeth a chyfreitha eiddo, gyda chleientiaid yn ymestyn o Dde-ddwyrain Cymru i Orllewin Lloegr. Mae cleientiaid yn gynyddol yn ceisio cymorth Michael gan ei fod yn cynnig yr un arbenigedd â chwmnïau cyfreithiol corfforaethol ond gwasanaeth sy’n canolbwyntio’n fwy ar y cwsmer.

“Pan fyddaf yn ymweld â fy nghleientiaid, rwy’n gallu agor fy ngliniadur ac mae gennyf bopeth yr wyf ei eisiau ar flaenau fy mysedd: manylion cyswllt, manylion achos, dogfennau i gleientiaid a mwy. Nid yw’n gysyniad newydd ond pan ddaw hi at redeg busnes, mae digidol yn effeithlon iawn wrth gadw’r busnes mor syml ac mor hyblyg â phosibl ac mae’n dangos hefyd pa mor bwysig yw technoleg ym mywydau pobl.”

Defnyddia’r busnes system rheoli achosion ar-lein – Leap – sy’n storio manylion cleientiaid, yn rheoli eu data ac yn awtomeiddio dogfennau ac Office 365 ar gyfer creu, storio a chyfathrebu cynnwys. Ac yn awr mae’r amser yr oedd Michael yn ei dreulio ar reoli ffeiliau, yn chwilio am wybodaeth neu’n creu dogfennau print gynt yn canolbwyntio ar ddarparu cyngor cyfreithiol i’w gleientiaid.

Ar ôl ymrwymo i fodel digidol ar gyfer y busnes, mynychodd Michael weithdy ym mis Mawrth 2018 gan Gyflymu Cymru i Fusnesau ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn canolbwyntio ar ehangu ei sylfaen gwsmeriaid ac yn y pendraw cynhyrchu mwy o werthiannau trwy dechnegau marchnata.

“Roeddwn yn awyddus i gael cymaint o gymorth â phosibl wrth ddatblygu fy sgiliau cyfryngau cymdeithasol oherwydd ei fod yn un agwedd yr oeddwn yn ystyried fy hun yn nofis. Roedd y cwrs yn agoriad llygad – mae rhai o’r awgrymiadau yn swnio’n amlwg yn awr, ond yn ddatguddiad llwyr i mi ar y pryd,” dywedodd Michael.

Derbyniodd Michael gyngor digidol un i un hefyd a’i anogodd i ddatblygu strategaeth cyfryngau cymdeithasol, gan roi cyngor ar y math o gynnwys a’r amseru, ynghyd ag awgrymiadau gwych ar werth SEO y wefan, gan helpu i sicrhau bod ei farchnata ar-lein yn rhagweithiol ac yn berthnasol.

“Mae’n ddyddiau cynnar i’r busnes o hyd, ac rwy’n cadw llygad barcud ar y farchnad ac yn gobeithio gallu ehangu a chynyddu ar nifer y cyfreithwyr yn y cwmni i bedwar neu bump, gyda phob un yn arbenigo mewn gwahanol feysydd.”

“Bydd unrhyw ehangiad yn parhau ar y model digidol ac o bell, gan gadw gorbenion yn isel a sicrhau ein bod ni mor hyblyg ag sy’n ymarferol bosibl. Rwy’n argyhoeddedig trwy fod yn ddigidol daw’r busnes yn agosach at bobl, yn y fan ac ar yr amser y maen nhw angen y cymorth mwyaf.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen