Mae cwmni peirianneg sifil, adeiladu a gwaith tir yn y Drenewydd yn dal i dyfu ar ôl buddsoddi’n sylweddol mewn systemau TG a seilwaith digidol newydd. Mae defnyddio technoleg newydd wedi galluogi EvaBuild i ragweld twf o 20% blwyddyn ar ôl blwyddyn am y 3 blynedd nesaf.

 

"Ers cyflwyno'r TG, rydym wedi cynyddu cynhyrchiant cyffredinol o 50% sy’n golygu nad oes oedi bellach â’r timau’n aros am wybodaeth o ymweliadau safle, arolygon ac archwiliadau sy’n digwydd ledled y Deyrnas Unedig," esboniodd rheolwr y prosiect Rhys Jeremiah. "Rydyn ni nawr yn ystyried mabwysiadu system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid integredig (CRM), fel ffordd o ddatblygu ein cyfathrebu mewnol ac allanol ymhellach gan fod nifer ein cwsmeriaid yn parhau i dyfu."

 

 

Sefydlwyd Evabuild yn 2011, ond daeth adeg pan roedd angen arallgyfeirio'r gwasanaethau a gynigiwyd er mwyn cynyddu nifer y cwsmeriaid. Edrychodd y cwmni at dechnoleg ddigidol i gefnogi ei uchelgais i dyfu'r busnes, a chysylltodd EvaBuild â rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau (SFBW) Llywodraeth Cymru am gymorth.

 

Ar ôl mynychu un o weithdai technoleg ddigidol Cyflymu Cymru i Fusnesau, a chyfarfod un-i-un gydag ymgynghorydd busnes digidol, cyflwynodd y cwmni nifer o newidiadau allweddol i'w seilwaith TG. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno meddalwedd Office 365 ar draws y busnes, gan alluogi staff i gael mynediad o bell a rhannu dogfennau.

Mae EvaBuild hefyd wedi cyflwyno ei Rwydwaith-Atodedig (NAS) ei hun, gan greu darpariaeth ychwanegol ar gyfer storio data a chaniatáu i aelodau allweddol o’r tîm ddefnyddio meddalwedd hanfodol ar gyfer busnes, ble bynnag y bônt yn y wlad. Gyda nifer o staff yn treulio mwy na thraean o'u hamser ar y ffordd, mae mynediad o bell i feddalwedd allweddol, fel Vector, system dendro newydd y cwmni, a'r gallu i rannu gwybodaeth yn syth bin ar draws y busnes gan ddefnyddio apiau fel FormConnect, yn newid byd i EvaBuild.

Mae’r arbedion effeithlonrwydd a wnaed ar draws y busnes hefyd wedi annog y cwmni i ystyried defnyddio'r feddalwedd Adeiladu Modelu Gwybodaeth (BIM) diweddaraf. Byddai'r datblygiad cyffrous hwn, sy’n galluogi'r tîm i ddefnyddio modelau 3D deallus i weithio ar y cyd â dylunwyr adeiladau a chontractwyr eraill ar brosiectau cymhleth, yn cynnig potensial enfawr i ni fel cwmni i ehangu'r hyn y gallwn ei gynnig, yn ôl Mr Jeremiah.

"Mae Modelu Gwybodaeth Busnes fel agwedd yn trawsnewid y ffordd y mae amryw o gwmnïau'n gwneud busnes yn y sector adeiladu ac rydym am sicrhau ein bod ni yno ar flaen y gad," meddai Mr Jeremiah.

"Mae'r manteision a ddaw yn sgil ein buddsoddiad mewn technoleg eisoes yn amlwg, ond rydym am barhau ar y daith sy’n golygu gwella'r holl feysydd busnes, o’r gwasanaethau a ddarparwn i'n cwsmeriaid i ddefnyddio technoleg ddigidol i hyrwyddo twf y busnes, trwy godi ymwybyddiaeth brand, cynyddu cyrhaeddiad a denu cwsmeriaid newydd."

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen