Mae cwmni peirianneg sifil a strwythurol o Ffynnon Taf wedi tyfu 300% a chyflogi chwe aelod newydd o staff ers iddo ddechrau defnyddio technoleg cwmwl i integreiddio’i systemau a symleiddio’i brosesau.

 

Nid yw’n beth arferol mabwysiadu technoleg fodern mewn diwydiant sy’n aml yn gysylltiedig â dulliau mwy traddodiadol. Ond mae’r peirianwyr ymgynghorol Intrado Consulting Engineers yn argyhoeddedig ei fod wedi gweddnewid y ffordd y mae’r cwmni’n gweithredu.

 

Man and woman stood on construction site

 

“Mae wedi rhoi mantais i ni mewn diwydiant cystadleuol iawn”

 

“Fel rhan o’n strategaeth ar gyfer twf, yr oeddem eisiau canfod ffordd i alluogi pobl i wybod fod prosiectau Intrado yn rhedeg yn esmwyth ac yn gyflym. Nid ydym yn dweud mai’r elfen ddigidol yw’r unig reswm dros hyn, ond mae wedi symleiddio ein prosesau mewnol ac wedi rhoi mantais i ni mewn diwydiant cystadleuol iawn”, meddai Darren Sparkes, un o dri chyfarwyddwr y busnes.

 

Sefydlwyd y cwmni yn 2006 a phenderfynodd gofleidio’r byd digidol yn 2015 pan gyflwynodd feddalwedd Modelu Gwybodaeth am Adeiladau i gynnig i gleientiaid fodelau delweddu digidol, diweddariadau amser real ar brosiectau, a gwell rheolaeth ar gadwyni cyflenwi. Hefyd cyflwynodd adnodd cyfrifyddu ar-lein i reoli llif arian, lleihau gweinyddiaeth a chynllunio prosiectau’n effeithlon.

 

Heb amheuaeth, mae symud i’r digidol wedi talu ar ei ganfed. Mae’r cwmni’n gweithio ar ystod o brosiectau masnachol ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat; o adeiladu ysgolion a chartrefi gofal, cynlluniau tai a seilwaith newydd a gwasanaethau domestig fel arolygon eiddo. Ac er bod ganddo sylfaen hynod gref yn Ne Cymru, mae cleientiaid Intrado yn ymestyn dros y DU gyfan ac Ynysoedd y Sianel.

 

“Mae symud i’r cwmwl yn golygu ein bod yn gallu cynllunio prosiectau’n fwy effeithlon”

 

Mae’r busnes yn gwneud mor dda yn rhannol oherwydd buddsoddiad y cwmni mewn modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM) sydd o’r radd flaenaf. Mae gan y system lawer mwy o allu na CAD ac mae’n gallu pontio’r bwlch rhwng lluniau 2-D a modelau 3-D, gan ddefnyddio data i gynhyrchu model digidol o brosiect cyfan. Mae’n galluogi’r cwmni i gydlynu gwybodaeth fanwl am brosiectau, darparu diweddariadau amser real am brosiectau i gleientiaid, a chydlynu’n fwy effeithlon i fyny ac i lawr y gadwyn gyflenwi gwaith adeiladu.

 

Mae rhesymau eraill pam fod y cwmni’n gallu cynnig gwasanaeth mor gystadleuol. Ei staff, wrth gwrs, a QuickBooks, adnodd cyfrifyddu seiliedig ar y cwmwl. “Mae newid i’r cwmwl yn golygu y gallwn gynllunio prosiectau’n fwy effeithlon a threulio llai o amser ar waith gweinyddol,” meddai Sparkes. “Mae QuickBooks yn ddiogel iawn ac mae’n gwneud llawer mwy na dim ond rheoli cyfrifon cleientiaid. Un ffordd yr ydym yn ei ddefnyddio yw i gael adroddiadau ar sut yr ydym yn perfformio ar draws gwahanol sectorau diwydiant fel y gallwn gynllunio. Ac rydym hefyd yn ei ddefnyddio i dargedu adnoddau’n effeithiol pan fyddwn yn tendro am brosiectau newydd.”

 

“Rydym yn hyderus iawn y gallwn ymestyn ein sylfaen gwsmeriaid gan ddefnyddio adnoddau digidol”

 

Ar ôl gweld y fath drawsnewid gyda digidol, ceisiodd Sparkes arbenigedd Cyflymu Cymru i Fusnesau. Cynigiodd y gwasanaeth le i Stokes ar weithdy cyfryngau cymdeithasol fel y gallai ddysgu sut i wneud y gorau o lwyfannau a rhoi cychwyn ar strategaeth farchnata ddigidol. A rhoddodd gyngor un-i-un iddo hefyd ynghylch ystod o wahanol welliannau digidol eraill a allai helpu twf a chefnogi prosesau a symleiddiwyd.

 

Rydym eisiau cynyddu ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol a gwneud defnydd da o’r sianelau cywir i farchnata’n hunain i ddaearyddiaeth ehangach, ac mae defnyddio Twitter a LinkedIn yn golygu y gallwn wneud hynny. Yr adolygiad o’r wefan ac argymhellion gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, yw’r cam olaf o ran sicrhau fod ymwelwyr â’r wefan yn troi’n gwsmeriaid. Rydym yn hyderus iawn y gallwn ymestyn ein sylfaen gwsmeriaid gan ddefnyddio adnoddau digidol oherwydd rydym wedi gweld drosom ein hunain sut y mae’n newid pob dim er gwell,” meddai Sparkes.

 

“Mae cyfathrebu - yn fewnol ac allanol - wedi gwella, ac felly hefyd ein gallu o ran peirianneg. Mae’n golygu hwyluso ein ffordd o weithio ac y sicr bydd technoleg yn chwarae rhan sylweddol i’n cynorthwyo i dyfu’r busnes wrth symud ymlaen.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen