I athletwyr o’r safon uchaf, mae perfformiad yn hollbwysig, ffaith y mae Bearhug, sy’n cynhyrchu cynheiliaid cymalau siarcol bambŵ, yn gwbl ymwybodol ohoni. A boed yn ifanc neu’n hŷn, yn ddechreuwyr pur neu’n athletwyr proffesiynol, mae pawb yn elwa o ‘hug’ wrth ennill y blaen ar gystadleuwyr eraill. Mae perfformio i’w gallu llawn yn dod yn naturiol i’r cwmni hwn. Felly does dim syndod bod rhaglen ffitrwydd digidol yn seiliedig ar hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol gweledol a pherfformiad gwych ar y we, wedi’u hatgyfnerthu gan fasged Shopify ar gyfer gwerthiannau ar-lein, wedi cynyddu’r ‘bear pack’ 50% mewn pum mis. A phan fydd taliadau symudol yn rhan o’r cit o 2020, ni fydd unrhyw beth yn atal y Bear!

 

 

Alexander Davies, Prif Adeiladwr Brand

"Dechreuodd Bearhug yn Rhagfyr 2016. Ni wedi ein lleoli yng Nghaerffili a ni’n creu ‘supports’ chwaraeon allan o ‘bamboo charcoal’. Cwsmer arferol BearHug bydd rhywun sydd efo poen o ymarfer chwaraeon.

Mae’r we’n hollbwysig i Bearhug. Yn sylfaenol, ry’n ni’n gwmni sy’n gwerthu trwy’r we. Trwy fod ar y we ry’n ni’n gwerthu ein cynyrch trwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein gwefan ni ein hunain. Mae Shopify wedi caniatáu i ni ddatblygu’r busnes trwy’r systemau sydd ar gael, yn enwedig xero, sy’n system cyfrifo cwmwl.

Ni’n gallu gweld ein hunain yn defnyddio taliadau symudol a ni wedi profi hyn yn barod yn siop pop-up yng Nghaerdydd trwy ddefnyddio’r platfform Square.

Ni’n gwybod pwy sy’n dod i’r wefan trwy ddefnyddio pethau fel Google Analytics a Google My Business.

Dywedodd rhywun wrth un o’n cyfarwyddwyr amdano Cyflymu Cymru i Fusnesau ac awgrymwyd e i fynd ar un o’r cyrsiau SEO.

r ôl hynny roedden ni wedi cael hyfforddiant 1:1. Yn dilyn awgrymiadau gan yr hyfforddwr ni wedi creu fersiwn newydd o’r wefan sy’n fwy integredig efo Shopify. O Fawrth i Awst 2019 mae gwerthiannau’r gwefan wedi tyfu 50% oherwydd ein marchnata digidol.

Ar gyfer ein marchnata digidol ni’n defnyddio Facebook Ads, Google Ads a Pay-Per-Click ac o hwn ni’n gallu gweld bod ymwelwyr i’n gwefan wedi tyfu 44%.

Mae Bearhug yn frand gweledol iawn felly mae Facebook ac Instagram yn hollbwysig i ni.

Mae Bearhug wedi gweld cynnydd arbennig ar y dechrau a trwy fod yn ddigidol ffit mae’n debygol o barhau."

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen