Mae gwneuthurwyr mawr byd-eang yn gosod cynnyrch arloesol yn eu fflydoedd yn y ffatri neu maen nhw’n cael eu hôl-ffitio, ac mae hynny’n sbarduno twf pellach ar gyfer y busnes yng Nghaerdydd sydd y tu ôl i'r syniad.

 

Mae FuelActive yn cael gwared ar broblemau halogi tanwydd ac mae ar y trywydd iawn i dyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf, gyda'r rhan fwyaf o'i fusnes yn dod o dramor.

 

Mae cyngor gan Gyflymu Cymru i Fusnesau wedi gwella ein presenoldeb a galluoedd digidol

Roedd y cwmni wedi troi at Gyflymu Cymru i Fusnesau i gyflwyno prosesau a gweithdrefnau digidol yn gyntaf er mwyn ymdopi â'r broses ehangu.

 

Dywedodd Claire Bentley, pennaeth marchnata a gweithrediadau: “Roeddem ni’n arfer defnyddio Microsoft Excel i reoli'r rhan fwyaf o'n prosesau mewnol ac allanol. Fodd bynnag, rydym ni’n ymwybodol iawn ei bod hi’n hanfodol ffurfioli a diweddaru ein gweithrediadau er mwyn sicrhau bod twf a reolir yn parhau a’n bod ni’n cynnal lefelau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid. O ganlyniad, fe wnaethom ni gysylltu â Chyflymu Cymru i Fusnesau i ofyn am gymorth i ddatblygu ein systemau.

 

Y cyngor gan dîm Cyflymu Cymru i Fusnesau oedd ein bod ni’n ymuno â gweithdy meddalwedd rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM). Cawsom gyngor ac arweiniad gwerthfawr ar CRM a rheoli adnoddau dynol (HRM) ac ers y sesiwn rydym ni wedi cyflwyno sawl system Sage ac wedi recriwtio unigolion â sgiliau perthnasol i fynd â'r busnes yn ei flaen.

 

“Rydym ni wedi cael cyngor ar weithrediadau sy'n gysylltiedig â'n gweithgareddau allforio, a all fod yn eithaf cymhleth am fod gan wahanol wledydd ofynion cyfreithiol a chydymffurfiaeth penodol. Gallwn ddiweddaru nodiadau'r cleient yn Sage a'u defnyddio o bell - sy’n gwella effeithlonrwydd ac yn osgoi unrhyw oedi diangen. Mae eu cyngor wedi gwella ein presenoldeb a'n galluoedd digidol yn ogystal â gwella ein brand a gweithgareddau sy'n wynebu’r cwsmer.”

 

“Mae cael ôl troed digidol gwell wedi agor drysau newydd yn fyd-eang”

 

Mae FuelActive yn disodli'r bibell codi tanwydd safonol ac yn cyflenwi diesel glân i'r llinellau tanwydd, ac yn gadael y dŵr a’r gwaddod yn y tanc. Felly, ni fydd yr hidlwyr na'r injan fyth yn cael eu halogi. Credir mai hwn yw’r unig ddull o'r fath i osgoi halogi tanwydd. Mae'r manteision yn cynnwys gwell economi tanwydd, llai o allyriadau, costau cynnal a chadw is a chynhyrchiant uwch yn sgil llai o amser di-fynd.

 

Mae'r ateb arloesol i broblem fyd-eang nawr yn cael ei gyfathrebu drwy bresenoldeb ar-lein wedi'i ailwampio sy’n cynnwys ail-frandio a gwefan newydd, sydd wedi denu cleientiaid newydd yn barod.

 

Mae'r cwmni'n gweithredu yn y sectorau morol, adeiladu a mwyngloddio, milwrol, cynhyrchu pŵer, amaethyddiaeth a thrafnidiaeth, gyda chleientiaid yn Affrica, Asia, De America ac Ewrop.

 

Woman stood in factory with barrels in background

 

Ychwanegodd Claire: “Roedd ein gwefan a'r brandio yn hen ffasiwn. Cafodd y ddeubeth eu gweddnewid i adlewyrchu ansawdd y cynnyrch. Rydym ni’n cael ein cymryd yn fwy o ddifrif yn y farchnad, a hefyd yn denu cwsmeriaid newydd yn ogystal â chadw cwsmeriaid presennol yn fwy effeithiol.

 

“Mae cael ôl troed digidol gwell wedi agor drysau newydd yn fyd-eang. Mae'r wefan sydd wedi’i hadfywio wedi cyfrannu’n sylweddol at ein llwyddiant ac wedi cyfrannu at ennill ein contract mwyaf hyd yma. Rydym ni’n gallu llwytho i fyny astudiaethau achos yn ddidrafferth ac edrych ar ddadansoddiadau i weld pa dudalennau sydd fwyaf poblogaidd. Gan fod gennym ni gwsmeriaid ar hyd a lled y byd, mae fideo gynadledda yn bwysig iawn. Rydym ni’n defnyddio Zoom Video Communications a Skype i hwyluso hyn ac yn elwa ar fand eang ffibr, felly ni fyddwn byth yn colli cysylltiad.

 

“Yn sgil ein llwyddiant bu’n bosibl i ni gynnig mwy o gyfleoedd cyflogaeth, gan gynyddu ein tîm lleol a rhyngwladol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i bobl gael profiad gwaith. Anogir ein tîm hefyd i ddatblygu eu sgiliau personol a phroffesiynol drwy ymgymryd â hyfforddiant perthnasol er mwyn iddynt gael yr wybodaeth angenrheidiol yn ystod y cyfnod cyffrous hwn o uwchraddio cyflym.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen