Mae cyfleuster preswyl moethus ar gyfer cŵn yn Sir Benfro yn ehangu, gyda gweithgarwch y busnes ar Facebook yn ei wneud yn bosibl.

 

Mae’r galw am leoedd yng Nghartref Preswyl Moethus ar gyfer Cŵn Millin Brook, encil yng nghanol y wlad i gŵn, wedi synnu’r perchnogion, Sian a Dave Smith, a lansiodd y cwmni yn y lle cyntaf ym mis Ebrill 2018. Nid oes unrhyw gytiau metel traddodiadol i’w gweld, gyda’r tîm o ŵr a gwraig yn cynnig cyfforddusrwydd cyflawn yn eu heiddo deg acer.

 

Wedi’i drwyddedu a’i yswirio yn llawn, gallan nhw gymryd hyd at bump o gŵn ar y tro ar hyn o bryd. Bydd yr estyniad yn cynyddu hyn i ddeg ar hugain o gŵn a bydd yn ogystal yn creu swyddi.

 

Nid yw Sian a Dave ar eu pennau eu hunain wrth iddyn nhw weithio yn agos gyda’r cŵn sy’n dod yno i aros. Mae eu meibion, Ben sy’n naw oed a Jacob sy’n saith oed yn helpu wrth fynd â’r cŵn am dro, yn ogystal â chwarae cuddio a chwilio gyda’r AAPI (anifeiliaid anwes pwysig iawn). Pennaeth eu gwasanaethau i westeion ac adloniant yw Barnaby, Labrador du’r teulu.

 

Picture of family in living room with 2 dogs

 

“Mae ein busnes ni wedi cael ei sbarduno yn bennaf gan Facebook”

Dywedodd Sian, sydd wedi ymddeol o’r heddlu ar ôl 20 mlynedd o wasanaeth, gyda 13 o’r rhain fel swyddog ar gefn ceffyl: “Roeddem ni eisiau creu rhywle y byddem ni’n hapus i anfon ein ci. Yn y gwanwyn, bydd gennym ni ddeg o ystafelloedd modern dros ben, pob un gyda lle byw mawr, ystafell chwarae, gwelyau moethus, gwres dan y llawr, bowlenni dŵr sy’n llenwi’n awtomatig a’n bisgedi cŵn gyda ein brand ein hunain. Byddwn hefyd yn chwarae cerddoriaeth glasurol ac yn trwytho’r aer gydag olew lafant er mwyn helpu’r cŵn i fod yn dawel ac ymlaciedig.

 

“Bydd ein gwesteion yn cael y cyfle hefyd i ddefnyddio’r sba a chael eu maldodi a’u hymbincio cyn cael tynnu eu llun mewn stiwdio wedi’i hadeiladu yn bwrpasol.

 

“Ni fyddai hyn yn bosibl heb lwyddiant rhyfeddol y busnes, sydd wedi cael ei sbarduno yn bennaf gan Facebook. Mynychais gwrs Cyflymu Cymru i Fusnesau ar farchnata digidol er mwyn deall mwy am y maes hwn o redeg busnes a dysgais cymaint o bethau yr wyf wedi gallu eu defnyddio yn Millin Brook.

 

“Wnes i ddim sylweddoli faint o gefnogaeth oedd ar gael”

“Mae hyn wedi fy nysgu am y gwahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael, ar gyfer beth i’w defnyddio, sut i gadw brandio a hashnodau yn gyson drwy’r holl sianelau, a sut i’w defnyddio nhw i’w llawn botensial.

 

“Er enghraifft, gwnaethom ddefnyddio hysbysebu ar Facebook i gyflwyno’r busnes, ond gwnaethom gadw’r gost i lawr drwy dargedu pobl drwy ddiddordeb a lleoliad. Mae Facebook yn awr yn gyfrifol am 70 y cant o’n trosiant. Gwneuthum hefyd ddarganfod Google My Business, sy’n bwysig iawn i’n hyrwyddo yn lleol mewn canlyniadau chwilio Google, ac mae ein gwefan yn gyfrifol am y 30 y cant arall o drosiant.

 

Mae Sian hefyd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i roi tawelwch meddwl i berchnogion, fel y gallan nhw fwynhau eu gwyliau, o wybod bod eu cydymaith yn cael hwyl fawr.

 

“Rydym yn mynd â’r cŵn am anturiaethau o gwmpas traethau a chefn gwlad syfrdanol Sir Benfro ac rydym yn cyhoeddi lluniau a fideos ar Facebook,” ychwanegodd hi. “Os yw gwestai yn aros gyda ni am o leiaf wythnos, rydym hefyd yn anfon cerdyn post ohonyn nhw yn mwynhau eu harhosiad. Mae’r perchnogion yn aml yn rhannu’r cardiau post ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n helpu i ledaenu’r gair ynglŷn â’n brand.

 

“Mae ein poblogrwydd yn anhygoel. Cawsom hyd yn oed rhywun yn aildrefnu eu gwyliau oherwydd ein bod yn llawn!”

 

Bydd meddalwedd cwmwl yn rheoli ein holl archebion a bydd yn lleihau ein gwaith gweinyddol

Yn ogystal, datgelodd sesiwn dilynol 1-2-1 gyda chynghorwr Cyflymu Cymru i Fusnesau fod atebion digidol pellach er mwyn helpu’r busnes wrth iddo dyfu.

 

Ychwanegodd Sian: “Rydym yn defnyddio dyddiadur papur, sy’n iawn pan mae gennych chi bum ci yn unig. Fodd bynnag, wrth inni gymryd mwy, rydym ni angen system fwy soffistigedig. Byddwn yn defnyddio meddalwedd rheoli cytiau cŵn, Kennelbooker, a fydd yn rheoli’r archebion yn ogystal â storio gwybodaeth hanfodol, yn cynnwys manylion cyswllt mewn argyfwng, manylion y milfeddyg, brechiadau, nodiadau penodol i’r cŵn, anghenion bwyd, anghenion meddygol a lluniau.

 

“Byddwn yn gallu cael mynediad at yr ap o hirbell, ac felly os ydym yn cerdded gwestai ar y traeth ac rydym ni angen gwybod rhywbeth, mae gennym ni’r wybodaeth honno ar gledr ein llaw. Gallwn ni hefyd ei ddefnyddio ar gyfer anfonebu, a fydd yn lleihau’r amser a dreulir wrth wneud gwaith gweinyddol.

 

“Wnes i ddim sylweddoli faint o gefnogaeth oedd ar gael. Rydw i wedi cael cymaint o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen